“Dydy bod yn ddi-glem ddim yn rhinwedd gwych ar gyfer Prif Weinidog” oedd ymateb Jeremy Miles, yn dilyn ymweliad Rishi Sunak, Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig, â Chymru heddiw (dydd Iau, Mai 23).

Wrth ymweld â Chymru drannoeth cyhoeddi etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4, fe fu Sunak yn holi gweithwyr mewn bragdy ym Mro Morgannwg a ydyn nhw’n edrych ymlaen at wylio cystadleuaeth bêl-droed Ewro 2024 – er nad yw Cymru wedi cymhwyso.

“Ydych chi’n edrych ymlaen at y bêl-droed, at gael pobol i mewn?” gofynnodd.

“Bydd pobol yn dod i mewn, bydd yn haf mawr o chwaraewr.”

Ond fe wnaeth un o’r gweithwyr dorri ar ei draws, gan ddweud, “Dim ond os ydych chi’n cefnogi Lloegr!”

Wrth ymateb i’r gwall, dywedodd Jeremy Miles ar X (Twitter gynt): “Dydy bod yn ddi-glem ddim yn rhinwedd gwych ar gyfer Prif Weinidog.”

‘Boncyrs’

Ond yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’n “boncyrs” meddwl na fydd cefnogwyr yng Nghymru’n gwylio’r Ewros.

“Cafodd y Prif Weinidog sgwrs dda gyda nifer o bobol y prynhawn yma, gan gynnwys ynghylch Southampton, Gareth Bale, Russell Martin a gêm ddarbi de Cymru,” meddai ar X (Twitter gynt).

“Tan yn ddiweddar, doedden ni ddim wedi cymhwyso ar gyfer prif dwrnament ers degawdau.

“Mae’r syniad na fyddwn ni’n gwylio’n boncyrs.”