Fe allai gwefan newyddion The National mor gynnar ag yr wythnos nesaf, 18 mis ar ôl ei lansio.

Mae dau aelod o’u staff wedi cael rhybudd ynghylch y sefyllfa. Gan nad ydyn nhw wedi’u cyflogi am o leiaf ddwy flynedd, does ganddyn nhw ddim hawl cyfreithiol i daliadau diswyddo.

Cystadleuaeth gan wefannau eraill sydd wedi cael ei feio am y sefyllfa mae’r National ynddi, am nad oes digon o bobol wedi tanysgrifio i’r wefan.

Mae’r wefan yn eiddo i Newsquest, un o’r grwpiau newyddion mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sydd yn ei dro yn is-gwmni i’r cawr cyfryngau Americanaidd Gannett.

Cafodd The National ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2021.

Cafodd rhifyn papur newydd wythnosol ei gyhoeddi tan fis Tachwedd 2021 pan aeth y rhifyn print olaf ar werth.

Ar y pryd dywedodd Gavin Thompson, rheolwr gyfarwyddwr The National, mai “prif amcan y papur newydd oedd codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth newyddion digidol newydd i Gymru fel dewis amgen i frandiau newyddion cenedlaethol y Deyrnas Unedig sy’n cael eu cyhoeddi o Loegr”.

‘Trueni’

“Mae’n drueni gwirioneddol,” meddai Huw Marshall, sylfaenydd The National.

“Mae’r ymatebion i’r newyddion, ar y cyfan, yn dangos bod y mwyafrif wedi gwirioneddol werthfawrogi’r gwaith rydyn ni’n ei wneud a’n cyfraniad i’r gymdeithas sifil yng Nghymru.

“Mae hi i lawr i economeg syml, mae tanysgrifiadau wedi gostwng wrth i effaith yr argyfwng costau byw waethygu.”

‘Ceisio lleihau diswyddiadau’

Mae Gavin Thompson, sydd hefyd yn golygu’r Argus yng Nghasnewydd, wedi cyhoeddi datganiad yn dweud bod “Newsquest yn ymgynghori ar y bwriad i gau The National”.

“Er gwaethaf ymdrechion ac ymroddiad gorau cystadleuaeth y tîm, mae gwefannau newyddion eraill gan gynnwys BBC Cymru yn golygu nad yw The National wedi gallu tyfu  nifer ei danysgrifwyr i lefel gynaliadwy,” meddai.

“Mae nifer fach o rolau mewn perygl o ganlyniad i’r cynnig hwn ac rydym yn ymgynghori gyda staff sydd wedi eu heffeithio er mwyn ceisio lleihau diswyddiadau posibl.”