Fe fydd lle teilwng i’r iaith Wyddeleg unwaith eto mewn gŵyl gerddorol penwythnos nesaf, diolch i waith diflino’r mudiad Conradh na Gaeilge.

Ar ôl dwy flynedd o drefnu arlwy yn yr iaith Wyddeleg, bydd Croí Na Féile yn rhan annatod o’r Electric Picnic yn sir Laois, gŵyl gerddorol fawr fydd yn gweld enwau mawr fel Arctic Monkeys, Snow Patrol, Anne-Marie a The Kooks yn perfformio yn Saesneg.

Mae Conradh na Gaeilge yn gwahodd ymwelwyr i grwydro yn y goedwig yng ngolau’r lloer, a chael blas ar yr iaith, y diwylliant a cherddoriaeth – o rapwyr i artistiaid drag, o grwpiau traddodiadol i fandiau sy’n talu teyrnged i’r 80au.

Bydd storïwyr a chantorion yn perfformio o amgylch y tân ar gyrion y brif ŵyl, a bydd darllediad radio byw yn ystod y penwythnos, yn ogystal â chyfle ac ardal benodol i siaradwyr yr iaith ymgasglu ac ymarfer eu Gwyddeleg.

Yn ôl y trefnwyr, mae gwyliau cerddorol yn gyfle i bobol fynegi eu hunain a’u hunaniaeth mewn ffordd wahanol i’r arfer, gan roi’r cyfle i bobol fod yn nhw eu hunain am y penwythnos a dathlu pwysigrwydd yr iaith a’r diwylliant mewn ffordd bersonol.

Gŵyl werdd

Yn ogystal, mae’r ŵyl yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod hi’n ŵyl werdd sy’n cyfrannu at faterion amgylcheddol.

Eleni, bydd pwyslais arbennig yn yr ardal Wyddeleg ar ailgylchu ac ymwybyddiaeth o’r amgylchedd yn gyffredinol er mwyn cadw’r byd yn lân wrth i bobol ymgynnull i sgwrsio.

Mae’r trefnwyr eleni yn dweud ei bod hi’n “galonogol” clywed am eu dylanwad mewn gwyliau ledled Iwerddon, ar ôl iddyn nhw roi mentrau tebyg ar waith ym mhob cwr o’r wlad.