Mae penaethiaid castell Gwrych, sydd wedi cynnal y rhaglen I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here!, yn dweud bod “y drws ar agor” iddi ddychwelyd yno.

Dywed Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych fod ganddyn nhw “berthynas barhus” gydag ITV, gan sôn fod “prosiectau posib ar y gorwel”.

Cafodd y sioe ei lleoli yn y castell yn Abergele yn ystod ei dau dymor diwethaf, pan oedd Covid-19 wedi gwneud teithio i’r jyngl yn Awstralia’n amhosib.

Daw’r newyddion diweddaraf ar ôl i ymddiriedolaeth y castell gyflwyno cais cynllunio i bwyllgor cynllunio Cyngor Conwy ar gyfer caban newydd i’w canolfan groeso.

Cafodd y caban blaenorol ei ddifrodi pan darodd Storm Arwen fis Tachwedd y llynedd, oedd wedi arwain y sioe i orfod canslo’r ffilmio.

Datgelodd llefarydd ar ran y castell fod ITV wedi talu am gaban newydd i’r ganolfan ymwelwyr, sy’n un symudol ac yn galluogi hyblygrwydd ar gyfer ffilmio yn y dyfodol.

“Roedd yna gaban gafodd ei ddinistrio yn ystod y storm darodd y sioe,” meddai llefarydd ar ran y castell.

“Rhoddodd ITV fersiwn wedi’i huwchraddio i ni oedd hefyd yn symudol, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i ni pe bai angen rhagor o ffilmio.

“Dw i’n meddwl bod y drws ar agor i I’m A Celebrity ddod yn ôl.

“Rhaid i ni fod yn ddigon hyblyg, felly doedd dim modd i ni gael strwythur parhaol.

“Roedd angen rhywbeth arnom mae modd ei godi a’i symud, felly dyna pam ddaru nhw roi’r strwythur yma i ni, sy’n wych oherwydd mae modd ei symud o amgylch.

“Mae gynnon nhw ddau frand ar y gweill efo I’m A Celebrity. Mae gynnon nhw’r jyngl a rŵan mae gynnon nhw’r castell. Maen nhw wedi buddsoddi yn y ddau frand yn eithaf trwm, felly mae gynnon nhw bethau fatha All Stars. Mae gynnon nhw spin-offs. Mae yna spin-off ar y gweill sy’n cynnwys yr holl gyn-enillwyr.

“Mae llawer o bethau’n digwydd.

“Mae yna berthynas barhaus rhwng ITV a’r castell, a phrosiectau posib ar y gweill.”

Mae ymddiriedolaeth y castell wedi gwneud cais i adran gynllunio’r cyngor i gadw caban ymwelwyr yn y maes parcio presennol, gyda thirlunio am bum mlynedd.

“Mae’r ymddiriedolaeth hefyd wedi gwneud cais i symud y toiledau i ben draw’r maes parcio.”

Mae ITV wedi derbyn cais am ymateb.