Bydd casgliad o drefniannau o alawon gwerin gan Grace Williams, un o gyfansoddwyr enwocaf Cymru o’r ugeinfed ganrif, yn gweld golau dydd am y tro cyntaf erioed.
Daw hyn ar ôl i Elain Rhys gael nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gwblhau’r gwaith, a hithau wedi gwneud gwaith ymchwil Meistr yn Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor ar gyfraniad Grace Williams i gerddoriaeth Cymru.
Bydd yr alawon coll, yn ogystal â rhai o glasuron adnabyddus eraill Grace Williams, yn cael eu perfformio mewn cyngerdd arbennig yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor am 7.30 nos Wener, Tachwedd 3 gan lu o artistiaid.
Yn eu plith mae Elain Rhys hithau, Angharad Wyn Jones, Cai Fôn Davies, Glesni Rhys Jones, Steffan Dafydd ac aelodau o Gôr Hŷn Ieuenctid Môn.
Bydd Elain Rhys a’r Athro Pwyll ap Siôn, ei thiwtor a goruchwyliwr y prosiect, yn rhannu’r gwaith ymchwil wrth gyflwyno’r alawon ar y noson.
Pwy oedd Grace Williams?
Caiff Grace Williams (1906-1977) ei chysylltu’n bennaf â cherddoriaeth gerddorfaol, a rhan o’i gwaith sydd heb dderbyn yr un sylw yw ei threfniannau o alawon gwerin.
Bu’n cyfansoddi nifer o drefniannau o alawon gwerin Cymraeg a Chymreig ar gyfer rhaglenni radio’r BBC yn ystod y 1950au, ond mae nifer o’r farn na chafodd y gweithiau hynny sylw teilwng.
O ganlyniad, prin iawn yw’r enghreifftiau sydd hyd yma wedi eu cyhoeddi, eu recordio a’u darlledu.
Mae Elain Rhys, sydd erbyn hyn yn llunio astudiaeth o ‘The Parlour’, unig opera Grace Williams, ar gyfer gradd doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wrth ei bodd bod yr alawon coll yn cael eu cyhoeddi.
“Mae hi’n fraint o’r mwyaf cael perfformio a chyhoeddi’r gweithiau hyn,” meddai.
“Rwy’n falch iawn y bydd rhai o drefniannau hyfryd Grace Williams, a gyfrannodd yn helaeth at dwf a datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif, yn dod i sylw’r genedl am y tro cyntaf.
“Fy ngobaith yw y bydd fy ymchwil yn dwyn sylw haeddiannol i gyfansoddwraig na chafodd gydnabyddiaeth deilwng yng Nghymru nac ar Ynysoedd Prydain yn ystod ei hoes.
“Mae’r diffyg cyhoeddiadau ac ymdriniaeth o’r gweithiau hyn yn creu’r camargraff nad oedd gan Grace Williams lawer o amser ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol ei gwlad.
“Roeddwn yn awyddus iawn i ymchwilio ymhellach i hyn a rhoi sylw i’w harddull leisiol gan geisio torri tir newydd.
“Mae ffynonellau pwysig megis gohebiaeth rhwng Grace Williams a’i ffrind, y cerddor Enid Parry (1911-1998), yn awgrymu’n gryf i’r gwrthwyneb – fod alawon traddodiadol yn agos iawn at ei chalon a’i bod wedi treulio peth amser yn ystod ei gyrfa yn ymddiddori yn yr alawon hyn.
“Wrth ddarllen trwy’r ohebiaeth a chraffu’n fanylach ar y gerddoriaeth, amlygir gwedd newydd – un llawer mwy Cymraeg a Chymreig, elfen bwysig am Grace Williams sydd wedi ei hanwybyddu i raddau helaeth gan ymchwilwyr y gorffennol.
“Hoffwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gymorth y grant bach er mwyn ariannu’r prosiect cyhoeddi sydd wedi caniatáu i’r trefniannau hyn weld golau dydd am y tro cyntaf.
“Hefyd, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Gronfa James Pantyfedwen am ariannu’r cwrs meistr ym Mhrifysgol Bangor, ac i’r Athro Pwyll ap Siôn am ei gymorth a’i arweiniad ar y prosiect.”
Grantiau bach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yn ôl Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig grantiau bach i gefnogi “nifer o brosiectau diddorol a chreadigol”.
“Roedd yn bleser gan y Coleg ariannu’r cynllun arloesol hwn i gyhoeddi gweithiau coll Grace Williams,” meddai.
“Mae Elain wedi gweithio’n galed i gasglu ynghyd y trefniannau unigryw hyn, ac edrychwn ymlaen at ddathlu ei gwaith ymchwil a chlywed yr alawon arbennig yn y cyngerdd.”