Mae adolygwr a chyflwynydd sioe ffilmiau ar orsaf radio GTFM yng Nghwm Rhondda yn dweud y bydd helynt y cwmni Cineworld yn cael llai o effaith ar fyd y sinema yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain.

Mae Cineworld wedi cadarnhau eu bod nhw’n gwneud cais i fynd yn fethdal yn yr Unol Daleithiau wrth geisio mynd i’r afael â dyledion gwerth $5bn.

Ond mae’r cwmni, sydd hefyd yn berchen ar Picturehouse yng ngwledydd Prydain, yn mynnu na fydd y sefyllfa’n cael effaith sylweddol ar swyddi, gyda Cineworld yn cyflogi mwy na 28,000 o bobol ledled y byd.

Mae’r pandemig Covid-19 wedi cael cryn effaith ar fyd y sinema dros y blynyddoedd diwethaf, wrth iddyn nhw fod yn destun cyfyngiadau clo, ond roedd gobaith y byddai rhyddhau ffilmiau mawr fel y ffilm James Bond ddiweddaraf, Top Gun: Maverick a Thor: Love And Thunder wedi rhoi hwb i’r diwydiant trwy ddenu cynulleidfaoedd mawr.

Serch hynny, mae Cineworld yn dweud nad oes digon o ffilmiau mawr ar gael i’w cynnal.

Y sefyllfa yng Nghymru

Mae yna bedair sinema Cineworld yng Nghymru – yng Nghaerdydd, Casnewydd, Cyffordd Llandudno a Brychdyn.

Mae hynny’n golygu na fydd llawer o effaith ar y diwydiant ffilmiau yng Nghymru, yn ôl Ioan Dyer.

“Os bydd y sinemâu yma yn cau, yna dwi ddim yn gweld effaith enfawr oherwydd mae yna sinemâu eraill yn Nghymru fel yr Odeon, Vue, Everyman, Chapter a Premiere,” meddai wrth golwg360.

“Yn amlwg, fe fydd y dewisiadau yn lleihau gan fod llai o sinemâu yn gyfan gwbl, ond mae digon o sinemâu eraill o gwmpas y lle.

“Bydd yr effaith yn fwy ar draws y Deyrnas Unedig; Cineworld yw’r cwmni sydd â’r nifer fwyaf o sinemâu dros y wlad, ac mewn rhai o’r lleoliadau yma, dyma’r unig sinema sydd ar gael i bobol wylio ffilmiau ar y sgrin fawr.

“Dwi’n credu bo ni mewn sefyllfa ble dyw’r diwydiant dosbarthu ffilmiau ddim yn siŵr ynglŷn â beth yw’r ffordd ymlaen.

“Mae yna lawer o dreialu yn digwydd, ble mae’r cwmniau ffilm yn gwneud pethau yn wahanol, ac yn gweld sut mae pethau yn gweithio allan, ac ar ddiwedd y dydd, beth bynnag sy’n gwneud y mwyaf o arian iddyn nhw fydd diwedd y gân.

“Dw i’n gweld bod yna dal le i’r sinema a’r profiad o weld ffilm ar y sgrin fawr.

“Mae ffilm newydd Avatar i fod i agor dros y Nadolig, ac mae’r ffilm yna i fod yn brofiad gweledol arbennig, a byddwn i yn dadlau mai yn y sinema ddylsai pobol wylio ffilmiau, ond does dim dwywaith fod y ffordd o wylio ffilmiau drwy ffrydio wedi newid, ac yn mynd i newid y ffordd ’dan ni yn gwylio ffilmiau yn y dyfodol.”

Arferion wedi newid yn ystod y cyfnod clo

Yn ôl Ioan Dyer, mae nifer y bobol sy’n mynd i wylio ffilmiau yn y sinema wedi gostwng o ganlyniad i’r pandemig a’r cyfnod clo, ac mae’r sefyllfa wedi cael effaith ddifrifol ar y byd ffilmiau ac adloniant yn fwy cyffredinol.

“Mae’n llawer rhwyddach a rhatach i wylio ffilm yn eich cartref,” meddai.

“Cefais i sgwrs gydag un o`m ffrindiau yn ddiweddar, ac fe wnaeth fy ffrind dalu iddo fe a`i deulu weld ffilm newydd. Cost y tocynnau oedd £36.

“Dydy hi ddim yn rhad i wylio ffilmiau ar y sgrin fawr, yn enwedig i deuluoedd ac mae’r gost o wylio ffilmiau yn y sinemâu yn sicr yn esbonio pam fod yna lai o bobol yn mynd i`r sinema.

“Mae’n siŵr gen i fod pobol yn edrych ar gostau tanwydd, trydan a phrisau bwyd ac yn penderfynu, ‘Dyma beth sy`n bwysig’ yn hytrach na gweld ffilm yn y sinema.

“Mae’r cyfnod o amser rhwng ffilm yn gorffen ei rhediad yn y sinema ac ymddangos ar blatfformau ffrydio wedi lleihau yn sgil y pandemig hefyd.

“Mae’r ‘ffenest’ yma yn amrywio o ffilm i ffilm ac o gwmni i gwmni, ond mae bywyd ffilm ar y sgrin fawr yn gallu bod yn fyr iawn. Er enghriafft, ffilm newydd Martin Scorsese oedd The Irishman – wythnos yn unig oedd rhediad y ffilm yn y sinema, ac wedyn yr unig le i weld y ffilm oedd Netflix. Mae’r arfer yma yn digwydd yn aml iawn nawr.

“Mae nifer y ffilmiau sydd yn cael eu rhyddhau yn y sinema hefyd wedi lleihau, ac o ganlyniad mae’r dewis o ffilmiau sydd ar gael i’r sinemâu eu dangos i bobol wedi lleihau,” meddai.

“Mae nifer y ffilmiau “mawr”, neu’r blockbusters fel maen nhw’n cael eu galw, wedi lleihau gan fod y cwmnïau dosbarthu ffilmiau yn eu gwasgaru nhw ymhellach wrth ei gilydd gan bo nhw eisiau osgoi cystadleuaeth rhwng ffilmiau.

“Pan wnaeth ffilm ddiwethaf James Bond No Time To Die agor yn y sinema, dw i’n cofio doedd yr un ffilm newydd arall wedi cael ei rhyddhau am wythnosau gan fod y ffilm yna mor fawr, a dyna beth oedd yn dangos yn y sinemâu am wythnosau.

“Ond, mae yna dal alw am ffilmiau “mawr”. Agorodd Top Gun: Maverick ar Fai 25, ac mae’n dal i ddangos yn y sinemâu ar hyn o bryd. Mae’n ffilm arbennig o dda, sydd ag enw mawr a rhywfaint o hanes, felly os oes gennych chi ffilm dda, mae’n glir fod pobol yn fodlon dod allan i weld ffilm yn y sinema.

“Ac wedyn mae dyfodiad platfformau fel Netflix, Disney plus a Paramount plus. Roedd Netflix yma cyn y pandemig a dw i’n meddwl bod nifer o bobol wedi cymryd mantais o beth mae Netflix yn ei gynnig, sef arlwy eang iawn o ffilmiau a chyfresi o dros y byd, er mae Netflix wedi sôn bod nifer y tanysgrifwyr yn dechrau gostwng ar hyn o bryd, arwydd efallai bod pobol wedi cael digon o weld ffilmiau adref a bo nhw eisiau mynd yn ôl i wylio ffilmiau allan yn y sinema.

“Diddorol gweld Disney + a Paramount +, enwau mawr ym myd dosbarthu ffilmiau, yn cynnig gwasanaethau ffrydio eu hunain, a fydd yn eu galluogi nhw i ddangos archif enfawr o gyfresi teledu a ffilmiau a chadw popeth o dan yr un enw.

“Mae Disney + wedi dechrau’r syniad o ryddhau cynnwys yn syth i’r fformat yma, a pheidio â rhyddhau ffilmiau yn y sinemâu o gwbl. Enghreiffitiau o’r ffilmiau yma oedd Luca, Artemis Foul a Turning Red.

“Aeth Disney gam ymhellach wrth ryddhau Mulan drwy roi’r ffilm ar Disney plus, ond roedd rhaid talu ffi ychwanegol i weld y ffilm yma, sy’n esbonio efallai pam aeth y ffilm yma ar goll rywfaint a pham na wnaeth y ffilm yma lawer o arian.

“Yn amlwg, mae Disney yn profi’r pethau yma ar hyn o bryd, ac efallai mai dyma’r model i ryddhau ffilmiau yn y dyfodol.”