Mae cynghorydd yn Sir Fynwy wedi awgrymu bod dysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion yn cael effaith negyddol ar nifer y plant sy’n dewis dysgu ieithoedd eraill yn yr ysgol.

Mae Peter Strong, y Cynghorydd Llafur dros Rogiet, yn gofyn a yw cyflwyno Cymraeg fel pwnc gorfodol wedi effeithio ar awydd plant i ddysgu ieithoedd eraill.

Dim ond 58 o arholiadau Safon Uwch Almaeneg gafodd eu sefyll yng Nghymru y llynedd, ond gallai ysgolion yng Ngwent helpu i wyrdroi’r duedd honno yn y dyfodol.

Daeth adroddiad y Cyngor Prydeinig yn 2022 o hyd i “ostyngiad pryderus rhwng 2021 a 2022 yn niferoedd oedd yn sefyll Safon Uwch ar gyfer Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg” yng Nghymru.

Arolwg

Arweiniodd hyn bwyllgor craffu perfformiad a throsolwg Cyngor Sir Fynwy i ofyn am ddiweddariad ar ddysgu ieithoedd yn ysgolion y sir.

Tynnodd Alistair Neill, cadeirydd y pwyllgor, sylw at y ffaith fod 58 yn unig o geisiadau ar gyfer Safon Uwch Almaeneg – yr iaith sy’n cael ei siarad fwyaf yn Ewrop – yng Nghymru yn 2022, a 245 o geisiadau ar gyfer Safon Uwch Ffrangeg.

Dywedodd Martyn Groucutt, cyn-brifathro ac Aelod Cabinet dros Addysg, fod Cwricwlwm newydd Cymru – sy’n ceisio symud oddi wrth bynciau cul traddodiadol i feysydd dysgu ehangach – yn cynnwys ieithoedd rhyngwladol sydd hefyd yn disodli’r term gafodd ei ddefnyddio yn ystod y rhan fwyaf o’i yrfa’n dysgu, sef ieithoedd modern tramor.

Dywedodd Cynghorydd Llafur y Fenni ei fod e hefyd eisiau nodi’n gyhoeddus y gwaith sydd wedi’i wneud gan ysgolion uwchradd Cil-y-coed a Threfynwy i “gynnal a datblygu ieithoedd rhyngwladol”.

Dywedodd fod disgyblion mewn ysgolion yn cael eu hannog i gymryd ieithoedd o ganlyniad i “addysgu ardderchog”.

“Efallai mai’r her i’n dwy ysgol uwchradd arall yw gwneud yr un ymdrech ymddangosiadol â Threfynwy a Chil-y-coed,” meddai.

Ieithoedd mewn ysgolion

Mae ysgolion cynradd hefyd yn datblygu ieithoedd rhyngwladol o dan Gwricwlwm newydd Cymru, ac mae Ysgol Gynradd Gilwern yn cynnal diwrnodau thema rhyngwladol, a phan ymwelodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, dywedodd fod y disgyblion yn edrych ar Seland Newydd ac yn dysgu geiriau Māori.

Mae’r gwaith mae Ysgol Uwchradd Trefynwy yn ei wneud ag Ysgol Gynradd Osbaston yn y dref ynghylch ieithoedd yn cael sylw gan ysgolion eraill ledled de Cymru hefyd.

Mae Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg Gwent yn cwblhau gwaith ar addysgu ieithoedd, ac yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd.

Mae disgwyl hefyd i’r Cyngor lansio’u rhaglen Ysgol, fydd yn defnyddio technoleg addysgu o bell fel bod modd i ysgolion gydweithio ar ieithoedd ar lefel Safon Uwch.

Effaith y Gymraeg ar ieithoedd tramor

Gofynnodd Peter Strong, Cynghorydd Llafur Rogiet, a yw cyflwyno’r Gymraeg fel pwnc gorfodol wedi cael effaith ar yr awydd i ddysgu ieithoedd eraill.

“Gallai weithio’r ddwy ffordd,” meddai’r cyn-athro Hanes.

“Gall olygu bod myfyrwyr yn gwneud Cymraeg ac yn teimlo, ‘Wel, mae gen i ail iaith, pam gwneud un arall?’, neu dydy eu profiad o ddysgu Cymraeg ddim mor wych ag y gallai fod, ac maen nhw wedi symud oddi wrth gymryd ieithoedd eraill.

“Dw i’n gwybod fod hynny wedi digwydd.

“Yn yr un modd, gallai myfyrwyr cynradd feddwl, ‘Wel, galla i wneud Cymraeg felly galla i wneud Almaeneg’. Dw i’n amau bod fawr o ymchwil ar hynny.”

Dywed fod angen ffordd o “gadw’r Gymraeg a’i phriod le yn y cwricwlwm, a bod gan ieithoedd eraill eu priod le hefyd”, ond mae’n cydnabod fod “brwydr o hyd” rwhng ieithoedd wrth i fyfyrwyr ddewis opsiynau.

Yn ogystal ag arwain y ffordd wrth addysgu ieithoedd rhyngwladol, dywed fod Trefynwy “hefyd yn ysgol sy’n hybu dysgu Cymraeg, er ei bod hi ar y ffin”.

Sefyllfa debyg yn Lloegr

Dywed Will McLean, prif swyddog plant a phobol ifanc y Cyngor, fod Lloegr wedi gweld dirywiad tebyg yn niferoedd myfyrwyr ieithoedd.

Mae e hefyd wedi cydnabod y gallai’r ffordd y caiff ysgolion eu barnu ar ganlyniadau olygu eu bod nhw’n “teilwra’r cwricwlwm fel bod plant yn cael y lefel uchaf o lwyddiant” yn y pynciau hynny.

Ond mae’n dweud bod y dull ‘Capio Naw’ yng Nghymru sy’n mesur ysgolion ar raddau mewn chwe phwnc arall, ar ben pynciau craidd Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, er mwyn cyfrifo’u canlyniad yn cynnig mwy o hyblygrwydd.

Amlieithrwydd

Dywed y Cynghorydd Catherine Fookes, Cynghorydd Trefynwy, ei bod hi wedi astudio ar gyfer ei gradd yn Ffrainc fel rhan o raglen gyfnewid Erasmus, ei bod hi wedi ysgrifennu ei thraethawd hir yn Ffrangeg, a’i bod hi’n briod â gŵr o Gatalwnia sy’n siarad pum iaith, a’i bod hithau bellach yn siarad Catalaneg ac yn dysgu Cymraeg.

Dywed y Cynghorydd Llafur fod ganddi “ddiddordeb enfawr ym mhob peth sy’n ymwneud â ieithoedd” ar ôl mynd ar wyliau teuluol i Ffrainc, ac mae hi’n poeni bod Brexit a’r argyfwng costau byw yn cael effaith.

“Dydy pobol ddim yn gallu fforddio mynd ar wyliau,” meddai.

“Fe wnaeth y profiad hwnnw i fi yn 13 oed arwain y ffordd ar gyfer popeth y byddwn i’n mynd yn fy mlaen i’w wneud, ond bellach all pobol ddim fforddio rhoi bwyd ar y bwrdd na mynd i Ffrainc, cael pasbort na fisa.”

Dywedodd Will McLean fod Brexit o bosib yn broblem, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw hi’r un mor hawdd i weithio yn Ewrop ag y bu yn y gorffennol, nad yw Prydain bellach yn rhan o raglen gyfnewid Erasmus er bod rhaglen Gymreig amgen yn cael ei datblygu, ac mae’n dweud bod problemau diogelu’n gwneud rhaglenni cyfnewid ysgolion yn fwy anodd.

‘Diystyru’r ffactor economaidd’

Wrth ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Catherine Fookes, dywedodd y Cynghorydd Alistair Neill fod y Cyngor Prydeinig wedi nodi dirywiad dros saith mlynedd yn y niferoedd sy’n astudio ieithoedd, gan ddweud, “Dw i’n credu y gallwn ni ddiystyru’r ffactor economaidd.”

Dywedodd Meirion Howells, Cynghorydd annibynnol Brynbuga, iddo gael ei fagu’n siarad Cymraeg ar yr aelwyd yn Llundain, ar ôl symud gyda’i deulu’n “ifanc iawn” o orllewin Cymru.

“Doedd gen i ddim Saesneg, ac roedd rhaid i fi ei dysgu hi, ond wnes i erioed feddwl fy mod i’n ei dysgu hi, roedd hi’n ffordd o fyw,” meddai.

Nododd y pwyllgor hefyd y gall fod pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) gael eu hystyried yn fwy deniadol i ddisgyblion wrth ddewis pynciau, a’u bod nhw hefyd yn poeni am ddiffyg sgiliau iaith athrawon a phwysau’r gost ar ysgolion all wneud gwersi gyda dosbarthiadau llai yn llai deniadol.