Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi’r rhaglen lawn ar gyfer eu cynhadledd, ‘Yr Hawl i Dai Digonol – Beth sy’n Bosibl yng Nghymru’, fydd yn cael ei chynnal yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ymhen tair wythnos (Tachwedd 16).
Daw’r gynhadledd rai misoedd cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Papur Gwyn ar yr hawl i dai digonol a rhenti teg.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi’r Papur Gwyn ar frys, a sicrhau bod deddfwriaeth gynhwysfawr yn ei ddilyn cyn diwedd y tymor seneddol hwn, fydd yn dylanwadu a chywiro’r farchnad agored er mwyn sefydlu mewn cyfraith mai bod yn gartref yw prif bwrpas tai.
Y gynhadledd
Mae’r gynhadledd wedi’i rhannu’n dair rhan.
Bydd y sesiwn gyntaf yn adnabod diffygion presennol y farchnad dai yng Nghymru, gyda thrafodaeth banel yn cynnwys Catrin O’Neill o Siarter Cartrefi Cymru, Linda Evans o Gyngor Sir Gar, a Clarissa Corbisiero o Cartrefi Cymunedol Cymru, wedi’i chadeirio gan yr ymgynghorydd tai Sioned Hughes.
Bydd siaradwyr gwadd rhyngwladol, Sorcha Edwards a Javier Buron Cuadrado, yn arwain yr ail sesiwn wrth drafod diwygiadau rhyngwladol llwyddiannus i’r farchnad dai.
Bu Javier Buron Cuadrado yn Bennaeth Tai Cyngor Dinas Barcelona ac yn brif bensaer Cynllun Hawl i Dai y ddinas, sydd wedi trawsnewid marchnad dai y ddinas ers 2007 i weithio er budd pobol leol.
Sorcha Edwards yw Ysgrifennydd Cyffredinol Housing Europe, ffederasiwn tai cyhoeddus, cydweithredol a chymdeithasol Ewrop.
Mae’r ffederasiwn yn gyfrifol am 25m eiddo yn Ewrop, sy’n cyfateb i 11% o stoc dai’r cyfandir.
Bydd Walis George o Gymdeithas yr Iaith yn cynnig trosolwg o gynigion diweddaraf y mudiad ar gyfer Deddf Eiddo.
Bydd y sesiwn olaf yn trin a thrafod sut mae modd defnyddio’r enghreifftiau rhyngwladol er mwyn gwella’r sefyllfa yng Nghymru, a hynny mewn sesiwn banel rhwng Mabon ap Gwynfor AS, John Griffiths AS, Alicja Zalesinska o Tai Pawb ar ran y gynghrair Back the Bill, a Walis George, ac yn cael ei chadeirio gan Dylan Iorwerth.
‘Dangos beth sy’n bosibl gydag ewyllys gwleidyddol digonol’
“Amcan y gynhadledd fydd dangos beth sy’n bosibl gydag ewyllys gwleidyddol digonol, a chynnig syniadau i’r Llywodraeth eu cynnwys yn ei Phapur Gwyn a chyflwyno i’r Senedd,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.
“Mae methiant y farchnad agored i ddarparu tai yn gwbl amlwg erbyn hyn, a gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn ystyried yn ofalus yr hyn sy’n cael ei drafod yn y gynhadledd hon fel datrysiadau iddo.
“Bydd trafodaeth ar ddiwygiadau radical, ond eto gwbl bragmataidd ac effeithiol sydd wedi bod yn llwyddiannus ar draws Ewrop. Mae cyfle yn y tymor seneddol hon i Lywodraeth Cymru fod yn esiampl i’r byd.”
Caiff y gynhadledd ei noddi gan Mabon ap Gwynfor a John Griffiths.