Fe wnaeth bron i 250 o unigolion a 50 o gorau neu grwpiau gystadlu yn Eisteddfod Powys dros y penwythnos.
Cafodd Gareth Wiliam Jones o Bow Street ei Goroni nos Wener (Hydref 27) yn Eisteddfod Powys, Ardaloedd Edeyrnion a Phenllyn, am waith creadigol ar y thema ‘Man Gwyn’.
Hannah Roberts o Gaerdydd enillodd Gadair yr Eisteddfod ddydd Sadwrn (Hydref 28) yn Ysgol Godre’r Berwyn yn y Bala, am gerdd rydd ar y testun ‘Egin’.
Dechreuodd trefniadau Eisteddfod 2023 yn 2020, cyn Covid, ond cafwyd “eisteddfod lwyddiannus” yn y pen draw, yn ôl y trefnwyr.
‘Creu argraff’
Er bod Eisteddfod Talaith a Chadair Powys wedi ymweld ag ardaloedd Edeyrnion a Phenllyn yn eu tro yn y gorffennol, daeth y ddwy at ei gilydd i drefnu’r ŵyl ar y cyd y tro hwn.
“Dw i’n sicr y bydd yr ŵyl hon wedi creu argraff ar drigolion Edeyrnion a Phenllyn, ac y bydd gwaddol yr Eisteddfod i’w weld yn gryf,” meddai Rhys Evans, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
“Mae’r Eisteddfod wedi ceisio sicrhau cynnwys pawb yn ei gweithgareddau, o ddisgyblion ysgol yr ardal ac aelodau gwahanol gymdeithasau, trwy eu cynnwys mewn cystadlaethau, ac i fod yn rhan allweddol o’r seremonïau.
“Mae cwmnïau lleol wedi elwa o’r Eisteddfod, boed yn gontracwyr trydanol, arlwywyr, siopau, ffotograffwyr, gwestai, a lletyau.
“Cyfarfu’r pwyllgorau yn gyson mewn neuaddau pentref, canolfannau cyfarfod, neu festrïoedd capel, a gwerthfawrogwn bob hwylustod a gafwyd.”
‘Annog dysgwyr’
Un o’r nosweithiau cymdeithasol sy’n aros yn y cof oedd un i ddysgwyr Cymraeg yn Neuadd Carrog, yn ôl Rhys Evans.
“Roedd brwdfrydedd ac angerdd y siaradwyr Cymraeg newydd a welais ac a glywais yn ystod y noson yn heintus, a gobeithio wir fod yr Eisteddfod wedi chwarae rhan fechan i helpu ac i annog y dysgwyr ar eu taith i ddysgu’r iaith,” meddai.
“Wrth gwrs, fyddai’r un Eisteddfod heb fyddin fechan o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser i sicrhau ei llwyddiant.
“Hoffwn ddiolch i bob un wan jac a fu mor barod i weithio mor galed dros y misoedd diwethaf, gan ddiolch yn ogystal wrth gwrs i bob cystadleuydd am eu cefnogaeth, i wneud yr Eisteddfod yn un mor arbennig”