Mae perchennog siop lyfrau wedi dweud wrth golwg360 fod prinder Cyfansoddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn “rhwystredig iawn”.
Yn ôl Eirian James, sy’n berchen ar Palas Print yng Nghaernarfon, mae ganddi 26 o gwsmeriaid “sy’n chwilio am gopi” ond mae hi’n gorfod dweud wrthyn nhw nad ydi hi’n “gwybod os cawn ni ragor”.
Fodd bynnag mae Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi dweud wrth golwg360 mai’r un nifer ag arfer o Gyfansoddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi eleni, gan ychwanegu bod yr Eisteddfod yn fodlon “gwirio o ran oes angen ystyried ail argraffiad”.
Mae Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnwys gweithiau buddugol cystadlaethau megis barddoniaeth, rhyddiaith, dramâu, dysgwyr, cerddoriaeth a gwyddoniaeth.
‘Rhestr aros hirfaith’
“Rydan ni’n gorfod rhagarchebu wythnosau o flaen yr Eisteddfod ac yn amlwg mae gennym ni syniad faint rydan ni wedi’u gwerthu yn y gorffennol, o flwyddyn i flwyddyn, ond does dim dal faint eith,” meddai Eirian James wrth golwg360.
“Mi gawson ni’n cyflenwad gwreiddiol, ond yn syth wedyn roedden ni’n dechrau mynd yn brin ohonyn nhw.
“Mae gen i restr aros hirfaith – 26 o bobol – sy’n chwilio am gopi, a chwarae teg, rydan ni fel siopau yn siarad gyda’n gilydd a rydan ni wedi bod yn ceisio dweud wrth bobol lle mae yna rai ac yn y blaen ond rydan ni dal yn brin ohonyn nhw.
“Oes, mae yna rwystredigaeth, er dw i’n deall bod yr Eisteddfod ddim eisiau cyhoeddi gormodedd ohonyn nhw, dydyn nhw ddim eisiau bod yna ormod ohonyn nhw ar ôl.
“Ond ar y llaw arall, mae yna alw amdanyn nhw ac yn sicr yn syth ar ôl yr Eisteddfod dyna pryd mae’r diddordeb mwyaf.
“Ydw, dw i’n cicio fy hun mod i ddim wedi rhag archebu rhagor ond doeddwn i ddim yn gwybod fod y prif wobrau i gyd yn mynd i fod yn berthnasol i’n hardal ni mewn ffordd.
“Ac wrth gwrs mae beirniadaeth, beirniadaeth Gwobr Goffa Daniel Owen er enghraifft, mae gan bobol ddiddordeb darllen hwnnw oherwydd bod yna anghytuno, mae hynny yn rywbeth arall sy’n ychwanegu at werthiant.
“Felly wrth i wythnos yr Eisteddfod fynd yn ei blaen roedden ni’n gwybod y bydden ni angen mwy o gopïau.
“Rydan ni’n archebu’n hollol ddall, dydan ni ddim yn gwybod beth fydd y diddordeb o ran darllen beirniadaethau ac ati.
“Mae’r pethau yna i gyd yn ffactorau o ran y gwerthiant.
“Wrth gwrs, mae Llŷr Gwyn Lewis wnaeth ennill y Gadair yn dod o Gaernarfon felly mae yna bobol sy’n adnabod y teulu ac ati sydd eisiau darllen y cerddi oherwydd ei fod o’n lleol i ni.
“Felly mae yna symud stoc wedi mynd ymlaen a rydan ni’n brin iawn ohonyn nhw.
“Roeddwn i’n teimlo’n rhwystredig iawn yr wythnos ar ôl yr Eisteddfod oherwydd nid yn unig doedd gen i ddim copïau, ond doeddwn i methu cael gwybod a fyddwn i’n gallu archebu rhagor o gopïau – hwnna oedd y rhwystredigaeth.
“Erbyn hyn, dw i’n dweud wrth bobol ein bod ni’n gobeithio cael rhagor ond dydan ni ddim yn gwybod os cawn ni ragor.
“Roedd ambell berson yn dweud nad oedden nhw wedi prynu copi yn yr Eisteddfod oherwydd eu bod nhw eisiau cefnogi siop leol sy’n beth grêt, ond wedyn maen nhw wedi cael siom.”
‘Aros am adroddiad’
Yn ôl Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, maen nhw’n “aros am adroddiad” o ran y stoc er mwyn “gwirio o ran oes angen ystyried ail argraffiad”.
“Mae’r un nifer ag arfer (o Gyfansoddiadau) wedi cael eu cyhoeddi felly does dim llai na’r arfer,” meddai wrth golwg360.
“Mae hi’n gadarnhaol iawn eu bod nhw’n gwerthu’n sylweddol.
“Wrth gwrs, rydyn ni’n aros am adroddiad i weld faint sy’n dal i fod mewn siopau.
“Rydyn ni’n ymwybodol bod rhai siopau wedi gwerthu allan, tra bod eraill dal gyda stoc.
“Felly byddwn ni’n gofyn i’r Cyngor Llyfrau faint o stoc sy’n dal i fod yn weithredol ac yn unol â’r arfer, byddwn ni wedyn yn gwirio o ran oes angen ystyried ail argraffiad neu a oes digon o rai yn weddill.
“Wrth gwrs byddai’n rhaid i ni ystyried pris gwneud hynny oherwydd canran yr ydyn ni’n ei gael wrth i ni ddosbarthu.”