Bydd uned drochi sy’n anelu i ddenu plant yn ôl at addysg Gymraeg ar ôl y cyfnod Covid-19 yn cael agoriad swyddogol ddydd Gwener (Hydref 27).

Mae Canolfan Gwenllian wedi’i lleoli yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod, sy’n un o unarddeg ysgol Gymraeg yn sir Caerffili.

Cafodd yr ysgol ym mhentref Gilfach ger Bargod ei hagor yn 1963, a 60 mlynedd yn ddiweddarach mae 201 o ddisgyblion yn mynd i’r ysgol.

Ond fel sy’n wir ym myd addysg yn gyffredinol, cafodd yr ysgol ei tharo gan effeithiau Covid-19, gyda dysgu’n gorfod digwydd yn rhithiol ac ar-lein.

Un o brif amcanion yr uned drochi yw sicrhau bod modd i’r plant hynny – a phlant sydd wedi colli eu Cymraeg am resymau amrywiol – ddychwelyd yn hyderus at addysg Gymraeg yn eu hysgolion arferol, ynghyd â chroesawu hwyrddyfodiaid i’r iaith.

“Rydyn ni fel sector, yn ddiweddar, wedi colli eitha’ tipyn o blant yn dilyn cyfnod Covid o addysg Gymraeg,” meddai’r Pennaeth Jamie Hallett wrth golwg360.

“Dw i’n siarad o brofiad gydag Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod, sydd wedi colli cwpwl o blant achos bod rhieni’n ei gweld hi’n anodd, efallai, i gefnogi disgyblion gyda phopeth ar-lein ac yn rhithiol.

“Felly, mae’r uned yma wedi rhoi cyfle i blant rydyn ni wedi’u colli o’r system i ddod ’nôl a throchi yn yr iaith Gymraeg, ac wedyn eu bod nhw’n dod ’nôl i’r system ac yn parhau gydag addysg Gymraeg.

“Yn ogystal â hynny wedyn, mae gyda ni ddisgyblion sydd yn dod o Loegr, un disgybl sydd yn dod o Lundain sydd wedi setlo fan hyn yn y Cymoedd ac mae hi hefyd wedi ymgysylltu gyda ni fel ysgol ac wedi ymrwymo – hi a’r teulu – i’r iaith Gymraeg, felly mae’n amrywiaeth o bethau.”

Sut mae’r uned yn gweithredu?

Yn ôl Jamie Hallett, mae “criteria arbennig” ar gyfer ymuno â’r uned drochi, sydd yn weithredol ers mis Medi ond a fydd yn cael agoriad swyddogol ddydd Gwener nesaf (Hydref 27).

“Mae’r dosbarth ei hunan ar gyfer disgyblion Blwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 6, ac mae capasiti o ryw ddeuddeg o blant gyda ni, achos dw i’n meddwl bod angen ymyrraeth ddwys ar y disgyblion yma,” meddai.

Sut mae’r plant yn cael eu trochi yn y Gymraeg, felly, a sut fydd modd ehangu’r ddarpariaeth yn y blynyddoedd i ddod?

“Rydyn ni wedi penodi rhywun sydd â chefndir mewn cefnogi iaith, a chynorthwyydd hefyd, ond mae’r niferoedd yn eithaf bach achos mae eisiau amser un-i-un, grwpiau bach, a drilio’r iaith yn gyson ac yn ddyddiol,” meddai wedyn.

“Rydyn ni’n mo’yn i’r ddarpariaeth dyfu ac i gynyddu, yn amlwg, ac efallai mynd i mewn i’r sector uwchradd hefyd, ond rydyn ni yn gweld mai’r model sydd yn gweithio yw cadw’r dosbarthiadau hyn yn fach, gydag un athro ac un cynorthwyydd, fel bo nhw’n gallu trochi a chlywed a defnyddio’r iaith yn ddyddiol.”

Cefnogaeth leol a chenedlaethol

Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu’r uned drochi, a gobaith yr ysgol yw y bydd y cyllid yn parhau, yn enwedig wrth i’r Llywodraeth geisio bwrw eu targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r uned yn rhan o “gynlluniau uchelgeisiol” Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o ran addysg a’r Gymraeg hefyd, yn ôl Jamie Hallett.

“Mae cynlluniau uchelgeisiol gyda’r Sir – cynllun datblygu addysg Gymraeg er mwyn cefnogi ysgolion Cymraeg a’r ysgolion sector Saesneg, er mwyn sicrhau bod digon o gyfleoedd yn sir Caerffili i’r disgyblion gael y gefnogaeth yna os ydyn nhw’n penderfynu’n hwyr bo nhw am gael addysg Gymraeg, neu bo’r opsiwn hwnna ar gael i deuluoedd,” meddai.

Mae’r uned a’r ysgol hefyd yn tynnu ar brofiadau siroedd eraill yng Nghymru sydd ag unedau tebyg i’r un hon.

“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi bod i Wrecsam i weld yr arfer orau,” meddai wedyn.

“Ro’n i’n gweld ardal Wrecsam ychydig yn wahanol i ni, ond o ran strategaethau a dysgu yn dilyn cynhadledd gyda Llywodraeth Cymru gwpwl o fisoedd yn ôl, bod modd rhwydweithio gyda Wrecsam ac Abertawe, ac rydyn ni wedi gweld ein bod ni’n debyg iawn.

“Mae’r ffordd o addysgu’r plant yma’n debyg ac yn cael effaith dda, felly mae cryn dipyn o siroedd ar draws Cymru yn barod ag unedau trochi, ond beth sy’n bwysig yw ei gynnal e.

“Un peth welais i ro’n i’n hoffi yn Wrecsam ac sydd ar hyn o bryd yng Nghaerffili – dim ond darpariaeth gynradd sydd gyda ni – ond mi oedd y sector uwchradd yn Wrecsam hefyd â darpariaeth uwchradd er mwyn trochi’r disgyblion yn yr iaith Gymraeg.

“Roedd ymweld ac arsylwi’n brofiad gwefreiddiol, a bod yn onest, felly dyna’r her i sir Caerffili.

“Os ydyn ni yn dechrau fan hyn yn fach gyda Chanolfan Gwenllian yng Ngilfach, o bosib ystyried ehangu hynny i’r sector uwchradd hefyd – mae un yng Nghaerdydd hefyd – dyna’r her i ni’n lleol yng Nghaerffili, fydden i’n dweud.”

Tu allan i’r uned a’r ysgol

Os yw’r plant yn yr uned am gael eu trochi go iawn yn y Gymraeg, yna mae’n debyg fod cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r uned a’r ysgol am fod yn hanfodol hefyd.

“Yn sicr,” meddai Jamie Hallett. “Dyna un o’r pethau rydyn ni’n eu defnyddio fel rhan o’n strategaethau addysg yw sicrhau bod y disgyblion yn cael cyfle i fynd i’r gymuned, er enghraifft.

“Dydyn ni ddim yn eu cyfyngu nhw i’r ystafell ddosbarth yn unig.

“Rydyn ni’n mynd i siopau, i amgueddfa, i ganolfan hamdden ac ati, er mwyn i’r disgyblion ddefnyddio’r iaith yn y gymuned ac i gael y profiadau yma tu fa’s i’r ysgol hefyd, fel bod e ddim yn rywbeth maen nhw’n gwneud yn yr ysgol yn unig, fel petai.

“Doedd dim darpariaeth fel hyn yn sir Caerffili, felly rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod ei fod e ar ein tir ni a’n bod ni’n gallu cynnig y gwasanaeth yma i deuluoedd neu hwyrddyfodiaid i’r iaith Gymraeg.”

Yr agoriad swyddogol

Er bod Canolfan Gwenllian ar agor ers dechrau’r flwyddyn academaidd bresennol, bydd yr agoriad swyddogol yn cael ei gynnal rhwng 2yp-3yp ddydd Gwener (Hydref 27).

Dywed yr ysgol eu bod nhw’n “ymfalchïo” yn eu rhan fach yn yr ymgyrch i gyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Fel rhan o’r dathliad, bydd côr yr ysgol yn perfformio a bydd Rhydian Bowen Phillips yn siaradwr gwadd.

Bydd ymweliad gan Seren a Sbarc a Mistar Urdd, a bydd gwahoddedigion o’r sir yn bresennol.