Mae cynhyrchwyr yng Nghymru wedi croesawu argymhellion i fynd i’r afael â chwmnïau sy’n symud i Gymru ac agor swyddfa dros dro i allu ennill comisiwn ar gynyrchiadau yn y wlad.
Cafodd argymhelliad i ofyn i gorff Ofcom ystyried a ydyn nhw’n gwneud digon i reoleiddio’r arfer ei wneud gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Ar hyn o bryd, mae’n bosib i gwmnïau cynhyrchu ennill comisiwn a sefydlu swyddfa dros dro yng Nghymru am hyd y cynhyrchiad yn unig, arfer sy’n cael ei adnabod fel ‘brass-plating’, sy’n golygu na fyddai fawr ddim manteision economaidd i sector creadigol Cymru.
“Ofcom i archwilio a ydy’r meini prawf hwn yn ddigon i ganiatáu i gynhyrchiad gael ei ystyried fel un sy’n seiliedig yng Nghymru,” medd adroddiad y pwyllgor.
“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i ddiwygio drafft y Bil Cyfryngau i fynd i’r afael â’r broblem.”
‘Croesawu’n fawr’
Roedd eu hadroddiad ar Ddarlledu yng Nghymru yn cynnwys sawl argymhelliad, ac mae Dyfrig Davies, Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), corff o gynhyrchwyr Cymru, wedi ei groesawu.
“Rydym yn falch iawn o lefel y diddordeb a ddangosodd y Pwyllgor mewn ‘brass-plating’ ac mae wedi dod â phroblem sy’n bodoli ers amser i’r amlwg,” meddai.
“Rydym yn croesawu’n fawr y bwriad i osod ym Mesur y Cyfryngau gofynion ar Ofcom i reoleiddio yn fwy llym, er mwyn cadw at ysbryd y ‘cwotâu y tu allan i Lundain’ – i helpu sectorau cynyrchiadau ledled y Deyrnas Unedig i dyfu.
“Rydym yn cael trafodaethau gydag Ofcom, y Llywodraeth a’r BBC ar y mater hwn ac yn gobeithio gweld gwellhad.
“Rydym hefyd yn croesawu’r argymhellion ar Channel 4 yn gofyn iddyn nhw sydd barhau i gefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol, yn ogystal ag annog y llwyfannau ffrydio i gomisiynu mwy o Gymru.
“Ac rydym hefyd yn cytuno â’r argymhellion ynghylch yr ardoll prentisiaethau, nad yw’n cyflawni ei ddiben yn ein sector oherwydd natur patrymau cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.”