Mae colli gwefan newyddion The National yn “ergyd” i newyddiaduraeth yng Nghymru, medd Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru.

Daw hyn yn dilyn y newyddion y gallai The National gau mor gynnar â’r wythnos nesaf, 18 mis ar ôl ei lansio.

Mae dau aelod o’u staff wedi cael rhybudd ynghylch y sefyllfa.

Gan nad ydyn nhw wedi’u cyflogi am o leiaf ddwy flynedd, does ganddyn nhw ddim hawl cyfreithiol i daliadau diswyddo.

Cystadleuaeth gan wefannau eraill sydd wedi cael ei feio am y sefyllfa mae’r National ynddi, am nad oes digon o bobol wedi tanysgrifio i’r wefan.

Mae’r wefan yn eiddo i Newsquest, un o’r grwpiau newyddion mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sydd yn ei dro yn is-gwmni i’r cawr cyfryngau Americanaidd Gannett.

Cafodd The National ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi y llynedd.

‘Craffu mor bwysig’

“Mae craffu mor bwysig, ac roedd y National yn cynnig haenen arall o graffu,” meddai Rhys ab Owen wrth golwg360.

“Rydyn ni’n sôn o hyd am y diffyg yn y wasg Gymreig ac mae colli papur fel y National yn ergyd ychwanegol.

“Mae newyddiaduraeth mewn gwledydd democrataidd wedi chwarae rôl amlwg wrth ddod o hyd i bob math o bethau ar draws hanes.

“Ond mae eisiau’r adnoddau a’r amser ar newyddiadurwyr wedyn i wneud hynny o ddifrif.

“Er mwyn i ddemocratiaeth weithio, mae’n rhaid cael gwasg gynaliadwy.

“Mae eisiau i bobol Cymru allu derbyn newyddion am faterion Cymreig ac mae hwnna yn ddiffyg mawr ar hyn o bryd.”

 

Gwefan newyddion The National i gau 18 mis ar ôl ei lansio

“Mae gwefannau newyddion eraill gan gynnwys BBC Cymru yn golygu nad yw The National wedi gallu tyfu ei nifer o danysgrifwyr i lefel gynaliadwy”