Mae neges a gwerthoedd yr heddychwraig Annie Jane Hughes-Griffiths yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, yn ôl yr actores sy’n actio’r cymeriad mewn drama newydd am ei bywyd.

Ddechrau’r 1920au, ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben, casglodd ‘Annie Cwrt Mawr’ bron i 400,000 o lofnodion ar ran Undeb Cynghrair Cenhedloedd Cymru, yn galw ar fenywod yn yr Unol Daleithiau i ymuno ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd ar ran menywod ar draws y byd.

Drama un ferch yn seiliedig ar fywyd Annie Jane Hughes-Griffiths, ymgyrchydd dros heddwch a roddodd lais i ferched Cymru ar gydraddoldeb a materion rhyngwladol, yw Annie Cwrt Mawr gan Siwan Jones.

Bydd y ddrama’n cael ei llwyfannu yn Theatr Derek Williams yn y Bala heno (nos Fercher, Hydref 25), cyn mynd yn ei blaen i Bencae, Caernarfon, Clydach, Caerdydd, Casnewydd, Felinfach, Dinbych, Rhosllannerchrugog, Merthyr Tudful a Bro Preseli.

‘Braint ac anrhydedd’

Yn ôl Anni Dafydd, sy’n chwarae rhan Annie Jane Hughes-Griffiths yn y ddrama, mae’n “fraint ac anrhydedd” cael camu i’w hesgidiau oherwydd y gwaith ardderchog wnaeth hi.

“Oherwydd bod hi’n frodor sydd wedi cael ei magu ddim yn bell iawn o le ges i fy magu yn Llangeitho, ond hefyd mae’n fraint cael rhannu ei stori hi, rhan fach o’i stori hi ond cael rhannu’r neges yna gyda Chymru a thu hwnt hefyd,” meddai wrth golwg360.

“Roedd Annie yn gymeriad dylanwadol ac uchelgeisiol yn y cyfnod.

“Hi wnaeth arwain, mewn ffordd, i gael 400,000 o lofnodion Cymry ar apêl oedd yn gofyn i fenywod America ddwyn perswâd ar yr Unol Daleithiau i ymuno ag Undeb Cynghrair y Cenhedloedd.

“Os ti’n meddwl amdano fo, nawr ti’n clywed am bobol sy’n gwneud deiseb yn aml ar y we, a hyn a’r llall.

“Yn y cyfnod hynny, roedd gyda ti gasglwyr oedd yn mynd o dŷ i dŷ, o ddrws i ddrws, yn cnocio drysau ar strydoedd doedden nhw ddim yn adnabod, mynd i ffermydd, yn cerdded milltiroedd er mwyn rhoi llais i fenywod, mewn ffordd.

“Mae’r stori yna, mae’r hanes yna yn anrhydedd i gael rhannu gyda chynulleidfaoedd Cymry.”

‘Gobaith’

Yn ôl Anni Dafydd, mae apêl menywod Cymru ddechrau’r ugeinfed ganrif yn cynnig gobaith i ni heddiw, mewn byd lle mae rhyfeloedd ar y gweill yn Wcráin a’r Dwyrain Canol.

“Can mlynedd yn ôl i eleni gafodd yr apêl hon ei hysgrifennu, ac roedd hyn yng nghysgod y Rhyfel Mawr fel roedden nhw’n galw fo, neu’r Rhyfel Byd Cyntaf fel rydym ni’n ei adnabod o,” meddai.

“Beth oedden nhw’n galw amdano fo oedd help menywod America.

“Dyna’r geiriau sydd yn yr apêl yw ‘Trosglwyddo i fyd di-ryfel yn dreftadaeth dragywydd’.

“Pan wy ti’n edrych ’nôl ar y can mlynedd sydd wedi bod, a lle rydym heddiw, mae’n siŵr ei fod yn gallu edrych yn eithaf torcalonnus.

“Mae’n sefyllfa erchyll ar hyn o bryd, ond mae yna rywbeth yn apêl menywod Cymry sydd yn rhoi gobaith i ni pan wyt ti’n edrych ar ddyddiaduron Annie Cwrt Mawr.

“Gwnaeth hi ddyddiadur manwl iawn o’u taith nhw i America, ac edrych ar lythyron pobol eraill oedd yn ymwneud â hyn.

“Mi oedd yna obaith, mae’r gobaith yna mor gryf.

“Mae rhaid i ni gael ein hysbrydoli i addysgu a dilyn eu gobaith nhw mewn cyfnod dychrynllyd.”

Ysbrydoli’r Cymry heddiw

Mae Anni Dafydd yn credu y gwnaeth Annie Jane Hughes-Griffiths rywbeth enfawr efo’r ddeiseb fel heddychwr sy’n cynnig ysbrydoliaeth i ni heddiw.

“Heddychwr oedd hi,” meddai.

“Mae yna nifer fawr o heddychwyr yn y byd..

“Gwnaethon nhw weithredu, gwnaethon nhw rywbeth anferth.

“Dydy e ddim yn jobyn hawdd casglu 400,000 a mynd draw i America yn fenywod i gyd, a siarad o flaen cannoedd o fenywod mwyaf dylanwadol America, siarad gydag Arlywydd America, rhoi neges menywod Cymru i Arlywydd America.

“Mae be wnaethon nhw’n enfawr, mae o’n anferth.

“Gwnaethon wneud hynny gyda’r hyder yma, a dangos dim jest beth mae menywod yn gallu gwneud ond beth mae Cymru’n gallu ei roi i’r byd.

“Mae yna enghreifftiau o bobol eraill sydd wedi gwneud hynny.

“Mwy na dim, beth rwy’n credu ddylen ni gymryd allan o hyn yw’r ysbrydoliaeth i wneud mwy nawr a dilyn eu hesiampl nhw heddiw, boed yn rhywbeth bach neu fawr.”

Apêl sy’n rhan o hanes y genedl

Yn ôl Anni Dafydd, y tebygolrwydd ydy bod y rhan fwyaf o bobol yng Nghymru heddiw yn perthyn i rywun sydd wedi arwyddo’r ddeiseb, neu’n gysylltiedig â nhw mewn rhyw ffordd.

“Mae Siwan Jones, sydd wedi sgrifennu’r ddrama yma, mewn ffordd wedi tynnu llawer ohono fo allan o ddyddiaduron Annie o’u taith nhw,” meddai.

“Rydym ni i gyd yn adnabod neu’n perthyn i rywun sydd wedi ei llofnodi hi.

“Mae yna’n sicr ryw berthynas neu rywun sy’n byw yn yr un tŷ â chi neu beth bynnag, wedi arwyddo’r apêl hyn.

“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig bo ni ddim yn anghofio dyhead y 390,0296 o fenywod yna a beth oedden nhw’n gofyn amdano fo.

“Mae’n ffordd dda o’n hatgoffa o hynny.”