Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn ymweld â set cyfres Sex Education Netflix i gwrdd â phrentisiaid a hyfforddeion.
Daw hyn wrth iddo gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi pedwaredd gyfres y rhaglen.
Mae Sex Education yn gyfres ddrama-gomedi sy’n dilyn bywydau myfyrwyr, staff a rhieni yn ysgol uwchradd ffuglennol Moordale.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dwy allan o dair cyfres y ddrama yn ariannol drwy Cymru Greadigol, a chafodd y cyfresi gymorth logistaidd drwy wasanaeth Sgrîn Cymru.
Ers sefydlu Cymru Greadigol ym mis Ionawr 2020, dywed Llywodraeth Cymru fod £12.8m o gyllid cynhyrchu wedi cael ei ddyfarnu i 19 o brosiectau gan greu dros £139m o wariant cynhyrchu yn economi Cymru.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi, gyda 60 o rolau wedi’u creu ar gyfer hyfforddeion ar draws y pedwar tymor.
Bydd y tymor hwn yn cynnig 11 lleoliad arall i hyfforddeion.
Fel rhan o’u buddsoddiad ym maes cynhyrchu teledu a ffilm, mae Llywodraeth Cymru yn pennu bod yn rhaid i bob cynhyrchiad sy’n cael ei gefnogi ymrwymo i ddarparu lleoliadau hyfforddi â thâl ar gyfer hyfforddeion sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Mae’r Warant i Bobol Ifanc yn rhoi cymorth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i waith neu ddod yn hunangyflogedig.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i fusnesau ledled Cymru ymrwymo i’r Warant i Bobol Ifanc drwy gynnig cyfleoedd o ran lleoliadau profiad gwaith, prentisiaethau, neu gyflogaeth.
‘Pobol ifanc yn allweddol i lwyddiant Cymru’
“Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi Sex Education, un o gyfresi mwyaf llwyddiannus y diwydiant yng Nghymru ac un o lwyddiannau mwyaf Netflix yn fyd-eang,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.
“Mae’r cyfleoedd sy’n cael eu darparu gan y cynhyrchiad yn dangos yr ystod o gynlluniau a rhaglenni sydd ar gael drwy’r Warant i Bobol Ifanc.
“Mae pobol ifanc yn allweddol i lwyddiant Cymru yn y dyfodol, ac ni fydd cenhedlaeth goll yma o ganlyniad i’r pandemig”.
‘Sbarduno twf ar draws diwydiannau creadigol Cymru’
“Rydym wrth ein boddau bod Sex Education yn dychwelyd i Gymru eleni am ei phedwaredd gyfres hir ddisgwyliedig,” meddai Jamie Campbell, Cyfarwyddwr Creadigol Eleven a Chynhyrchydd Gweithredol Sex Education.
“Mae’r wlad yn gartref i rai o dirweddau mwyaf syfrdanol y byd, sy’n creu profiad teledu cofiadwy ac unigryw i’r gwylwyr.
“Drwy ffilmio Sex Education, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â Netflix a Llywodraeth Cymru i gefnogi pobol ifanc greadigol drwy brentisiaethau a hyfforddiant.
“Yn ei dro, rydym yn gobeithio sbarduno twf ar draws diwydiannau creadigol Cymru a hyrwyddo’r wlad fel cyrchfan ffilmio o ddewis.”