Mae Wcreiniaid wedi bod yn dathlu diwrnod annibyniaeth y wlad mewn digwyddiad arbennig i godi arian yn Abertawe, ond y tu ôl i’r gwenau niferus roedd straeon o dryblith a ffrindiau a theulu wedi’u gadael ar ôl mewn ardal lle mae rhyfel.

Roedd y rheiny yn Theatr y Grand yn y ddinas, lle mai glas a melyn oedd lliwiau’r diwrnod, yn cynnwys Olha Boiko, ei gŵr Oleksandr a’i mam Valentyna Nahorna.

Fe wnaeth Olha, oedd yn feichiog â’i thrydydd plentyn ar y pryd, wedi ffoi o’i chartref yn Boryspil ger Kyiv gyda’i dwy ferch ar ôl i’r Rwsiaid ymosod ym mis Chwefror.

Mae ei phlentyn ieuengaf yn bedwar mis oed heddiw (dydd Iau, Awst 25), ac maen nhw’n byw gyda theulu sy’n eu cynnal nhw ger Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin.

“Daethon ni yn y nos – yn y bore, fe agoron ni’r llenni a gweld llawer o ddefaid,” meddai.

“Rydyn ni’n dal yno – mae’r teulu’n serchog dros ben ac yn garedig iawn, ond rydyn ni’n chwilio am lety.”

Dywed Olha Boiko y bydden nhw’n hoffi aros yn yr ardal gan fod ei phlant 11 ac wyth oed wedi ymgartrefu’n dda yn yr ysgolion lleol ac wedi gwneud ffrindiau.

Croeso cynnes

Doedd dim modd i ddynion yn Wcráin adael y wlad ar ôl i’r rhyfel ddechrau, ond roedd eithriadau’n cynnwys bod yn dad i dri o blant, felly daeth Oleksandr i Gymru ychydig fisoedd ar ôl ei deulu.

Mae e bellach yn gweithio fel peiriannydd gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd Olha yn gogyddes grwst yn Wcráin, a’i mam yn athrawes fathemateg.

Dywed Olha fod y teulu wedi cael croeso cynnes yng Nghymru a’i bod hi’n bwysig iawn iddi ei bod hi’n nodi diwrnod annibyniaeth ar Awst 24.

“Mae hi [yn bwysig] i bob person o Wcráin,” meddai.

“Mae gen i ffrindiau yno.

“Mae’n sefyllfa anodd gyda rocedi’n cael eu tanio.

“Does dim lle diogel.

“Mae hi fel loteri.

“Rhaid i ni ennill. Does dim dewis gennym ni.”

Ana Stasija

Fe wnaeth Ana Stasija adael Wcráin yn 2014 a symud i ddinas Prague yn y Weriniaeth Tsiec cyn ymuno â’i theulu yn Llanelli bedair blynedd yn ôl.

Mae hi’n siarad tair iaith ac astudiodd hi ar gyfer Safon Uwch cyn cael swydd lawn amser yn Nando’s.

Bellach, mae hi’n gweithio fel cynorthwyydd dosbarth yn Sir Gaerfyrddin er mwyn helpu plant o Wcráin i ymgartrefu ac integreiddio.

“Dw i’n ei hoffi ond dydy e ddim yn rywbeth roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n mentro iddo,” meddai.

Dywed nad oes gan Wcráin ddewis ond ennill, a’i bod hi’n bwysig dod â phobol ynghyd ar Awst 24 i hybu diwylliant Wcráin.

Fe wnaeth ei modryb, Oksana Shapovalova o Sgeti yn Abertawe a’i gŵr Dmitri Finkelshtein helpu i drefnu’r digwyddiad codi arian gydag aelodau eraill o’r grŵp o wirfoddolwyr Wcreinaidd, Blodau Haul Cymru.

Bydd yr elw’n mynd tuag at gefnogi plant teuluoedd sydd wedi ffoi rhag y gwrthdaro.

Dywed Dmitri Finkelshtein, cadeirydd y grŵp, fod yr arian fel arfer yn mynd tuag at gludo nwyddau meddygol a chyflenwadau dyngarol eraill.

Ar ôl stondinau a blasu bwyd, roedd digwyddiad trwy docyn yn unig yn cynnwys canu, dawnsio a barddoniaeth.

“Diben y digwyddiad yw dweud diolch yn fawr wrth bobol yng Nghymru ac i ddangos i’r Deyrnas Unedig nad ydyn ni’n gymuned ar wahân,” meddai Dmitri Finkelshtein.

Mae’n dweud bod Wcreiniaid yn ceisio integreiddio yn eu cymunedau newydd.

“Er enghraifft, bydd rhannau o’r gyngerdd yn y Gymraeg,” meddai.

Dydy Dmitri Finkelshtein, sy’n Athro Cysylltiol mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, ddim yn disgwyl i’r rhyfel yn Wcráin ddod i ben yn fuan.

“Ond rydyn ni’n credu mewn buddugoliaeth,” meddai. “Fydd Wcráin ddim yn rhoi’r gorau iddi.”

‘Solidariaeth’

Hefyd yn bresennol yn adain y celfyddydau yn Theatr y Grand roedd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mike Day, a Nia Griffith, Aelod Seneddol Llanelli.

Dywed y Cynghorydd Day, fu’n cynnal te parti yn Mansion House yr wythnos hon ar gyfer Wcreiniaid sydd wedi’u dadleoli gan y rhyfel, fod y digwyddiad yn dystiolaeth bellach o statws Abertawe fel dinas noddfa.

“Mae’n wych ein bod ni’n gallu gwneud hynny,” meddai, gan ychwanegu ei bod hi’n hanfodol fod teuluoedd yn derbyn cefnogaeth ymarferol a symbolaidd.

Dywed Nia Griffith nad oedd hi’n bosib i Wcreiniaid ddathlu’n agored yn eu gwlad eu hunain ar Awst 24.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n nodi diwrnod annibyniaeth o dan yr amgylchiadau trist iawn hyn,” meddai.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n dangos solidariaeth.

“Dw i bob amser yn difaru na allwn ni wneud rhagor.”