Caerdydd, fydd yn croesawu Gwobrau Comedi Newydd y BBC i Neuadd Dewi Sant ym mis Tachwedd eleni, yw Dinas Gomedi 2023.

Fel rhan o’r statws, bydd nifer o ddigwyddiadau a gwyliau’n cael eu cynnal yn y brifddinas, gan gynnwys Gŵyl Gomedi’r BBC, fydd yn ddigwyddiad i gynhyrchwyr, awduron a pherfformwyr comedi.

Newcastle sydd wedi cael yr anrhydedd eleni, gan gynnal Gŵyl Gomedi gynta’r BBC.

Yn ôl y Gorfforaeth, nod Dinas Gomedi yw helpu i ddod o hyd i dalent newydd a meithrin sgiliau ar draws y Deyrnas Unedig.

Fel Dinas Gomedi 2023, mae’r BBC yn dweud y bydd Caerdydd yn elwa ar nifer o fentrau a gweithgareddau arbennig ledled y ddinas, gan gynnwys dwy noson ffilm fydd ar gael i gynhyrchydd lleol ei churadu ac a fydd yn cynnig y cyfle i bobol yn y diwydiant rwydweithio â thîm comisiynu comedi’r BBC.

Fe fydd Cynllun Partneriaeth ar gael hefyd, sydd wedi’i ariannu gan Gymru Greadigol, gan baru talent newydd gyda ffigwr blaenllaw yn y byd comedi yn y BBC i feithrin doniau lleol a datblygu prosiect, gan gynnwys lle i un awdur ar gynllun Bwrsariaeth Gomedi’r BBC.

‘Cyfle anhygoel’

“Rydym wedi cyffroi o gael cyhoeddi Caerdydd fel ein hail Ddinas Gomedi’r BBC yn 2023,” meddai Jon Petrie, Cyfarwyddwr Comisiynu Comedi’r BBC.

“Rydym eisoes yn gweld yr effaith barhaus a hirdymor mae’r weithgaredd yn Newcastle-upon-Tyne wedi’i chael yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, a byddwn yn defnyddio ymgysylltu fel rhan o Ddinas Gomedi 2023 i yrru cynhyrchiant mwy o gomedi wedi’i sgriptio yng Nghymru ac i ddatblygu ar y portread o’r Cymry mewn comedi, o flaen y camera a’r tu ôl iddo.”

Yn ôl Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol, mae’r cyhoeddiad yn “gyfle anhygoel i arddangos y doniau comedi sydd gennym ni yma yng Nghymru ac yn unol ag uchelgais Cymru Greadigol i roi hwb i’r sector”.

“Mae hon yn addo bod yn flwyddyn ffantastig yn llawn cyfleoedd i bobol greadigol leol gysylltu â’r diwydiant ehangach, ac rydym wrth ein boddau fod Neuadd Dewi Sant wedi’i dewis i gynnal rownd derfynol Gwobrau Comedi Newydd y BBC,” meddai’r Cynghorydd Jennifer Burke-Davies.

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law, ynghyd â dyddiadau a gwybodaeth bellach am yr Ŵyl Gomedi.