Mae ymgyrch ar y gweill i godi digon o arian i ddosbarthu llyfr am hanes Cymru i ysgolion cynradd y wlad.

Y gobaith ydy codi £4,000 i roi copi o 10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod) gan Ifan Morgan Jones i holl ysgolion cyfrwng Cymraeg Cymru i ddechrau.

Cafodd copïau o Cymru yn y Tir gan Dr Elin Jones eu rhoi i bob ysgol gynradd ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae Fforwm Hanes Cymru eisiau adeiladu ar hynny.

Y mwyaf maen nhw’n ei godi, y mwyaf o ysgolion y gallan nhw eu cefnogi, medden nhw, gan ychwanegu eu bod nhw wedi codi ychydig dros £900 hyd yn hyn.

‘Syndod a phleser’

Er bod yr ymgyrch yn syndod i’r awdur, mae hi’n “bleser” gweld pobol yn ei mwynhau ac yn meddwl ei bod yn werthfawr, yn ôl Ifan Morgan Jones wrth siarad â golwg360.

“Wrth sgrifennu’r llyfr, y cyfan oeddwn i eisiau mewn gwirionedd oedd sgrifennu rhywbeth fyddai’n rhoi ryw fath o flas i bobol ifanc o hanes Cymru mewn ffordd eithaf darllenadwy a syml, ac yn cydio yn eu diddordeb nhw,” meddai.

“Mae o i weld wedi gwneud hynny; o ran ffigurau gwerthiant dw i wedi’u gweld, mae o wedi gwneud yn eithaf da.

“Mae o i weld wedi cyrraedd y nod o ran be’ oeddwn i wedi’i fwriadu yn y lle cyntaf.

“Gobeithio, os ydy’r ymgyrch yma i godi’r arian yn llwyddiant, y bydd o’n parhau i gydio yn niddordeb pobol a hybu diddordeb pobol ifanc yng Nghymru.”

‘Straeon pobol’

Cyn ysgrifennu’r llyfr, roedd Ifan Morgan Jones yn clywed yn aml gan bobol fyddai wedi hoffi dysgu mwy am hanes Cymru yn yr ysgol.

“Dw i’n meddwl bod yna newid yn digwydd, y newid yn y cwricwlwm i gynnwys mwy o hanes Cymru a’n cynefin ac yn y blaen,” meddai.

“Ond y nod wrth sgrifennu’r llyfr yn wreiddiol oedd, beth am gael llyfr allan yna fyddai’n rhoi ryw fath o ragflas a ryw fath o ddealltwriaeth eithaf sylfaenol o hanes Cymru i unrhyw un fyddai’n ei ddarllen, yn blentyn neu’n oedolyn?”

Mae’r llyfr yn adrodd hanes pobol hanesyddol fel Gwenllian Ferch Gruffudd, Owain Glyndŵr, Barti Ddu, Dic Penderyn a Therfysgoedd Merthyr, Alfred Russel Wallace ac Eileen Beasley, ynghyd â hanes Terfysgoedd Hil yr ugeinfed ganrif, trychineb Aberfan a datganoli.

“Dw i wastad yn meddwl mai’r ffordd orau i ddweud straeon ydy dweud straeon pobol a straeon unigol.

“Roeddwn i’n meddwl y byswn i’n dewis deng stori ddiddorol am straeon pobol o hanes Cymru, a gobeithio y byddai dweud straeon pobol yn ffordd o feithrin diddordeb pobol yn hanes Cymru’n gyffredinol.”

‘Llai o gyfle yn Saesneg i glywed yr hanes’

Mae’r llyfr yn cynnwys darluniau gan Telor Gwyn, ac mae e ar gael yn Saesneg hefyd fel 10 Stories from Welsh History (That Everyone Should Know).

Mae Ifan Morgan Jones a threfnwyr yr ymgyrch codi arian o’r farn y byddai’n dda rhannu’r fersiwn Saesneg i ysgolion Saesneg Cymru hefyd pe bai digon o arian.

“Dw i’n meddwl bod pobol sy’n siarad Cymraeg yn tueddu i ddysgu mwy am hanes Cymru achos bod yna bwyslais o fewn y diwylliant Cymraeg ei iaith ar faterion hanesyddol a diwylliannol,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod yna lai o gyfle yn Saesneg i glywed yr hanes yna.

“Mae’r iaith ei hun yn wleidyddol, felly rydyn ni’n dweud straeon am hanes Cymru’n naturiol wrth siarad yr iaith.

“Ond fysa fo’n grêt tasa yna lyfr yn mynd allan yn Saesneg i’r ysgolion Saesneg yng Nghymru.”

Dywed y dudalen CrowdFunder eu bod nhw’n cynnal yr ymgyrch er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddysgu mwy am hanes eu gweld.

“Roedd y Fforwm wedi dod i rywle lle doedd yna ddim lot o weithgarwch ymlaen, ac roedden ni’n gweld fod yna ddymuniad i wneud mwy am hanes Cymru, ond bod angen i wneud rhywbeth mwy rhagweithiol fel ymgyrch codi arian fyddai wedyn yn rhoi rhywbeth tangible i blant fod yn dysgu am hanes Cymru ar draws Gymru,” ychwanega Mererid Boswell, trysorydd Fforwm Hanes Cymru, wrth golwg360.