Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres newydd yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y newyddiadurwraig a chyflwynydd teledu Siân Lloyd sydd Ar Blât yr wythnos hon. Mae hi’n dod o Wrecsam yn wreiddiol a bellach yn byw yn Nhresimwn ym Mro Morgannwg…

Roedd fy rhieni yn hoffi gwahodd pobl draw i giniawa ac roedd y partïon yn chwedlonol yn ein cornel fach ni o Wrecsam. Mae mam yn gogyddes dalentog ac roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn coginio  bwydydd gwahanol, hyd yn oed cyn yr holl raglenni coginio sydd ar y teledu heddiw.

Roedd hi wedi casglu cyfres gyfan o’r cylchgrawn Cordon Bleu Cookery Course ac maen nhw ganddi o hyd. Dw i’n cofio roedd paratoi’r pedwar neu bum cwrs yn cymryd y rhan fwyaf o’r dydd ac roedd hi bob tro yn rhoi dewis o ddau bwdin.

Y bore dydd Sul, roedd fy mrawd a finnau yn edrych mlaen at agor yr oergell i weld y ‘leftovers’ – ac wrth ein boddau yn cael Lemon Souffle neu Gateau Diane i frecwast!

Llyfrau coginio Cordon Bleu mam Sian Lloyd

Prydau Cymreig traddodiadol fel lobsgows, cig oen lleol gyda saws mintys cartref a llysiau o randir fy Nhaid, a phwdin reis, oedd y ‘staples’ gan Nain yn ystod gwyliau’r haf yng Nghricieth.

Roedd Taid a Nain wedi arfer efo dyddiau hir o waith corfforol, ond hyd yn oed ar ôl iddyn nhw ymddeol roedd y pryd poeth dyddiol bob amser ar y bwrdd am hanner dydd – a hynny yn yr haf hefyd.

Dw i’n hoffi paratoi’r un prydau bwyd heddiw i fy nheulu fy hun, er nad ydw i’n cael y cyfle i gael llawer mwy na brechdan i ginio’r dyddiau hyn.

Fel newyddiadurwraig mae dod o hyd i fwyd yn gallu bod yn her weithiau – mae’n fater o weld beth sydd ar gael. Dw i’n cofio un achlysur pan oeddwn i’n dilyn ymweliad yr Arlywydd Trump i Lundain, a chael hufen iâ i ginio, achos roedd gan y siop y WiFi gorau. A dyna le naethon ni olygu ein hadroddiad ar gyfer newyddion 6 hefyd!

Caws ar dôst dw i’n troi ato pan dw i eisiau cysur. Pan o’n in 10 oed roedd yr ysgol gyfan wedi dal brech yr ieir. Roedd yn ddiflas iawn gan ein bod ni ddim yn gallu cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.  Un cysur oedd caws ar dôst gan mam i demptio fi i fwyta. Dw i’n caru caws ac yn bwyta dipyn bron bob dydd. Mae gynnon ni gynhyrchwyr bwyd gwych yng Nghymru ac mae’r amrywiaeth yn fendigedig.

Salad tomato ydy blas yr haf i fi. Pan o’n i’n astudio Ffrangeg Lefel A, es i ar wyliau i aros gyda theulu ger Paris am bythefnos ym mis Gorffennaf.  Roedd yn brofiad bendigedig. Bob nos roedd y teulu’n dod at ei gilydd am bryd o fwyd yn yr ardd. Dyma le ges i fy nghyflwyno i’r pryd bwyd sydd erbyn hyn yn ffefryn. Tomato wedi’i sleisio’n denau gyda basil ffres ar ei ben a vinaigrette cartref, wedi’i weini gyda bara o’r becws teuluol. Syml ond blasus.

Dydw i ddim wedi cyrraedd yr un safonau a mam ond mae lasagne yn gyflym ac yn hawdd a dw i’n gallu gwneud fersiwn efo cig neu lysiau yn dibynnu ar y gwesteion os dw i’n cael pobl draw am swper.

Y Llyfr Sea Salt gan y teulu Lea-Wilson sy’n berchen Halen Mon

Dw i wrth fy modd gyda’r llyfr coginio newydd Sea Salt gan y teulu Lea-Wilson sy’n berchen Halen Môn. Mae’r ryseitiau’n hawdd i’w dilyn ac yn atgoffa fi o’r môr ac ardal dw i’n hoff iawn ohoni.  Mae’n wych i ddathlu bwyd Cymreig.

Y llynedd wnes i helpu i sefydlu Gwobrau Bwyd a Diod Cymru gafodd eu cynnal ym mis Mai eleni yng Nghaerdydd. Dw i wastad wedi bod yn frwd dros fwyd a diod lleol ac roeddwn i’n teimlo byddai’n syniad da cael llwyfan cenedlaethol i arddangos a dathlu’r sector yng Nghymru.

Bydd ail seremoni Gwobrau Bwyd a Diod Cymru yn cael ei chynnal ym mis Mai 2023.