Wrth ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan, mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl mai dyma fydd “y tro olaf i bwyllgor yn San Steffan ymgynghori ar ddarlledu yng Nghymru”.
Fe fu’r Gymdeithas yn galw ers tro am ddatganoli pwerau tros ddarlledu i Gymru.
Mae’r ymgynghoriad gan y pwyllgor seneddol yn gofyn am farn y cyhoedd ar gynaliadwyedd modelau cyllido darlledu gwasanaeth cyhoeddus Cymru, am effaith twf llwyfannau ffrydio byd-eang ac arferion gwylio a’r hyn y gellid ei wneud i sicrhau dyfool darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Wrth ymateb, mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon am y canfyddiad mai modelau tanysgrifio yw’r ffordd ymlaen, a bod cwmnïau mawr yn cael eu dyrchafu a’u trin fel rhywbeth i ddarlledu cyhoeddus ei efelychu.
Galwad heb ei gwireddu
“Dechreuodd yr ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg yn y 1970au â galwad am ‘Awdurdod Darlledu Annibynnol i Gymru’ fyddai ag awdurdod llwyr dros ddarlledu yng Nghymru,” meddai Mirain Angharad, is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith.
“Er i S4C gael ei sefydlu yn 1982, dydy’r alwad honno ddim wedi ei gwireddu o hyd – San Steffan sydd yn rheoli darlledu yma yng Nghymru o hyd, ac yn trefnu ei gyllido gyda’n trethi ni.
“Ond yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn datgan cefnogaeth i ddatganoli grymoedd darlledu i Gymru, ac mae gwaith i baratoi’r ffordd ar gyfer hynny wedi dechrau.
“Felly gobeithio mai mater o amser yw hi nes i ni allu penderfynu ar ddyfodol darlledu ein gwlad ni ein hunain.
“Mae’n amlwg na fyddai model tebyg i Netflix neu Amazon yn gweithio i ddarlledu yng Nghymru, elw sydd bwysicaf i gwmnïau fel hyn, nid dyna rydyn ni eisiau ar gyfer S4C.
“Does dim dwywaith er hynny bod darlledu wedi newid yn llwyr, ar raddfa sydyn dros y blynyddoedd diweddar, a’i bod hi’n hen bryd ailystyried sut i gyllido a datblygu darlledu yng Nghymru.
“Does dim diddordeb gan San Steffan – ddeugain mlynedd ers sefydlu S4C dim ond un sianel deledu Gymraeg sydd gyda ni, mae hi wedi wynebu dros ddegawd o doriadau a bellach yn cael ei chyllido’n llwyr trwy’r BBC; a phrin yw’r ymdrechion i annog cynnwys a phrofiadau Cymraeg ar-lein.
“Mae’r ateb yn amlwg – datganolwch rymoedd a chyllid digonol ar gyfer darlledu Cymru i Gymru.”