Ymateb cymysg sydd gan wleidyddion a pherchnogion busnes i’r ymgyrch i gynyddu’r isafswm cyflog i £15 yr awr.
Mae’r TUC, corff sy’n ceisio gwella amodau economaidd a chymdeithasol gweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, wedi lansio’r ymgyrch heddiw (dydd Mercher, Awst 24) i gynyddu’r isafswm cyflog i bob gweithiwr.
Yn ôl y corff, mae miliynau o weithwyr ar gyflogau isel yn cael eu gwthio i’w heithaf gan filiau uchel a phrisiau cynyddol, tra bod cwmnïau’n gwneud mwy o elw nag erioed.
Fodd bynnag, mae un dyn busnes o Geredigion wedi dweud wrth golwg360 y byddai’n “amhosib” i fusnesau bach dalu £15 yr awr i’w gweithwyr.
Ar hyn o bryd, yr isafswm cyflog yw £9.50 yr awr i bobol 23 oed a throsodd.
“Mae hi’n hynod o anodd ar y foment i fel y mae hi,” meddai Aled Rees, perchennog Siop y Pethe a chwmnïau teithio Tango a Cambria yn Aberystwyth.
“Mae llawer o fusnesau bach ar eu gliniau yn barod, ac mae hyn pan mae costau yn cynyddu. Tanwydd, llog, a morgeisi, ac yn y blaen.
“Ar ben hyn, mae nifer o fusnesau wedi mynd mewn i ddyledion yn ystod y pandemig er mwyn goroesi, a byddwn yn talu’r benthyciadau yma’n ôl am flynyddoedd.
“A dweud y gwir, os byddai isafswm cyflog yn £15 yr awr byddai gwerth i mi gau’r busnesau a ffeindio swydd fy hun!”
‘Methu fforddio aros’
Ond yn ôl Beth Winter, Aelod Seneddol Cwm Cynon, allwn ni ddim fforddio aros nes bod yr isafswm cyflog yn cynyddu.
“£15 yr awr yw’r alwad gyffredin ar gyfer yr isafswm cyflog yn y symudiad llafur, a nawr mae’r TUC wedi cefnogi galwad ymgyrchwyr y Blaid Lafur y llynedd,” meddai Beth Winter.
“Ond o ystyried yr argyfwng costau byw, allwn ni ddim fforddio aros i hynny ddod yn realiti.
“Gyda chwyddiant yn uwch na 12%, rydyn ni angen ennill hyn ar frys.
“Gadewch i ni ddwysau’r ymgyrch.”
‘Cywilyddio’r Torïaid’
Dywed Chris Elmore, Aelod Seneddol Llafur Ogwr, y bydd y Blaid Lafur yn sicrhau bod yr isafswm cyflog yn Gyflog Byw Gwirioneddol y gall pob oedolyn fyw arno.
“Mae dau draean o’r holl oedolion sy’n byw mewn tlodi yn gweithio,” meddai.
“Mae biliau’n cynyddu ac mae disgwyl i weithwyr gael deupen llinyn ynghyd gyda’r un cyflog.
“Dyma sgandal ddylai gywilyddio’r Torïaid.”
‘Cwffio am £15’
Mae hi’n amser rhoi diwedd ar gyflogau isel yn y Deyrnas Unedig, yn ôl y TUC.
“Mae miliynau o weithwyr ar gyflogau isel yn cael eu gwthio i’w heithaf gan filiau uchel a chostau cynyddol,” meddai.
“Ond mae cwmnïau’n gwneud mwy o elw nag erioed ac yn rhoi codiadau cyflogau anferthol i’r rhai ar y top.
“Mae cyflogau uwch yn dda i’r economi.
“Mae mwy o gyflog ar gyfer gweithwyr yn golygu bod mwy o arian yn cael ei wario ar ein strydoedd lleol.
“Er mwyn cyrraedd isafswm cyflog o £15, mae angen i’r llywodraeth [y Deyrnas Unedig]:
- roi cyfran deg o’r cyfoeth sy’n cael ei greu gan weithwyr i’r gweithwyr;
- gosod targed isafswm cyflog newydd, sef 75% o’r tâl cyfartalog (mae’r isafswm ar 66% ar hyn o bryd);
- sicrhau bod twf cyflogau’r Deyrnas Unedig yn normal eto.
“Rydyn ni wedi clywed ers yn rhy hir o lawer na all busnesau fforddio talu cyflogau uwch,” meddai wedyn.
“Mae hi’n amser rhoi diwedd i gyflogau isel ym Mhrydain.
“Mae hi’n amser cwffio am £15.”