Bydd Kiri Pritchard-McLean o Fôn yn un o nifer o ddigrifwyr fydd yn perfformio yn yr ŵyl gomedi nos Fercher (Awst 24) i gefnogi gweithwyr sbwriel y ddinas wrth iddyn nhw streicio.
Mae sbwriel wedi bod yn cronni ym mhrifddinas yr Alban yn ystod ail hanner mis yr ŵyl wrth i gannoedd o weithwyr sy’n aelodau o undebau GMB ac Unite weithredu’n ddiwydiannol.
Mae disgwyl i’r streic ddod i ben ddydd Mawrth nesaf (Awst 30), a bydd y gig yn cael ei chynnal yn New Town Theatre The Stand am 9 o’r gloch, gyda thocynnau’n £20.
Y digrifwyr eraill fydd yn perfformio yw Jason Byrne, Jo Caulfield, Mark Nelson, Shazia Mirza, Suse McCabe, Rachel Fairburn, Vladimir McTavish a Danny Bhoy.
Cefndir
Yr wythnos hon, mae’r awdurodau lleol wedi gwella’u cynnig o dâl, o 3.5% i 5%, ond mae Unite yn dweud na fyddan nhw’n cyflwyno’r cynnig i’w haelodau gan nad oes digon o wybodaeth ynghylch sut fydd hyn yn effeithio’r gweithwyr sy’n derbyn y cyflogau isaf.
Mark Thomas sydd wedi trefnu’r gig i gefnogi’r gweithwyr, a bydd yr holl elw’n mynd i gronfa’r GMB.
“Mae gormod o weithwyr llywodraeth leol ledled yr Alban eisoes yn dioddef o ganlyniad i dlodi gwaith,” meddai Kirsten Muat, sy’n weithiwr cynorthwyol gyda GMB wrth wefan gomedi Chortle.
“Mae’r gweithwyr sbwriel yng Nghaeredin yn streicio er mwyn ceisio dod â hynny i ben.”
“Mae’r GMB yn hynod ddiolchgar i bawb am gefnogi’r gweithwyr sy’n streicio, gan gynnwys yr holl ddigrifwyr ac aelodau’r cyhoedd sy’n dod i’r gig elusennol.”