Bydd gŵyl Ara Deg yn dychwelyd i Fethesda y penwythnos hwn (Awst 25 tan Awst 28).

Mae’r ŵyl yn cynnwys gigs gan artistiaid megis Sage Todz, Adwaith, Gruff Rhys, Carwyn Ellis & Rio 18 a Ryley Walker.

Ymgolli ydy themau’r gyfres o gigs eleni, a bydd yr ŵyl yn Neuadd Ogwen yn “gyfle prin i ymgolli mewn cerddoriaeth, a ffurfio cymunedau cerddorol newydd”.

Eleni, bydd yr ŵyl yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau ymylol, yn bennaf ar ddydd Sadwrn (Awst 27).

I ddechrau’r diwrnod, bydd ffair recordiau gyda nifer o recordiau prin a chasgladwy o’r 1960au a’r 1970au, a stondinau gan recordiau Ankst ac ambell record brin gan y Super Furry Animals ac eraill.

Bydd cyfres o sgyrsiau gyda pedwar arlunydd a ffotograffydd oedd yn rhan flaengar o greu rhai o gloriau a logos recordiau Sain yn cael eu cynnal yn Neuadd Ogwen hefyd.

Bydd Jac Jones, dyluniwr clawr Hedfan gan Brân, Yn Erbyn y Ffactore gan Edward H Dafis, record hir gyntaf Leah Owen, a’r casgliad Goreuon Sain Eto; Stuart Neesham, sylunydd wnaeth greu logos Yr Atgyfodiad a logo sengl Brân i Recordiau Gwawr a phosteri i gigau Prifysgol Bangor; Garry Stuart, ffotograffydd clawr record Meic Stevens, Gog; a Robert Eames, ffotograffydd a dylunydd wnaeth greu clawr albwm olaf Brân, Gwrach y Nos, yn cymryd rhan.

I ddathlu’r achlysur, bydd llawlyfr unigryw gyda lluniau bandiau gwreiddiol, posteri gigiau a chyfweliadau’n cael eu cynhyrchu.

‘Ymgolli mewn cerddoriaeth’

“Gyda’r byd yn deffro’n raddol o drwmgwsg y pandemic a’r byd yn arbennig o greulon ar hyn o bryd, rhwng y cynni cyffredinol, y rhyfeloedd a newid hinsawdd, dyma gyfle prin i ymgolli mewn cerddoriaeth, a ffurfio cymunedau cerddorol newydd rhwng artistiaid o bell ac agos,” meddai Gruff Rhys wrth drafod yr ŵyl.

“Mae pwyllgor argyfwng canolog yr wyl wedi rhoi rhaglen o nosweithiau at eu gilydd fydd yn gadael i bawb ymgolli mewn tonau o bedwar ban er mwyn dychmygu llwybrau newydd allan o’r pydew cyfoes o ddigalondid.”

Dywed Dilwyn Llwyd, rheolwr Neuadd Ogwen, eu bod nhw’n edrych ymlaen at groesawu pobol yn ôl i “ŵyl sy’n addo cymysgedd o gerddoriaeth a chelf cyffrous”.

“Yn ogystal â’r bandiau gwych a fydd yn perfformio yn yr ŵyl, rydan ni’n hynod falch o estyn croeso cynnes i bedwar artist blaengar a helpodd i siapio arddull weledol roc a phop Cymru drwy eu ffotograffiaeth, delweddau a dyluniadau,” meddai.

“O gloriau recordiau i bosteri gigiau a sioeau theatr, mae’n fraint cael arddangos eu gwaith yn yr ŵyl.”