Mae ITV wedi talu am ganolfan groeso newydd Castell Gwrych ar ôl i goeden gwympodd yn ystod storm fawr ddinistrio’r caban blaenorol.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych, fe wnaeth Storm Arwen achosi difrod “erchyll” i set I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here! pan gafodd ei daro fis Tachwedd y llynedd.
Roedd y difrod mor wael nes bod rhaid i’r criw ffilmio roi’r gorau iddi yn yr adeilad rhestredig Gradd I yn y dyddiau wedi’r storm.
Mae’r ymddiriedolaeth bellach wedi gwneud cais i adran gynllunio Cyngor Sir Conwy am ganiatâd dros dro am gaban newydd, wedi’i brynu gan ITV.
Mae’r caban newydd yn fwy o faint ac mae’n cynnwys cegin a thŷ bach ar gyfer staff, ond mae’n un symudol fel bod y safle’n parhau’n hyblyg ar gyfer ffilmio.
Mae disgwyl i’r sioe boblogaidd ddychwelyd i’r jyngl yn Awstralia yn yr hydref, ond mae disgwyl i’r castell gynnal sioeau cysylltiol.
‘Blynyddoedd o waith’
“Rhoddodd Castell Bodelwyddan ganolfan groeso fach i ni,” meddai llefarydd ar ran ymddiriedolaeth y castell.
“Cafodd honno ei dinistrio gan goeden yn ystod y storm.
“Yn garedig iawn, ddaru ITV brynu un newydd i ni, felly dyna’r un rydan ni’n gofyn am ganiatâd cynllunio ar ei chyfer.
“Roedd y llall dipyn llai, ac roedd hi’n symudol, felly fyddai hi ddim angen caniatâd cynllunio, ond mae gan yr un newydd mae ITV wedi’i rhoi i ni gegin, tŷ bach a chyfleusterau go iawn i’r staff a gwirfoddolwyr.
“Pan ddaru’r storm daro, roedd hi’n rhyfedd oherwydd mi ddaru hi ddinistrio rhan helaeth o’r goedwig o amgylch y castell, felly roedd oddeutu 10,000 o goed i lawr.
“Roedd hi’n erchyll, ac mae’n dal i fod yn wael i fyny yn fan’no.
“Roedd hi mor beryglus. Mi fedrech chi glywed pethau’n disgyn, yn rhwygo.
“Cafodd y caban ei ddinistrio, doedd dim modd ei ddefnyddio ond yn garedig iawn, ddaru ITV roi un newydd i ni.
“Mae angen blynyddoedd o waith i’w gael o yn ôl i sut roedd o o’r blaen.”
Sylw yn helpu’r achos
Yn ôl yr ymddiriedolaeth, mae’r sylw sydd wedi dod o’r rhaglen deledu yn helpu i adfer y castell, prosiect fydd yn costio degau o filiynau o bunnoedd.
“Mae o ymhlith y gwaith adfer mwyaf ym Mhrydain,” meddai’r llefarydd.
“Y cynllun ydi ei adfer o a’i agor o i’r cyhoedd.
“Yr hyn ddaru ni geisio’i wneud ydi ei agor o gymaint â phosib yn ystod y cyfnodau cynnar fel bod pobol yn gallu gweld sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo.
“Mae o wedi bod yn reit anarferol oherwydd y lefel uchel o fynediad i’r cyhoedd.
“Cawson ni 100,000 o ymwelwyr y llynedd, felly maen nhw’n cael gweld tu ôl i’r llenni, ond mae hi’n rhan o’r broses honno i weld pethau’n digwydd, felly pan ydan ni’n gwneud y ceisiadau cynllunio yma, mae o’n gam ymlaen eto, a’r syniad ydi y bydd o i gyd yn cael ei adfer.
“Bydd o’n cael ei wneud fesul cam. Bydd y prosiect cyfan yn costio oddeutu £20m.
“Y cam cyntaf fydd y to, y lloriau ac agor y prif ystafelloedd eto.
“Mae o’n dibynnu ar gyllid a’r hyn sy’n llwyddiannus ar yr adeg honno. Rydan ni yn y broses o’i gael o i gyd at ei gilydd.”
Cyflogwr da
“Mae’r castell yn gyflogwr da,” meddai’r llefarydd wedyn.
“Mae o’n tynnu pobol i mewn o bob rhan o Brydain oherwydd y sioe.
“Mae o’n wirioneddol anhygoel gweld pa mor brysur ydi Abergele efo ymwelwyr, ac mae’r siopau’n aml yn llawn, yn enwedig i lawr ar y traeth, sy’n un o’r prif lefydd gwylio ar gyfer y castell.
“Mae o’n mynd yn orlawn i lawr yn fan’no.
“Mae’r sioe wedi mwy na dyblu nifer yr ymwelwyr oedd gennon ni cyn hyn, o ganlyniad i I’m A Celeb…”
“Rydan ni’n gwneud pethau fel groto Siôn Corn unwaith eto eleni, ac mae gennon ni rywbeth ar y gweill ar gyfer Calan Gaeaf.”
Mae’r ymddiriedolaeth wedi gwneud cais i adran gynllunio Conwy wrth geisio cadw’r ganolfan groeso yn y maes parcio am bum mlynedd.
Mae cynlluniau i symud y tai bach i ochr draw’r maes parcio hefyd yn rhan o’r un cais.
Bydd y cynlluniau’n cael eu trafod yng nghyfarfod y pwyllgor cynllunio yn y dyfodol.
Mae ITV wedi derbyn cais am ymateb.