Mae’r ymgyrch i wneud yr ieithoedd Catalaneg, Basgeg a Galiseg yn ieithoedd swyddogol yn Ewrop wedi’i gohirio, ar ôl i weinidogion yn Lwcsembwrg fethu â phleidleisio ar y mater.
Daeth y gweinidogion ynghyd ar gyfer cyfarfod y Cyngor Materion Cyffredinol ddoe (dydd Mawrth, Hydref 24), lle’r oedd disgwyl iddyn nhw fwrw eu pleidlais.
Ond bellach, bydd José Manuel Albares, Gweinidog Materion yr Undeb Ewropeaidd a Thramor dros dro Sbaen, yn cyflwyno “cynnig wedi’i addasu” i’r gwladwriaethau eraill.
Bydd y cynnig yn ceisio atal defnyddio’r tair iaith dan sylw fel cynsail er mwyn i ieithoedd eraill dderbyn statws swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd.
Pryderon
Dyma’r ail waith i weinidogion Ewrop drafod cais pwyllgor gwaith Sbaen, ond unwaith eto doedd y mater ddim wedi cael ei gyflwyno ar gyfer pleidlais.
Byddai angen cefnogaeth unfrydol gan y 27 gwladwriaeth er mwyn pasio’r cynnig.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd José Manuel Albares fod gan rai gwledydd bryderon y gallai cymunedau ieithyddol eraill fanteisio ar yr achos a’r sefyllfa gyfreithiol unigryw fel cynsail ar gyfer derbyn ieithoedd eraill.
Ychwanegodd fod y cyfarfod yn “gam arall” yn y trafodaethau i ychwanegu’r tair iaith at 24 iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r cynnig diwygiedig yn nodi’n glir fod y sefyllfa’n eithriad “sydd wedi’i gyfyngu i Sbaen”, oherwydd bod y cais yn “bodloni gofynion unigryw o fewn yr Undeb Ewropeaidd”.
‘Ddim yn flaenoriaeth’
Wrth leisio barn ar y cynnig, dywedodd Krišjānis Kariņš, Gweinidog Materion Tramor Latfia, nad yw’r bleidlais yn “flaenoriaeth” i’r Undeb Ewropeaidd.
“Mae gennym ni nifer o faterion ar y bwrdd,” meddai.
“Mae gennym ni geowleidyddiaeth a safle strategol Ewrop yn y dyfodol.
“Rhaid i ni fuddsoddi ein hymdrechion yn hyn nawr.”
Dim gwrthwynebiad
Mae Llywodraeth Catalwnia’n nodi na fu unrhyw wrthwynebiad yn erbyn statws swyddogol i’r Gatalaneg, a bod rhai gwledydd wedi datgan eu cefnogaeth eisoes.
Ond dywed llefarydd ar ran y llywodraeth na fyddan nhw’n “derbyn dim byd ond statws swyddogol”.
Mae’n cydnabod fod “camau wedi’u cymryd gan Sbaen”, ond yn dweud nad yw hynny’n “ddigonol”.
Dydy Llywodraeth Sbaen ddim eto wedi pennu dyddiad i drafod a phleidleisio ar y mater, ac mae Junts per Catalunya yn pwyso arnyn nhw i wneud hynny gan ddweud eu bod nhw’n “edrych ymlaen at ddatblygiadau newydd yn yr wythnosau i ddod”.
Bydd y Cyngor Materion Cyffredinol yn cyfarfod eto ar Dachwedd 15.