Dafydd Trystan yw cadeirydd newydd Bwrdd Teithio Llesol Cymru, ac mae hefyd yn aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru.
Ar ddiwrnod ei gyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf yn ei rôl newydd, dyma gyfle arall i ddarllen ei ddarn Safbwynt i golwg360, lle mae’n amlinellu rhan o’i waith a’r heriau sy’n ein hwynebu, a beth sy’n gallu cael ei wneud yn ystod y blynyddoedd i ddod wrth i Gymru – a’r byd – fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.
Tybed beth yw’r olygfa wrth i chi gamu trwy eich drws ffrynt yn y bore? Mi fentraf fod nifer fel fi yn gweld llu o geir wedi parcio, a’r ceir sy’n pasio wrth yrru yn gwneud hynny ar dipyn o gyflymder. Nawr, dychmygwch am eiliad yr olygfa petai’r amgylchedd lleol wedi ei ddylunio ar gyfer pobol a chymunedau nid ar gyfer ceir preifat. Camu allan o’r tŷ a gweld tipyn llai o geir, plant yn chwarae, efallai coed wedi’u plannu a digon o gyfleoedd i bobol fwynhau’r tu fas. Ai breuddwyd ffŵl yw hynny? Nid ar draws nifer o ddinasoedd a threfi yn Ewrop – ble mae’r awdurdodau cyhoeddus yn rhoi pobol eto ar ganol cynllunio trefol ac yn cyfyngu’n sylweddol ar dra-arglwyddiaeth y car.
Mae yna fanteision sylweddol i weithredu o’r fath – o ran y gymdeithas, yr economi a’n hiechyd – a hynny heb sôn eto am yr argyfwng newid hinsawdd enbyd sy’n ein hwynebu. Os ydym o ddifrif am daclo newid hinsawdd, mae gan drafnidiaeth rhan allweddol i’w chwarae, ac mae hynny’n golygu newid ein harferion am deithiau byr.
Felly beth allwn ei wneud? Beth all Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Teithio Llesol ei wneud i helpu?
Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, fel Cadeirydd y Bwrdd, rwy’n awyddus i ganolbwyntio ar bum thema allweddol:
• Teithio Llesol i Ysgolion
• Llwybrau safon uchel rhwng dinasoedd, trefi a phentrefi
• Teithio llesol i bawb, gan gynnwys rhaglen benodol i ddileu rhwystrau ar lwybrau beics
• Datblygu yn sylweddol defnydd E-feiciau yng Nghymru
• Integreiddio teithio llesol gyda thrafnidiaeth gyhoeddus
Cynllun teithio llesol ym mhob ysgol
Mae mwyafrif llethol ein plant ysgol yn byw o fewn pellter cerdded, sgwtio neu seiclo rhesymol i’r ysgol – ond mae’r mwyafrif yn dewis peidio gwneud. Wrth i ni holi rhieni am y rhesymau, mae diogelwch ar y ffyrdd ac o gwmpas yr ysgol yn rhan allweddol o’r penderfyniad. Rwy’ am weld pob ysgol yng Nghymru yn datblygu cynllun teithio llesol a chynghorau lleol yn cydweithio gyda theuluoedd lleol i sicrhau llwybrau diogel i gerdded a beicio i’r mwyafrif mawr o blant. Ar ben hynny, mae angen sicrhau fod datblygiadau ysgol newydd yn cefnogi ac yn cynyddu’r nifer o blant sy’n teithio’n llesol i’r ysgol. Yn llawer rhy aml mae ysgolion wedi eu hadeiladu mewn mannau anhygyrch sy’n ei gwneud hi’n anos i blant gyrraedd yno ar eu liwt eu hunain. Rwy’n falch felly ’mod i wedi sicrhau ymrwymiad gan y llywodraeth y bydd teithio llesol yn rhan o’r asesiad cychwynnol o geisiadau am arian cyfalaf i adeiladu / adnewyddu ysgolion yn y dyfodol.
Gyda phlant yn cerdded ac yn beicio’n fwy hyderus mae angen i ni wneud llawer mwy i gysylltu ein canolfannau trefol (o bob maint) gyda llwybrau deniadol a diogel. Mae’r gwaith wedi cychwyn o greu llwybrau da rhwng trefi a phentrefi, ond yn llawer rhy aml mae yna ddarnau bach sydd naill ai ar goll neu yn llawer mwy peryglus nag y dylent fod. Y gwir plaen yw bod pobol yn mynd i boeni am y 400 metr ar heol brysur a chyflym llawer mwy na phedair milltir ar lwybr wedi ei warchod. Mae angen i’r llwybrau rhyng-drefol felly fod o safon ar gyfer yr holl daith er mwyn sicrhau’r defnydd fwyaf posib.
Ac wrth i ni drafod llwybrau o safon uchel. Fel mae’n sefyll mae llawer gormod o rwystrau yn parhau ar y llwybrau yma – boed nhw’n gatiau neu’n ‘A Frames’ fel y’i gelwir. I’r sawl sydd efallai yn tywys beic ffordd, dyw ffrâm fawr neu giât drwsgl ddim yn ormod o rwystr. Ond i’r rhiant gyda phlentyn mewn trelar bach ar y cefn neu’r person anabl ar feic wedi ei gynllunio’n benodol i berson anabl – mae rhwystr o’r fath yn gallu eu hatal yn llwyr rhag teithio ar y llwybr. Yn y gwledydd Ewropeaidd mwyaf datblygedig mae’r niferoedd o bobol mewn oed a gydag anableddau sy’n seiclo a cherdded yn llawer, llawer uwch na Chymru; ac mae gennym gryn dipyn o waith i’w wneud i sicrhau fod ein patrwm o deithio llesol yno i bawb.
E-feiciau – un o ddatblygiadau mawr y blynyddoedd diweddar
I rai mae giatiau ac ati yn rhwystr, ond i eraill mae ein bryniau hardd yn peri rhywfaint o rwystr (seicolegol) fan lleiaf. Un o ddatblygiadau mawr y blynyddoedd diweddar ym myd teithio llesol yw E-feiciau. Dyma feiciau sy’n gallu rhoi help llaw i chi wrth deithio, a help llaw sylweddol wrth wynebu bryn. Y cyflymdra uchaf mae modd ei gyrraedd gyda chymorth y batri yw 15 milltir yr awr – ond mae’r profiad yn dra gwahanol i feic ‘arferol’. Mae modd cyrraedd cyfarfodydd neu orchwylion eraill heb chwysu nac anadlu’n drwm. Mae ambell gynllun i bobl fedru profi e-feic ar hyn o bryd yn digwydd yn nhrefi fel Aberystwyth; ond rwy’n gobeithio gweld tipyn mwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru i dyfu’n sylweddol y nifer o bobl sydd gyda mynediad at e-feic yng Nghymru, achos mae’r dystiolaeth yn glir – mae perchnogion e-feiciau yn cyfnewid nifer o deithiau byr mewn car am siwrnai ar yr e-feic.
Rwy’ wedi canolbwyntio hyd yn hyd ar deithiau byr – fel arfer hyd at ddwy filltir wrth gerdded, pum milltir ar feic, neu ddeg milltir ar e-feic – ond beth am deithiau hwy? Dyma ble mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ddarn allweddol o’r jig-so ond darn sydd heb hyd yn hyn chwarae ei rhan yn llawn. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ar sicrhau gwell mynediad i gerddwyr a seiclwyr i orsafoedd trenau a bysiau; ond mae angen tipyn mwy o waith i groesawu beiciau ar drenau. Fel mae’n sefyll mae angen bwcio lle i feic o flaen llaw ar drên, ac wedyn dim ond lle i ddau feic sydd. Os ydym o ddifrif am gymell pobol i symud oddi wrth eu ceir i ddulliau teithio mwy cynaliadwy, mae’n rhaid i ni wneud yr opsiwn o deithio drwy gerdded / beicio ac wedyn dal trên neu fws yn llawer haws!
Dyma flas ar fy mlaenoriaethau fel Cadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol am y ddwy flynedd nesaf. Mae tipyn o waith i’w wneud, ond rwy’n ystyried fod llwyddo yn y gwaith yn rhan hanfodol o daclo’r argyfwng newid hinsawdd a sicrhau fod Cymru yn gallu chwarae rhan gadarnhaol wrth sicrhau datblygu cynaliadwy ym maes trafnidiaeth.