Mae un o bwyllgorau’r Senedd “yn pwyso” ar gwmni newyddion Newsquest “i roi sicrwydd i’w gweithwyr cyn gynted â phosib”.

Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad annisgwyl y gallai gwefan newyddion The National gau mor gynnar â’r wythnos nesaf, 18 mis ar ôl ei lansio.

Mae dau aelod o’u staff wedi cael rhybudd ynghylch y sefyllfa, a chan nad ydyn nhw wedi’u cyflogi am o leiaf ddwy flynedd, does ganddyn nhw ddim hawl cyfreithiol i daliadau diswyddo.

Cystadleuaeth gan wefannau eraill sydd wedi cael ei feio am y sefyllfa mae’r National ynddi, am nad oes digon o bobol wedi tanysgrifio i’r wefan.

Mae’r wefan yn eiddo i Newsquest, un o’r grwpiau newyddion mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sydd yn ei dro yn is-gwmni i’r cawr cyfryngau Americanaidd Gannett.

Cafodd The National ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2021.

Cafodd rhifyn papur newydd wythnosol ei gyhoeddi tan fis Tachwedd 2021 pan aeth y rhifyn print olaf ar werth.

Ar y pryd dywedodd Gavin Thompson, rheolwr gyfarwyddwr The National, mai “prif amcan y papur newydd oedd codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth newyddion digidol newydd i Gymru fel dewis amgen i frandiau newyddion cenedlaethol y Deyrnas Unedig sy’n cael eu cyhoeddi o Loegr”.

‘Ymgynghori ar y bwriad i gau’

“Mae’n drueni gwirioneddol,” meddai Huw Marshall, sylfaenydd The National.

“Mae’r ymatebion i’r newyddion, ar y cyfan, yn dangos bod y mwyafrif wedi gwirioneddol werthfawrogi’r gwaith rydyn ni’n ei wneud a’n cyfraniad i’r gymdeithas sifil yng Nghymru.

“Mae hi i lawr i economeg syml, mae tanysgrifiadau wedi gostwng wrth i effaith yr argyfwng costau byw waethygu.”

Roedd Gavin Thompson, sydd hefyd yn golygu’r Argus yng Nghasnewydd, wedi cyhoeddi datganiad yn dweud bod “Newsquest yn ymgynghori ar y bwriad i gau The National”.

“Er gwaethaf ymdrechion ac ymroddiad gorau cystadleuaeth y tîm, mae gwefannau newyddion eraill gan gynnwys BBC Cymru yn golygu nad yw The National wedi gallu tyfu nifer ei danysgrifwyr i lefel gynaliadwy,” meddai.

“Mae nifer fach o rolau mewn perygl o ganlyniad i’r cynnig hwn ac rydym yn ymgynghori gyda staff sydd wedi eu heffeithio er mwyn ceisio lleihau diswyddiadau posibl.”

Cwestiynau

Mae Delyth Jewell, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd, wedi ysgrifennu at benaethiaid cwmni Newsquest Media Group ynghylch dyfodol y gwasanaeth newyddion The National Wales.

Mae hi’n ysgrifennu colofnau rheolaidd i’r South Wales Argus, un o deitlau Newsquest.

Mae’r llythyr yn pwysleisio pryderon y Pwyllgor ynghylch effaith colli’r gwasanaeth ar luosogrwydd y cyfryngau yng Nghymru, a’u pryderon am y newyddiadurwyr a allai golli eu swyddi.

Mae’r cadeirydd yn gofyn i Newsquest:

  • am eglurhad llawnach o’r rhesymau dros gau gwefan newyddion The National Wales.
  • Beth fydd yn digwydd i’r newyddiadurwyr hynny a gyflogir gan The National Wales?
  • Pa fodelau busnes eraill sydd wedi cael eu hystyried i sicrhau bod The National Wales yn goroesi?
  • O ystyried eu rôl yn y gwaith o redeg Corgi Cymru, pa ystyriaeth sydd wedi’i rhoi i sefydlu ystafell newyddion ddwyieithog i Gymru o fewn Newsquest Media?

‘Gwerthfawrogi mai cwmni preifat yw Newsquest’

“Wrth glywed y newyddion pryderus am ddyfodol gwasanaeth The National Wales, yn naturiol mae ein meddyliau yn troi at y gweithwyr sy’n wynebu colli eu swyddi,” meddai llefarydd ar ran Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.

“Mae’r Pwyllgor yn gofyn i Newsquest am eglurhad ynghylch dyfodol y swyddi ac a oes cyfle i’w hail leoli ymhlith teitlau eraill y cwmni yng Nghymru.

“Ar ddiwedd wythnos anodd i’r rhai sydd wedi eu heffeithio, byddem yn pwyso ar y cwmni i roi sicrwydd i’w gweithwyr cyn gynted â phosib.

“Ry’n ni’n gwerthfawrogi mai cwmni preifat yw Newsquest, ond ry’n ni’n gobeithio eu bod nhw’n sylweddoli pwysigrwydd rôl y cwmni a’r newyddiadurwyr a gyflogir ganddynt yn nhirwedd cyfryngau Cymru.

“Mae’n hanfodol sicrhau fod ystod eang o deitlau a chyrff newyddiadurol ar gael yn y ddwy iaith, nid yn unig er mwyn dwyn y rhai sydd mewn pŵer i gyfrif, ond hefyd fel offeryn cyfathrebu i drafod materion eraill o ddiddordeb mewn cymdeithas rydd a sifil.”

Mae gwefan Corgi Cymru yn dod o dan adain Newsquest.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a yw ariannu cwmni Newsquest, sy’n gweithredu’n gyfangwbl yn Saesneg, yn tanseilio amcan cynllun Miliwn o Siaradwyr Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o weithleoedd lle mai’r Gymraeg yw’r brif iaith.

Colli The National yn “ergyd” i newyddiaduraeth yng Nghymru, medd Rhys ab Owen

Huw Bebb

“Mae eisiau i bobol Cymru allu derbyn newyddion am faterion Cymreig ac mae hwnna yn ddiffyg mawr ar hyn o bryd”

Gwefan newyddion The National i gau 18 mis ar ôl ei lansio

“Mae gwefannau newyddion eraill gan gynnwys BBC Cymru yn golygu nad yw The National wedi gallu tyfu ei nifer o danysgrifwyr i lefel gynaliadwy”