“Mae hi’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn gefnogwr Wrecsam”, yn ôl y canwr Geraint Lovegreen, sydd wedi bod yn siarad â golwg360 yn dilyn rhyddhau rhaglen ddogfen sy’n dilyn hynt a helynt y clwb ers i’r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney ei brynu.

Cyhoeddodd y ddau eu bwriad i brynu’r clwb am y tro cyntaf yn 2020, cyn sefydlu’r cwmni RR McReynolds er mwyn sicrhau’r pryniant, gan gwblhau’r cytundeb ym mis Chwefror 2021.

Mae camerâu wedi dilyn y ddau o gwmpas ers hynny, wrth iddyn nhw geisio adfywio’r trydydd tîm proffesiynol hynaf yn y byd.

Mae’r rhaglen ar gael i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig ar Disney+ ers 8 o’r gloch fore heddiw (dydd Iau, Awst 25).

‘Uniaethu efo’r dref’

“Mae hi’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn gefnogwr Wrecsam,” meddai Geraint Lovegreen wrth golwg360.

“Mae jyst dychmygu bod pobol drwy’r byd yn mynd i fod yn gwylio, ti’n gweld y posteri mawr yma ar draws America efo Wrecsam arnyn nhw.

“Ac mae’n siŵr bod o fatha breuddwyd i’r chwaraewyr.

“Mae yna bobol sy’n dweud eu bod nhw jyst yn defnyddio’r clwb er mwyn gwneud y ffilm yma.

“Ond dw i ddim yn credu hynny achos maen nhw wedi rhoi gymaint i mewn i’r dref, maen nhw’n helpu’r dref, mae’r ddau wedi rhoi pres i bobol sydd mewn anawsterau yn y dref ac ati.

“Does dim angen iddyn nhw wneud hynny o gwbl, dydi o ddim byd i wneud efo’r pêl-droed.

“Maen nhw rywsut wedi uniaethu efo’r dref, Rob McElhenney yn enwedig gan ei fod o’n dod o Philadelphia, sydd wedi gweld dirywiad mawr.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n gweld rhywbeth tebyg yn Wrecsam, bod yr ardal wedi gweld dirywiad mawr o ran gwaith ac o ran tlodi.

“Mae o hefyd yn y broses o ddysgu Cymraeg.

“A beth sy’n ffantastig ond yn drist hefyd ydi, mae gen ti bobol sy’n rhedeg y clwb o ddydd i ddydd, pobol o Wrecsam, ac mae’r bois yma o America yn dangos mwy o barch at y Gymraeg na maen nhw.

“Mae’r clwb ei hun ar ei hôl hi’n ofnadwy efo’r Gymraeg o ran beth maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd ond dw i’n siŵr tasa’ Rob yna bob dydd y basa Cymraeg yn cael lle lot fwy amlwg.”

‘Newid popeth’

Mae’r ffaith fod Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi prynu’r clwb wedi “newid popeth”, yn ôl Geraint Lovegreen, sy’n dweud bod y cefnogwyr wedi dechrau colli gobaith cyn hynny.

“Rydan ni wedi dioddef amseroedd gwael ac roedd yna ryw fath o deimlad wedi datblygu ein bod ni ddim yn mynd i gael allan o hyn, ein bod ni yn mynd i gario ymlaen i fynd lawr a lawr,” meddai.

“Ond mae hyn wedi newid popeth.

“Mae pobol yn dod yn ôl (i’r clwb) rŵan, mae gen ti naw, deg mil yn dod i bob gêm erbyn hyn.

“Dydyn nhw ddim wedi gorfod rhoi gymaint â hynny o’u pres nhw i mewn achos mae’r pres yn dod fewn wrth i’r cefnogwyr ddod i mewn.

“Rydan ni’n gwerthu crysau ar draws y byd, mae yna fwy o grysau Wrecsam yn cael eu gwerthu nag unrhyw dîm arall yn y gwaelodion yna.”