Chwilio am ffilm arswyd i’w gwylio heno?
Ar Nos Galan Gaeaf, Gary Slaymaker, sy’n awdurdod ar ffilmiau, sydd wedi dewis ei ddeng hoff ffilm arswyd.
1. The Thing (1982)
Ffilm arswyd gwyddonias wedi’i chyfarwyddo gan John Carpenter yn seiliedig ar nofel fer John W Campbell Jr Who Goes There? Mae’r ffilm yn dilyn grŵp o ymchwilwyr o America sy’n dod ar draws y “Thing” yn Antartica, ryw fod arallfydol sy’n dynwared organebau eraill.
2. The Exorcist (1973)
Un o’r ffilmiau mwyaf arswydus erioed, yn ôl rhai. Mae’r ffilm yn seiliedig ar lyfr William Peter Blatty sy’n delio â merch ifanc, Regan, sydd wedi cael ei meddiannu gan ddemon. Mewn ymgais i achub ei bywyd, mae ei mam yn galw am gymorth dau offeiriad Catholig.
3. Rec (2007)
Ffilm Sbaeneg, arswyd ‘found footage’ ydy hon. Dw i ddim yn ffan o’r rheiny fel arfer, ond mae Rec mor dda. Mae hi’n dechrau mor dawel, criw ffilmio’n dilyn dynion tân o gwmpas Barcelona am noswaith, yn dilyn y gwaith dydd i ddydd. Mae’r bois yn cael eu galw i adeilad llawn fflatiau, ac mae hen fenyw wedi colapso. Maen nhw’n mynd lan yna, ac mae’r fenyw yn rheibus ac yn brathu un o’r bois tân ac yn sydyn reit mae’n troi mewn i haint felly mae hwnnw hefyd yn troi yn rheibus.
4. Night of the Demon (1957)
Mae’r ffilm yn seiliedig ar stori fer o’r enw Casting of the Runes gan yr awdur M R James, ac mae James ei hunain yn un o leisiau amlwg storïau arswyd ym Mhrydain. Mae’r ffilm yn ffantastig, du a gwyn. Roedd pobol yn marw, ac roedden nhw’n teimlo taw ryw fath o ddiafol neu ddemon sy’n gyfrifol. Mae cymeriad Dana Andrews, gwyddonydd sydd wedi dod i Brydain o America, yn gwrthod derbyn bod y fath nonsens yn digwydd ond wrth i’r stori fynd yn ei blaen ti’n dechrau sylwi efallai bod rhyw wirionedd yn yr honiadau…
5. Train to Busan (2016)
Ffilm o Dde Corea. Ar ôl Seoul, Busan ydy’r ddinas fwyaf yn y wlad. Mae’n dechrau gyda thad a’i ferch fach yn gadael Seoul i fynd i Busan jyst wrth fod epidemig o sombïaid yn taro’r wlad. Mae hi’n gweithio fel ffilm sombi draddodiadol, mae hi wedi’i gwneud yn yr un math o steil â ffilmiau fel The Towering Inferno a The Poseidon Adventure. Ti’n cwrdd â chriw o bobol, ac maen nhw i gyd yn yr un bad yn gorfod delio â’r un sefyllfa ond yn hytrach nag adeilad ar dân neu long yn suddo – llond gwlad o sombïaid maen nhw’n wynebu.
6. Near Dark (1987)
Un o ffilmiau cynnar Kathryn Bigelow, y fenyw gyntaf i ennill Oscar cyfarwyddo. Ar y pryd, roedd y rhan fwyaf o’r cast sydd yn Near Dark wedi bod yn gweithio ar ffilm Aliens James Cameron, pobol fel Lance Henrikson a Jenette Goldstein, ac ar y pryd roedd James Cameron a Kathryn Bigelow yn mynd mas gyda’i gilydd ac roedd hi newydd gael y sgript ar gyfer y ffilm fampir hon a Cameron wnaeth awgrymu: ‘Beth am i ti gymryd rhai o’r gang sydd gen i’n fan hyn, maen nhw’n dda iawn’. A dyna fu. Mae’n dechrau gyda mab fferm ifanc yn America’n cwrdd â merch brydferth un noswaith, a throi mas bod hi’n fampir. Mae hi’n brathu fe, ac mae e wedyn yn gorfod ymuno â’i chlang hi o fampirod. Mae yna gwpwl o olygfeydd sy’n briliant o waedlyd, ond mae e gyd ambyti’r cymeriadau a’r stori sy’n cael ei hadrodd fel mae Bigelow yn ei wneud yn dda.
7. Martyrs (2008)
Hon yw’r fersiwn wreiddiol Ffrengig am ddwy ferch ifanc sydd lan i bob math o ddrygioni, wedyn mae’r drygioni’n troi’n drais. Maen nhw’n cael eu dal gan gwlt sy’n arbrofi arnyn nhw a gwneud pob math o bethau ffiaidd. Os allwch chi eistedd drwyddi tan y diwedd, ti’n gwerthfawrogi hi – ond dw i ddim yn adnabod llawer sydd wedi gwneud hynny. Fel arfer, tri chwarter awr mewn ac mae hyd yn oed y stumogau cryfaf yn mynd ‘dim i fi.’ Mae hi’n dywyll a didrugaredd, a dw i’n licio’r ffaith nad oes golau ar ddiwedd y twnnel.
8. Evil Dead II (1987)
Dw i’n cofio tri ohonom ni’n mynd i Abertawe i wneud diwrnod o siopau pan agorodd yr Evil Dead gwreiddiol mewn sinemâu. Fe wnaeth y tri ohonom ni neidio mewn i’r sinema yn Abertawe yn go gyflym i’w gweld, ac roedd hi’n ffantastig. Dim ond ni’n tri a’r usherette oedd mewn yno, beth ychwanegodd i’r ffilm oedd ein bod ni’n tri wrth ein boddau ond doedd yr usherette yn amlwg ddim yn gyfarwydd â ffilmiau arswyd achos unrhyw bryd roedd golygfa’n gwneud i rywun neidio neu’n waedlyd, roedd hi yn y cefn yn sgrechian.
9. Bride of Frankenstein (1935)
Ti’n mynd yn ôl i’r 1930au, mae Frankenstein y gwreiddiol yn dda ond mae Bride of Frankenstein hyd yn oed yn well achos mae yna hiwmor yn perthyn iddi ti ddim yn ei ddisgwyl.
10. An American Werewolf in London (1981)
Mae e mor anodd i wneud i arswyd a chomedi weithio gyda’i gilydd, a dyrnaid o ffilmiau dw i wedi’u gweld sy’n llwyddo i wneud hynny.