Mae canolfan S4C yng Nghaerfyrddin yn dathlu ei phen-blwydd yn bump oed heddiw (dydd Iau, Hydref 26).
Yn ystod 2022-23, daeth dros 12,000 o bobol i gysylltiad â’r Egin drwy gymryd rhan mewn gweithdai, cyfarfodydd, cynadleddau, digwyddiadau neu berfformiadau.
Mae astudiaeth ddiweddar yn dangos bod yr Egin wedi ychwanegu £21.6m at economi Cymru yn 2022-23, a £7.6m at economi Sir Gaerfyrddin.
Mae’r adeilad ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn bencadlys i S4C ac 16 o sefydliadau eraill sy’n rhentu gofod yno.
Caiff cyfanswm o 176 o staff eu cyflogi gan fusnesau tenant yn Yr Egin ar hyn o bryd, a thynnodd yr adroddiad sylw at effaith y ganolfan ar y Gymraeg a’r ymgysylltiad ar y gymuned leol.
Yn ôl yr ymchwil, mae’r Egin yn helpu i leihau allfudo ac yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gyfrannu at weithgareddau Cymraeg.
‘Cymuned greadigol a digidol fywiog’
Mae diwrnod o ddathlu wedi cael ei drefnu yno heddiw, ac mae gwahoddiad i randdeiliaid ymweld i nodi’r garreg filltir.
“Mae’n braf cael nodi pum mlwyddiant Yr Egin ac rwy’n falch iawn y bydd partneriaid allweddol sydd wedi bod yn rhan o’r garreg filltir arwyddocaol hon gyda ni i ddathlu’r gwaith rhagorol sydd wedi’i gyflawni ers i’r ganolfan agor ei drysau am y tro cyntaf,” meddai’r Athro Elwen Evans, Is-ganghellor Y Drindod Dewi Sant.
“Mae’r Egin wedi datblygu’n gymuned greadigol a digidol fywiog sydd hefyd yn gyrchfan boblogaidd i’r cyhoedd.
“Mae’n galonogol iawn nodi ei fod wedi cael effaith economaidd a diwylliannol mor gadarnhaol ar y rhanbarth a thu hwnt”.
‘Manteision amhrisiadwy’
Ychwanega Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin, fod arwain y prosiect wedi “rhoi boddhad mawr” iddi.
“Mae gwerth a manteision Yr Egin yn amhrisiadwy yn fy marn i, ac mae ei effaith gychwynnol wedi bod yn sylweddol yn ôl yr astudiaeth ddiweddar,” meddai.
“Mae’r Egin wedi cael effaith uniongyrchol ar fywydau a bywoliaeth pobl, effaith gadarnhaol ar hyder a defnydd pobl o’r Gymraeg yn ogystal ag ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fod yn greadigol ac uchelgeisiol.
“Rwy eisoes yn gyffrous iawn wrth feddwl am beth fydd yn digwydd ac yn cael ei gyflawni yn y pum mlynedd nesaf.”