Dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhad ac am ddim i bobol ifanc dan 25 oed, yn ôl un o bwyllgorau Senedd Ieuenctid Cymru.

Fe wnaeth ymchwil gan y Pwyllgor Hinsawdd ac Amgylchedd ganfod fod pobol ifanc eisiau defnyddio opsiynau teithio mwy cynaliadwy, ond mai’r gost sy’n eu hatal nhw.

Mae’r adroddiad Ffyrdd Gwyrdd yn nodi bod saith ym mhob deg o’r 1,300 wnaeth ymateb yn ystyried yr effaith amgylcheddol wrth benderfynu sut i fynd i rywle.

Dim ond 22% ddywedodd fod pris tocynnau bws yn dda neu’n dda iawn, a dim ond 21% ddywedodd yr un fath am drenau.

Byddai bron i hanner y bobol ifanc wnaeth ymateb yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn llawer amlach pe bai am ddim i bobol 25 oed, yn ôl yr ymchwil.

“Yn seiliedig ar yr ymatebion, fe wnaethon ni ganfod ambell brif bwynt – sef ehangu llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, cael gwasanaethau amlach a sicrhau bod gwasanaethau’n ddibynadwy,” meddai Hermione Vaikunthanathan-Jones, sy’n aelod o’r Pwyllgor Amgylchedd ac yn cynrychioli Gŵyr yn Senedd Ieuenctid Cymru, wrth golwg360.

‘Gwella cynaliadwyedd’

Roedd rhoi trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobol ifanc wedi cael ei awgrymu gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru y llynedd, ac mae Hermione Vaikunthanathan-Jones, sy’n 16 oed ac yn byw mewn ysgol breswyl yn Llanilltud Fawr ac yn dibynnu ar fysiau, yn awyddus iddi gael ei chyflwyno.

“Yn enwedig i fy ysgol i, mae gennym ni nifer o ddisgyblion rhyngwladol, a byddai gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim yn ddefnyddiol iawn,” meddai.

“Yn ehangach dros Gymru, byddai’n ddefnyddiol iawn i bobol ifanc. Mae costau yn gallu cyfyngu ar bobol, drwy wneud e am ddim byddai’n fwy hygyrch i ystod ehangach o bobol.”

Cynaliadwyedd a lleihau ôl-troed carbon y wlad oedd prif reswm y pwyllgor dros ymgymryd â’r ymchwil, yn ôl Hermione Vaikunthanathan-Jones.

“Byddai cynyddu trafnidiaeth gyhoeddus, gobeithio, yn gwella cynaliadwyedd gan y byddai’n annog mwy o bobol i’w defnyddio a lleihau eu heffaith bersonol nhw ar yr amgylchedd.

“Mae ein hadroddiad wedi hel data sy’n dangos beth mae pobol ifanc eisiau ei weld er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy a diogel.

“Mae pobol ifanc yn ymwybodol o effaith negyddol a’r risgiau i’n hinsawdd ar hyn o bryd, felly rydyn ni am fynd â’r camau a’r materion hyn at Lywodraeth Cymru a’u hamlygu nhw.

“Rydyn ni eisiau galw ar y Llywodraeth i wneud yn siŵr fod pobol yn teithio’n fwy cynaliadwy fel y gallwn ni fel gwlad ostwng ein hôl-troed carbon.”

Argymhellion

Mae adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru’n cynnwys 13 o argymhellion, gan gynnwys:

  • sicrhau bod ysgolion yn rhoi mwy o bwyslais ar wella dealltwriaeth pobol ifanc o sut fedran nhw deithio’n gynaliadwy yn eu hardal nhw
  • hyrwyddo teithio cynaliadwy a chodi ymwybyddiaeth
  • cyflwyno rhaglenni i roi mynediad i bobol ifanc at offer fel beiciau, a sicrhau bod llefydd diogel i bobol barcio beiciau.
  • gwella cysylltiadau rhwng gwahanol fathau o deithio cynaliadwy.
  • cael gwared ar rwystrau sy’n wynebu rhai grwpiau, megis pobol ag anableddau a phobol niwroamrywiol, pan mae hi’n dod at drafnidiaeth gyhoeddus.
  • buddsoddi mewn llwybrau beic a llwybrau cerdded, a’u cynnal nhw.

Mae’r galwadau hefyd yn cynnwys sicrhau gwasanaeth bysiau a threnau mwy dibynadwy.

“Mae’r ffaith fod yna gymaint o drenau a bysus yn cael eu gohirio a bod pethau mor ansicr yn achos arall dros pam nad ydy pobol yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn mynd i’w ceir yn lle,” meddai Hermione Vaikunthanathan-Jones.

Ynghyd â hynny, maen nhw am weld ymgyrch i leihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol a gwahaniaethu yn erbyn rhai grwpiau o bobol ifanc sy’n cael eu gwthio i’r cyrion.

“Mae hyn yn hollbwysig. Dw i’n gwybod bod yna bobol yng Nghymru, a dros y byd, sy’n teimlo fel nad ydyn nhw’n gallu gwneud rhywbeth [gan gynnwys defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus] yn sgil gwahaniaethu,” meddai.

“Er mwyn sicrhau nad ydy hynny’n digwydd, dw i yn meddwl bod angen iddo fod yn rhan ganolog o system ysgolion fel bod pobol yn cael eu dysgu fod gwahaniaethu’n gwbl annerbyniol achos mae’n atal pobol eraill rhag cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau.”

‘Annibynadwy ac amserlenni cyfyng’

Tynnodd llawer o’r ymatebwyr sylw hefyd at argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus fel rhwystr difrifol, gyda phobol ifanc o ardaloedd gwledig yn pryderu’n arbennig am y mater.

Un sy’n cytuno â hynny yw Glain Williams, myfyrwraig 20 oed yng Nghaerdydd sy’n dod o bentref Trawsfynydd yng Ngwynedd.

“Dw i’n meddwl fod prisiau bysus yn rhesymol fel mae hi, y broblem ydi bod bysus yn annibynadwy a bod yr amserlenni reit gyfyng,” meddai wrth golwg360.

Byddai cwtogi prisiau trenau ar gyfer siwrnai pellach o fudd i bobol ifanc, meddai, a hithau’n defnyddio’r trên i fynd a dod o’r gogledd i Gaerdydd yn weddol aml.

“Mae prisiau teithiau byr, o Cathays i Bontypridd neu o Gaerdydd Canolog i Ynys y Barri yn rhesymol dros ben.

“Er, mae teithiau hirach dipyn drytach, o Gaerdydd i Fangor yn costio tua £60, er enghraifft, ac mae hynny’n cynnwys cerdyn rheilffordd. Fedri di gael hediad i Ewrop am y pris yna!

“Dw i’n meddwl fysa lot mwy o ddefnydd ar drenau os fysa nhw’n rhatach ar gyfer teithiau hir.”