Roedd y modd y cafodd cynghorwyr eu bygwth a’u sarhau gan brotestwyr yn oriel Cyngor Gwynedd yn “warthus, trist ac anghyfrifol”, yn ôl Beca Brown, arweinydd addysg Cabinet y Cyngor.

Daw hyn ar ôl i brotest – tra bod cynghorwyr yn dadlau’r polisi – droi’n flêr.

Cafodd yr oriel gyhoeddus ei chlirio gan yr heddlu a chafodd cynghorwyr eu dal yn ôl yn siambr Cyngor Gwynedd am “resymau diogelwch” ar ddiwedd y cyfarfod ddoe (dydd Iau, Awst 25).

Bydd polisi addysg rhyw Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion ym mis Medi.

Mae’r polisi yn elfen orfodol o Fframwaith Cwricwlwm Cymru, a dyma’r arweiniad statudol i benaethiaid a chyrff llywodraethu.

Roedd pump o gynghorwyr Gwynedd wedi galw am y cyfarfod brys, sef Louise Hughes, Eryl Jones-Williams, Angela Russell, Gruff Williams a Rob Triggs.

Honnodd y cynghorwyr y gallai’r cynllun addysg rhyw fod â “goblygiadau sylweddol iawn i’r rhieni a’r plant, yn ogystal ag i’n hathrawon, ein hetholwyr, a’r Cyngor”.

Daeth y cyfarfod i ben wrth i rai rhieni fygwth tynnu eu plant o ysgolion yng nghanol ymgyrch gan grŵp Diogelu Plant Cyhoeddus Cymru.

Roedd taflen gafodd ei dosbarthu gan y grŵp yn honni y gallai’r cwricwlwm gyflwyno plant ifanc i syniadau megis “mastwrbio, bondio a rhyw rhefrol (anal)“.

Fodd bynnag, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y daflen yn “llawn camwybodaeth a honiadau anghywir”.

‘Gwarthus, trist ac anghyfrifol’

“Yn anffodus, roeddwn i wedi meddwl o bosib y basa’ rhywbeth felly yn gallu digwydd, a dw i’n meddwl ei fod o’n drist pan mae rhywun yn gallu ryw hanner rhagweld bod hynny yn mynd i ddigwydd,” meddai Beca Brown wrth golwg360.

“Roedd yr ymddygiad welsom ni ddoe yn warthus ac mi oedd o’n deimlad annifyr a bygythiol.

“Pan mae pobol yn dechrau ymddwyn fel yna, dwyt ti ddim yn gwybod be wneith neb.

“A dydi hynny ddim yn deg pan mae rhywun jyst yn trio gwneud ei swydd.

“Roedd beth ddigwyddodd yn drist ac yn rhwystredig iawn.

“Mae cynghorwyr yn bobol ddidwyll, yn bobol gyfrifol ac yn bobol broffesiynol.

“Roedd gen ti sawl un ddoe sydd â blynyddoedd o brofiad mewn meysydd perthnasol i’r pwnc oedd dan sylw ddoe, fel addysg, seicoleg plant, gwasanaethau cymdeithasol ac ati.

“A phan mae pobol fel yna yn cael criw yn y galeri yn ymddwyn yn fygythiol tuag atyn nhw ac yn galw enwau faswn i ddim eisiau ailadrodd arnyn nhw, mae o’n ddiwrnod trist.

“Mae o’r peth mwyaf naturiol yn y byd i ofidio am ein plant ni, beth mae ein plant ni’n clywed allan yn y byd ac yn yr ysgol ac ati, dw i’n fam i ddau fy hun.

“Ond mae yna lot o bobol rŵan sydd yn mynd i glywed y math o bethau mae’r bobol yma yn ei honni a’r hyn maen nhw’n ei ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol, maen nhw hefyd wedi bod yn rhoi taflenni drwy ddrysau pobol.

“Ac maen nhw’n mynd i gael eu brawychu, a dw i ddim yn gweld bai arnyn nhw achos mae’r deunydd sydd wedi cael ei gynhyrchu gan y grŵp lobio yma yn fy mrawychu i.

“Dydi o ddim yn fy mrawychu i oherwydd mod i’n credu mai dyna sy’n mynd i gael ei ddysgu yn ein hysgolion ni. Nid dyna sy’n mynd i gael ei ddysgu yn ein hysgolion ni.

“Ond pan ti’n cael hwnna drwy dy ddrws di, ti’n mynd i feddwl: ‘Argoledig, be’ ydi hyn?’

“Mae’r grŵp lobio bach yma yn trio rhoi rhyw wedd swyddogol i’r deunydd yma, ac mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi dweud ddoe fod yr hyn maen nhw’n ei ddweud yn anghywir a chamarweiniol.

“Er enghraifft, maen nhw’n gwneud lot o sŵn am gydsynio, roedd yna bobol yn gweiddi arna i ddoe: ‘Three year olds can’t consent’.

“Wel, yr unig gyd-destun mae cydsynio yn cael ei ddysgu i blant bach ydi caniatâd, er enghraifft, i nôl felt tip o gas pensiliau’r plentyn drws nesaf.

“Bod y syniad yn cael ei ddysgu’n gynnar bod yna rai pethau sy’n berchen i chdi ac mae gen ti hawl arnyn nhw a bod rhaid i rywun gael caniatâd cyn cymryd rhywbeth sy’n berchen i chdi.

“Y syniad o gydsynio a chael caniatâd, creu boundaries mewn ffordd.

“Siŵr Dduw, dydi cydsyniad rhywiol ddim yn dod iddi i blant bach, ond mae’r syniad o gydsynio a beth ydi cael caniatâd a pharchu beth sy’n berchen i bobol a ffiniau pobol, mae hwnna yn ffordd o adeiladu at yr addysg bwysig iawn o gydsyniad rhywiol sy’n dod lot nes ymlaen pan mae plant yn aeddfedu.

“Wedyn mae rhywun yn trio esbonio’r pethau yma wrth bobol, ond mae’r sŵn mawr arall yma yn mynd ar draws bob dim ac mae pobol yn cael eu dychryn.

“Felly beth sy’n fy mhoeni i ydi fod yna bobol allan yna sydd wirioneddol ddim yn gwybod beth sy’n wir a beth sydd ddim yn wir.

“Mae o’n anghyfrifol.”

‘Cymhelliant’

Mae’r math o yma o gamwybodaeth a chamarwain yn nodweddiadol o’r hinsawdd wleidyddol y rydyn ni’n byw ynddo ar hyn o bryd, yn ôl Beca Brown.

“Yn anffodus mae pethau’n aml yn cael eu cynnig fel tystiolaeth sydd ddim yn dystiolaeth o gwbl,” meddai wedyn.

“Er mwyn cael gweld beth mae pobol yn ei weld, fe wnes i ychydig o chwilio o gwmpas, trydar ac ati.

“Mae yna lobïo yn erbyn y math yma o beth y tu hwnt i Gymru a thu hwnt i wledydd Prydain.

“Ac mae yna batrwm amlwg i’w weld o ran y lleisiau cryfa’ ynglŷn â hyn, maen nhw weithiau yn anti-vaxxers, yn conspiracy theorists, yn bobol sy’n gwadu’r argyfwng hinsawdd. Ddim fy mod i’n cyhuddo’r bobol oedd yn yr oriel o fod â daliadau o’r fath.

“Ond os wyt ti’n sbïo o gwmpas ar y cyfryngau cymdeithasol, mae yna batrwm amlwg yn datblygu.

“Felly weithiau mae angen cwestiynu beth ydi cymhelliad y bobol sydd bell i ffwrdd efallai, ac sy’n dylanwadu ar syniadaeth rhai o’r grwpiau yma.

“Oherwydd dw i’n gwybod beth ydi fy nghymhelliant i fel arweinydd portffolio addysg a’r cynghorwyr eraill oedd yn sefyll ac yn dadlau o blaid y cod addysg yma ddoe.

“Ein cymhelliant ni ydi diogelwch, lles, iechyd a hapusrwydd plant a phobol ifanc Gwynedd.

“Ond dw i ddim yn gwybod beth ydi cymhelliant rhai o’r bobol yma, ac mae hynna yn fy nychryn i braidd.

“A dw i’n poeni bod yna bobol yn mynd i gael eu hudo gan ddeunydd sydd jyst ddim yn wir.”

‘Dim angen cyfarfod arbennig’

Doedd “dim angen” cynnal cyfarfod arbennig i drafod y polisi, yn ôl Beca Brown.

“Mae’r polisi addysg rhywioldeb yma yn statudol, mae o’n dod i mewn ym mis Medi fel rhan o’r cwricwlwm newydd,” meddai.

“Mae o wedi cael ei basio yn ein Senedd ni, mae o’n cael ei gefnogi gan yr NSPCC, gan y Comisiynydd Plant, gan Gymorth i Ferched, mae o wedi cael ei roi at ei gilydd gan arbenigwyr yn y maes sydd wedi rhoi oes o waith i mewn i’r maes yma.

“Rwyt ti’n sôn am bobol gredadwy iawn.

“Felly roeddwn i yn teimlo’n rhwystredig mod i’n ffeindio fy hun yn fanna ddoe yn siarad am rywbeth oedd wedi ei seilio i raddau helaeth ar gamargraff.

“Rydan ni mewn cyfnod lle mae yna bethau allweddol eraill y mae angen i ni fod yn ei drafod.

“Beth ydan ni eisiau i bobol ifanc Gwynedd yw eu harfogi nhw gyda’r sgiliau i greu perthnasau iach, diogel a phositif, boed hynny gyda’u ffrindiau nhw, eu teuluoedd ac yn y pen draw, gyda chymar.

“Ac rydan ni’n gwybod am yr holl fwlio sy’n mynd yn ei flaen mewn ysgolion, rydan ni’n sôn amdano fo drwy’r amser.

“Bwlio ar sail hil, rhywedd, crefydd, anabledd ac ati.

“Felly rydan ni angen y math yma o addysg, dw i’n gynhyrfus amdano fo a dw i’n meddwl ei fod o’n wych o beth.

“Wedyn rwyt ti’n cael pobol yn trio gwneud allan ei fod o’n rywbeth dydi o ddim, ei fod o’n gwneud ein plant ni yn llai diogel ac mae hynny yn fy mhoeni i oherwydd dyna sydd wir yn peryglu ein plant ni.”

Aflonyddu merched yn “epidemig”

“Rydan ni’n gwybod beth yw’r ffigyrau ynghylch aflonyddu rhywiol ar ferched ifanc,” meddai wedyn.

“Mae hogiau yn ei gael o hefyd, ond mae o’n epidemig ymhlith merched, mae o mor gyffredin ac wedi cael ei normaleiddio.

“Mae yna bob math o ffigyrau allan yna, ond mae hi’n saff i ddweud bod dros hanner merched yn eu harddegau wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol.

“Rwyt ti’n sôn am aflonyddu yn y cartref ac ati.

“Mae’r holl bethau rydan ni eisiau eu rhwystro rhag digwydd i gyd yn dod lawr i addysg, ac mae’r cod addysg yma yn hanfodol os ydan ni’n mynd i helpu pobol i fynd drwy eu bywydau nhw’n ddiogel ac yn hapus.

“Felly mae’r ffaith fod yna bobol yn trio gwneud hyn allan i fod yn rhywbeth dydi o ddim a bod yna bobol yn yr oriel yna ddoe yn galw enwau hyll ar bobol broffesiynol a didwyll yn hynod siomedig ac yn gwneud i ti ystyried os wyt ti’n gallu gwneud dy waith yn y ffasiwn hinsawdd.”

Jeremy Miles wedi’i “arswydo”

Yn y cyfamser mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi ymateb drwy ddweud ei fod “yn annog yr aelodau ac unrhyw un sy’n bryderus am y mater i ddarllen y Cod a’r canllaw statudol i weld drostynt eu hunain mor gamarweiniol a di-sail yw honiadau’r grŵp”.

“Fel sy’n digwydd yn y Cyfnod Sylfaen ar hyn o bryd, bydd ein dysgwyr ifancaf yn dysgu am gyfeillgarwch a theuluoedd, a byddan nhw’n bendant iawn ddim yn dysgu am berthynas ramantaidd neu rywiol,” meddai.

“Gwaherddir hyn gan y Cod. Mae’r gyfraith yn hollol glir: rhaid i’r ACRh a ddysgir fod yn gwbl briodol i ddatblygiad pob plentyn.

“Rwy’n bleidiol iawn i’r broses ddemocrataidd a hawl pobl i brotestio a phwysigrwydd gallu troi at y gyfraith i ddwyn llywodraethau i gyfrif am eu penderfyniadau.

“Ond mae tactegau ymosodol y grŵp hwn i bwyso ar y bobol sy’n gweithio yn ein Hawdurdodau Lleol a’n hysgolion yn fy arswydo.

“Diben ACRh yw cadw plant yn ddiogel: rhag perthnasoedd a sefyllfaoedd a allai eu niweidio, yn enwedig ar-lein.

“Mae plant heddiw’n gorfod delio â phwysau nad oeddem ni’n gwybod amdanyn nhw pan oeddem ni’n blant. Ni allwn anwybyddu’r peryglon hyn.

“Mae gwir berygl i’r honiadau a wneir gan y grŵp wneud niwed go iawn i’n plant ifanc wrth i’r grŵp geisio eu rhwystro rhag cael yr addysg hanfodol hon allai eu diogelu yn y dyfodol.”

 

“Gwarthus, trist ac anghyfrifol”: Ymateb chwyrn i brotest yn oriel Cyngor Gwynedd

Huw Bebb

“Pan mae pobol yn dechrau ymddwyn fel yna, dwyt ti ddim yn gwybod be wneith neb”