Mae canlyniadau TGAU myfyrwyr Cymru ychydig yn is na’r llynedd, ar ôl i arholiadau gael eu cynnal yn yr haf am y tro cyntaf ers 2019.

Tra bod chwarter y graddau’n A* neu A, 68.6% gafodd A*-C o gymharu â 73.6% y llynedd pan gafodd graddau eu hasesu gan athrawon, sy’n gynnydd o 5.8 pwynt canran o gymharu â 2019.

Mae’r 97.3% wnaeth basio gyda graddau rhwng A* a G yn gynnydd o 0.1% o gymharu â thair blynedd yn ôl.

Cafodd 25.1% raddau A* neu A, sydd yn is na’r llynedd ond 6.7 pwynt canran yn uwch na 2019.

Ar y cyfan, mae’r canlyniadau rywle rhwng 2019 a’r llynedd ac roedd 311,072 o geisiadau, sy’n gwymp o 5.4% o gymharu â’r llynedd.

Fe wnaeth merched 8.1 pwynt canran yn well na bechgyn o ran graddau A* ac A.

Roedd 18% o raddau Mathemateg yn A* neu A, sy’n gynnydd o 5% o gymharu â 2019, tra bod 56.8% wedi ennill gradd C neu uwch.

22.1* gafodd radd A* neu A yn y Gymraeg (Iaith gyntaf), i fyny o 15.8% yn 2019, gyda 22.9% wedi ennill y graddau hynny mewn Cymraeg Ail Iaith.

“Heddiw, rydym yn cydnabod cyflawniad miloedd o ddysgwyr ledled y wlad,” meddai Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC.

“Mae’r cymwysterau maen nhw’n eu casglu heddiw yn adlewyrchu eu blynyddoedd o astudio, ond hefyd y gefnogaeth ac arweiniad gan eu hathrawon, darlithwyr, teuluoedd a ffrindiau.

“Mae’r canlyniadau hyn yn nodi dechrau eu taith ar hyd sawl llwybr, gan gynnwys addysg bellach neu gyflogaeth.

“Beth bynnag yw eu dewis, rwy’n dymuno’r gorau iddyn nhw yn eu hymdrechion.”

‘Llongyfarchiadau’

“Llongyfarchiadau i bawb oedd yn derbyn eu canlyniadau heddiw,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Dylech chi i gyd fod yn falch o’r gwaith caled wnaethoch chi drwy’r holl darfu a fu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Rwy’n croesawu’r canlyniadau hyn wrth i ni symud yn ôl at arholiadau eleni – mae’n wych gweld beth mae ein dysgwyr wedi ei gyflawni.

“Peidiwch â bod yn rhy siomedig a pheidiwch â bod yn rhy feirniadol ohonoch chi’ch hunan os nad aeth pethau fel yr oeddech yn ei ddisgwyl heddiw. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael ichi, os ydych chi’n ansicr beth i’w wneud nesaf, neu efallai na wnaethoch sefyll eich arholiadau. Cysylltwch â Gyrfa Cymru neu’ch ysgol am gymorth.

“O dan ein Gwarant i Bobl Ifanc, caiff pawb sydd o dan 25 oed gyfle i gofrestru ar gyfer addysg neu hyfforddiant, i ddarganfod gwaith neu i fynd yn hunangyflogedig. Edrychwch ar Cymru’n Gweithio i ddarganfod sut i gymryd rhan.

“Gobeithiaf eich bod yn falch o’r hyn rydych wedi ei gyflawni, a phob lwc ichi ar eich camau nesaf.”

‘Trueni ofnadwy’

“Llongyfarchiadau i fyfyrwyr sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw ac i’r athrawon a staff cynorthwyol sydd wedi gweithio’n eithriadol o galed ac wedi wynebu anghyfleustra difrifol dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb gyda beth bynnag maen nhw’n dewis ei wneud nesaf. Mae llu o opsiynau ar gael i chi, gan gynnwys Safon Uwch, Safon T a phrentisiaethau.

“Fel yn achos Safon Uwch, mae’r canlyniadau i lawr o gymharu â’r llynedd, ond yn uwch na lefelau 2019.

“Fodd bynnag, mae’n drueni ofnadwy fod Cymru unwaith eto ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig ar gyfer y graddau uchaf, ac yn fwy pryderus yw fod y gyfradd basio’n sylweddol is nag mewn llefydd eraill.

“Mae bron i 5% yn llai o fyfyrwyr yn pasio’u harholiadau’n ddiffyg ofnadwy, sy’n deillio o fethiant y Llywodraeth Lafur i gyrraedd safonau addysg boddhaol.

“Roedden ni eisioes yn gwybod fod ein system ysgolion ar waelod tabl cynghrair y Deyrnas Unedig, ond mae’r canlyniadau hyn yn golygu y bydd gan lai o fyfyrwyr Cymru y cyfle i fynd ymlaen i’r chweched dosbarth a dilyn pynciau academaidd nag mewn llefydd eraill yn y Deyrnas Unedig.”