Mae arlunydd wedi rhoi corff o’i waith i Ymddiriedolaeth Castell Gwrych fydd o fudd diwylliannol i’r gymuned.
Mae Rhŷn Williams yn ailbaentio paentiadau coll oedd unwaith yn hongian ar waliau’r castell, ac ymhlith y rhai sy’n ymddangos yn y darluniau mae Winifred Cochrane (Bamford Hesketh), oedd yn byw yn y castell.
Daw hyn wrth iddo gynnal gwaith ymchwil ar y castell a’r bobol fu unwaith yn byw yno.
Daw o bentref tawel Tudweiliog ym Mhen Llŷn, lle cafodd ei fagu i fod yn angerddol am y celfyddydau.
Astudiodd yng Ngholeg Parc Menai ym Mangor, ac yn ddiweddarach yng Ngerddi Howard ym Mhrifysgol Caerdydd, lle graddiodd mewn Celfyddyd Gain.
Ailbaentio
Ar lawr gwlad, mae hanes teulu Castell Gwrych yn hynod ddiddorol a hwythau wedi’u gwreiddio yn eu cymuned leol.
Roedd Rhŷn Williams yn teimlo bod rhaid ailbaentio’r paentiadau coll er mwyn adfer yr hanes, ac fe aeth at y castell i awgrymu’r syniad.
“Fy rheswm dros hyn oedd fy mod yn gwybod y byddai atgyweirio ac adfer adeilad yn waith anhygoel o fawr, felly roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n defnyddio fy mhrofiadau i helpu,” meddai wrth golwg360.
“Yn rhyfeddol, er eu bod yn hapus i mi gynhyrchu celf ar eu cyfer, roeddwn yn ymchwilydd yn y pen draw.
“Nid oedd gennyf unrhyw brofiadau blaenorol yn y maes yma, ond oherwydd fy OCD a fy ngallu i ddadansoddi manylion bach, llwyddais i ddod o hyd i wybodaeth goll a byddwn yn diweddaru’r ymddiriedolaeth gyda fy nghanfyddiadau.
“Trwy fy ngwaith, rwyf wedi gallu adennill tarddiad celf a gollwyd ers amser maith, nid yn unig o Gastell Gwrych, ond o Neuadd Cinmel a Neuadd Glynllifon yng Ngwynedd trwy amrywiol safleoedd archifol.
“Aeres olaf y castell oedd Winifred Cochrane (Bamford Hesketh) fu farw ym 1924, roedd hi’n ddyngarwr hael a fu’n bwydo a dilladu pobol anabl, dlawd ac eiddil, yn rhoi coed tân i’r rhai oedd ei angen o goed oedd wedi disgyn ar ei stadau yn ystod y tywydd garw drwy’r gaeaf.
“Byddai hi hefyd yn rhoi arian neu’n anfon blodau’n ddienw i deuluoedd galarus, ond oherwydd cwynion priod rhyngddi hi a’i gŵr, addawodd Douglas MBH Cochrane i’w blant na ddylai unrhyw aelod o’i deulu gamu ar dir y castell byth eto.
“Fel ymchwilydd, arlunydd a rhywfaint o hanesydd, teimlaf ei bod yn bwysig tynnu sylw at hanes warts and all, fel ein bod yn gwybod mwy am bwy oedd ein cyflogwyr a/neu pwy oedd ein cyndadau, sut roedden nhw’n byw, sut wnaethon nhw effeithio ar gymdeithas, a sut gafodd ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd ffurfio’r sylfeini rydym yn cerdded arnyn nhw heddiw.”
Y castell wedi mynd yn adfail
Dywed Rhŷn Williams ei fod e’n awyddus i roi paentiadau ar waliau’r castell gan fod yr adeilad yn edrych yn wag.
“Y rheswm dechreuais helpu Gwrych i ymchwilio oedd llenwi’r castell fyny,” meddai.
“Wrth gwrs, fedra i ddim gwneud hynny fy hun efo gwaith celf, ond galla i wneud ychydig bach o waith ar yr ochr i’w roi ar eu waliau nhw.
“Beth dw i’n gwneud yw chwilio am luniau’r bobol oedd yn byw yna yn archifau’r papurau newydd, ac wedyn dw i’n eu trwsio nhw.
“Wedyn beth dw i’n gwneud efo’r lluniau ydy eu glanhau nhw fyny ac yn eu defnyddio nhw fel reference.
“Dw i wedyn yn creu darluniau allan ohonyn nhw.”
Y bobol sydd wedi cael eu darlunio
Plant Winifred Cochrane (Bamford Hesketh) yw’r rhai sy’n cael eu darlunio gan Rhŷn Williams.
“Roedd hi yna tan wnaeth hi farw yn 1924,” meddai am y ddynes hynod.
“Roedd ei theulu hi’n byw yno tan hynny.
“Doedd hi ddim yn byw yng nghastell Gwrych llawn amser.
“Roedd hi’n byw yn Llundain hanner yr amser, wedyn hanner yr amser yng nghastell Gwrych.
“Y bobol eraill dw i wedi’u darlunio yw Marjoirie Gwendoline Elsie Cochrane (ei merch ieuengaf), Grizel Winfred Louisa Cochrane (ei merch hynaf), a Thomas Hesketh Douglas Blair Cochrane, 13eg Iarll Dundonald (ei mab hynaf).”
Dysgu llawer, ond “fel tynnu dannedd”
Mae Rhŷn Williams wedi dysgu llawer am hanes y lle drwy ymchwilio, ac wedi dysgu bod rhan o’r llyfrgell yn y castell yn ffug.
“Dwi’n pori trwy erthyglau o wefan archifau,” meddai.
“Dw i’n mynd trwy le bynnag fedra i, newspaper archives ac internet archives.
“Dw i’n chwilio drwy’r amser, bob dydd dw i’n chwilio am hanes i wneud efo Gwrych a’r bobol oedd yn byw yna.
‘Dwi’n meddwl dw i wedi darganfod tua phedwar darn celf sydd efo enw artist arnyn nhw.
“Dw i’n helpu i drwsio darnau hanes i gyd.
“Mwyaf dw i’n ymchwilio’r darnau, y mwyaf dw i’n dysgu. Dw i’n dysgu llawer mwy am hanes.
“Gwnes i ddarganfod darn am y dyn oedd yn biau’r castell, Lloyd Hesketh, ond pan wnaeth o adeiladu Gwrych roedd yn defnyddio saer coed o lefydd mwy.
“Beth wnes i ddarganfod oedd yr adeiladodd o lyfrgell, ac roedd rhan ohono fo’n ffug!
“Mae o fel tynnu dannedd mewn ffordd; y mwya’ ydych chi’n ymchwilio, mae o’n gwneud chi’n fascinated.
“Rydach chi’n chwilio am nodwydd mewn haystack mewn ffordd.
“Y peth da dw i’n cael allan ohono fo ydy, y mwyaf dw i’n ymchwilio, y mwyaf dwi’n dysgu ac yn ailddarganfod gwaith celf sydd wedi mynd ar goll.”