Mae’r awdur a’r berfformwraig Mari Elen wedi ennill Gwobr Podlediad Prydeinig am Gwrachod Heddiw, podlediad Cymraeg greodd hi yn ystod y cyfnod clo.
Mae hi’n dweud bod podlediadau Cymraeg yn helpu’r iaith i oroesi a ffynnu yn y Gymru fodern trwy ganiatáu i ni drafod a gwrando ar sgyrsiau am faterion sy’n bwysig i ni, yn y Gymraeg.
Mae Gwrachod Heddiw yn dathlu rhai o’r merched mwyaf di-flewyn-ar-dafod yng Nghymru, a elwir yn femme – term sy’n cyfeirio at berson anarferol y mae ei mynegiant rhywedd yn cael ei ystyried yn fenywaidd – trwy drafod a yw’n rhannu unrhyw nodweddion â gwrachod confensiynol.
Penderfynodd Mari Elen greu podlediad Cymraeg gan ei bod yn teimlo bod lleisiau merched yn cael eu tangynrychioli yn y Gymraeg, ac nad oedd podlediad yn dathlu popeth sy’n ein gwneud ni’n unigryw.
Cydnabyddiaeth
Mae hi’n cyfaddef nad ydy hi’n dda iawn am roi cydnabyddiaeth i’w hun am ei gwaith ond yn ddiolchgar am y gydnabyddiaeth gan y gwobrau.
“Dw i’n meddwl bod o’n ffantastig bod yna gategori iaith Gymraeg a bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chydnabod mewn gwobrau sydd dan y teitl ‘British‘,” meddai Mari Elen wrth golwg360.
“Yn aml iawn, dydyn ni ddim yn teimlo’n rhan o Brydain a dydyn ni ddim yn cael ein gweld nac ein clywed.
“Felly, mae o’n rili bwysig ac yn dangos bod yr iaith yn fodern ac yn fyw, ac ein bod ni’n cadw’r iaith yn fyw trwy podlediadau a thrafod y pynciau heriol yma.
“Cymraeg ydy fy iaith gyntaf; dyma beth rydw i’n siarad â fy rhieni, fy mhlant, fy mhartner, fy ffrindiau a fy nheulu.
“Mae’n iaith rwy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad, darllen a gwrando.
“Mae cael mwy o bodlediadau a blogiau Cymraeg yn gwneud yr iaith yn fwy hygyrch, nid yn unig i siaradwyr Cymraeg, ond i bobol sydd eisiau dysgu.
“Mae’n dangos bod yr iaith yn datblygu gyda’r byd modern.
“Mae bron i 200 o bodlediadau Cymraeg, pob un ohonynt yn sôn am wahanol bynciau a materion sydd, yn fy marn i, yn hollbwysig er mwyn i’r iaith ffynnu.”
Tabŵ
Gyda phodlediadau yn y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, mae Mari Elen yn teimlo bod cryn ddewis i wrandawyr erbyn hyn, a bod hynny’n helpu’r iaith i ffynnu.
“Dw i’n meddwl mai’r unig ffordd allith yr iaith oroesi ydy trwy, wrth gwrs, dathlu popeth am ein hiaith, ond ein bod ni’n defnyddio’r iaith i drafod pynciau sydd angen cael eu trafod,” meddai.
“Mae yna gymaint o bodlediadau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg sydd yn caniatáu i ni glywed sgyrsiau am bethau sy’n bwysig i ni, sydd efallai wedi bod yn dabŵ tan rŵan.
“Mae gen ti Siarad Secs gan Lisa Angharad, mae gen ti Cwîns efo Mari a Meilir, a ddaeth yn arian ac efydd.
“Dw i’n meddwl ein bod ni’n fwy parod i fod yn agored ac mae o’n gwneud i bawb deimlo’n fwy normal.
“Mae o’n rhoi lle i bawb gael bod yn Gymraeg.”
Y Pod
Gyda chyfres y tu ôl iddi, mae Mari Elen yn ddiolchgar i Aled Jones, sylfaenydd Y Pod, gwasanaeth podlediadau Cymraeg sydd yn hyrwyddo a chefnogi podlediadau.
“Mae o wedi helpu pob podlediwr yng Nghymru ac mae be’ mae o’n gwneud yn anhygoel,” meddai.
“Mae o wedi sefydlu platfform lle mae’r holl bodlediadau Cymraeg yn byw.
“Mae o wedi fy nghefnogi i gymaint ers i fi ddechrau’r podcast a dydw i ddim yn meddwl buasai’r sîn podcast yng Nghymru mor iach ag ydy o oni bai am Aled.
“Fo sy’n cynnal ni gyd.
“Mae o’n gwneud i chdi deimlo fel dwyt ti ddim ar ben dy hun, er ’mod i wedi dechrau Gwrachod Heddiw ar ben fy hun.”