Mae Andrew RT Davies yn hyderus y byddai Liz Truss yn “adeiladu pontydd” rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig pe bai’n cael ei hethol yn Brif Weinidog.

Daw hyn wrth i’r ras i olynu Boris Johnson ddechrau dirwyn i ben, gyda Liz Truss yn gyfforddus ar y blaen i Rishi Sunak yn ôl y polau piniwn diweddaraf.

Fodd bynnag, wrth siarad â golwg360, dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn “grediniwr mawr mewn gadael i Boris Johnson gario ymlaen” fel Prif Weinidog.

Andrew RT Davies yw’r Ceidwadwr Cymreig blaenllaw diweddaraf i gefnogi Liz Truss ar ôl i Robert Buckland, Ysgrifennydd Cymru, ac un o’i ragflaenwyr, Alun Cairns, ill dau ddatgan eu bod nhw wedi penderfynu ei chefnogi hi yn hytrach na Rishi Sunak.

Mae e hefyd wedi ysgrifennu erthygl ar y cyd yn y Daily Mail gyda Cheidwadwyr blaenllaw o’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywed Andrew RT Davies, Stephen Kerr, prif chwip Grŵp Ceidwadwyr Yr Alban, a Matthew Robinson, cadeirydd Ceidwadwyr Gogledd Iwerddon, eu bod nhw’n credu y gall Liz Truss uno’r Deyrnas Unedig.

“Mae Liz yn deall, os yw Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ffynnu, fod yr Undeb hefyd yn ffynnu,” meddai’r tri.

“Yn y pen draw rydym yn credu mai Liz yw’r person iawn i arwain ein plaid a’n gwlad oherwydd hi sydd â’r gallu i ddarparu’r hyn sydd ei angen arnom yn fwy na dim arall – undod.

“Ni allwn obeithio cryfhau cysylltiadau ein Hundeb, cyflawni dros y wlad gyfan, heb uno.”

Liz Truss yw’r “ymgeisydd gorau”

“Roeddwn i’n grediniwr mawr mewn gadael i Boris Johnson gario ymlaen yn y swydd oherwydd ei fod e wedi sicrhau mandad yn etholiad 2019,” meddai wrth golwg360.

“Ond yn amlwg, fe wnaeth digwyddiadau yn San Steffan olygu nad oedd yn gallu parhau yn y swydd felly mae’r Blaid Geidwadol wedi bod yn cynnal cystadleuaeth arweinyddol yn ystod yr haf.

“Fe es i i mewn i’r gystadleuaeth gyda meddwl agored a gwrandewais i ar yr holl ymgeiswyr.

“Fe wnaeth Liz Truss, gyda’i hymrwymiad i’r Undeb, ei bwriad i gadw’r teitl Gweinidog yr Undeb, a’r holl fesurau mae hi’n siarad amdanyn nhw, fy argyhoeddi mai hi yw’r ymgeisydd gorau i ddod yn arweinydd ar Fedi 5.”

“Adeiladu pontydd”

Yn ystod yr ymgyrch arweinyddol, mae Liz Truss wedi dweud y byddai’n delio â Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, drwy ei hanwybyddu yn ogystal â galw Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn “Jeremy Corbyn tila”.

Ydi Andrew RT Davies wir yn credu mai’r math yma o naratif fydd yn dod â gwledydd y Deyrnas Unedig yn agosach at ei gilydd?

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n berson sydd wedi profi yn ei rolau blaenorol ei bod hi’n gallu adeiladu pontydd, boed hynny wrth negodi cytundebau masnach o amgylch y byd neu yn ei swydd fel Gweinidog Tramor,” meddai.

“A bydd y deallusrwydd yna o sut i adeiladu pontydd a pherthnasau yn bwysig i’r Prif Weinidog nesaf.

“Nawr, fe fydd p’un a wyt ti’n meddwl bod hynny yn angenrheidiol gyda’r cenedlaetholwyr yn yr Alban a’r Blaid Lafur yma yng Nghymru a thu hwnt, yn ddadl y byddwn ni i gyd yn ei chael wrth i ni symud ymlaen o dan y Prif Weinidog newydd.

“Dw i’n digwydd meddwl mai Liz Truss yw’r person cywir i wneud hynny, ac mae hi wedi profi hynny yn ystod ei chyfnod mewn llywodraeth dros yr wyth neu naw mlynedd diwethaf.

“Allwn ni ddim cymryd dim byd yn ganiataol, dw i’n credu bod gennym ni ddau ymgeisydd cryf iawn.

“Dw i’n adnabod y ddau ymgeisydd yn bersonol ac wedi cael cyfle i siarad â’r ddau yn ystod yr ymgyrch arweinyddol.

“Dw i wedi eu gweld nhw’n perfformio mewn hystingau, wedi gwrando ar eu polisïau, ac wedi trafod gydag Aelodau o’r Senedd yma yng Nghaerdydd.

“Yn amlwg bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 5, a dw i’n gobeithio mai Liz Truss fydd y Prif Weinidog nesaf.”