Gyda thros 120,000 o bobol yn dweud eu bod nhw am fynd i Dregaron yn ystod yr Eisteddfod, y si oedd y byddai’r dref yn orlawn ac y byddai’r busnesau i gyd yn elwa ohoni.
Ar y cyfan, roedd y busnesau lletygarwch – Y Talbot, Y Banc, Tom’s Tregaron a Coffi Bara yn Nhregaron – yn hapus gyda nifer y cwsmeriaid erbyn diwedd yr wythnos, gyda mwy yn crwydro i’r dref o’r dydd Mercher ymlaen.
“Fel arfer ar y penwythnos ry’ ni yn gwneud tua 70, ond wedyn pan ddaeth hi i ganol wythnos yr Eisteddfod, ro’n ni yn gwneud tua 110 bob nos, sy’n lot o gymharu â beth y’n ni yn gwneud fel arfer,” meddai llefarydd ar ran y Talbot.
Ond wnaeth yr Eisteddfod ddim llwyddo i gwrdd â disgwyliadau pawb, gyda’r ddau gigydd, Cigydd Evans a D I Davies, caffi’r Riverbank, Caffi Hafan a’r New Medical Hall ar eu colled.
“I fod yn onest, ro’n ni 70% lawr ar fusnes yn y cigydd o gymharu ag wythnos arferol dros yr wythnos yna,” meddai llefarydd ar ran Cigydd Evans.
“Roedden ni yn dawel iawn, 75% i lawr o’i gymharu â llynedd.
“Doedd neb ar hyd lle o ystyried faint roedden nhw wedi dweud y byddai yn y dre’.
“Ac ar ben hynny, mae wedi bod yn dawel drwy’r haf gyda llawer o dwristiaid wedi cadw ffwrdd oherwydd bod Tregaron yn cynnal yr Eisteddfod,” meddai perchnogion y Riverbank.
‘Pob dim ar y maes’
“Wnaethon ni lot o byrgers a sosejys yn barod ar gyfer yr Eisteddfod, ond gelon ni ddim o’u gwared nhw achos roedd y cwbwl ar y Maes ac ar y maes carafanau.
“Petai’r cyfleusterau yna ddim i gael yna, byse fe’n wahanol stori.” meddai llefarydd ar ran Cigydd D I Davies.
“Roedd popeth ar y maes, doedd dim angen i bobol ddod lawr i Dregaron.
“Ar ôl yr holl baratoi, cael stoc a staff ychwanegol mewn, welon ni fawr o neb yn diwedd,” eglura llefarydd ar ran Caffi Hafan.
Y galw am well cyfathrebu, gonestrwydd a newid
“Byse fe’n well petai’r Eisteddfod yn bod yn fwy realistig gyda’r dref,” meddai llefarydd ar ran Cigydd Evans.
“Byse gwell cyfathrebu wedi helpu ni lot hefyd yn y cigydd wrth ddeall siwt oedd yr Eisteddfod yn gweithio, sai’n gyfarwydd â’r ŵyl.
“Ar y dechrau ro’n i ar ddeall byse ni yn gweld lot o bobol eisiau bwyd barbeciw a brecwast, ond doedd pobol yr Eisteddfod ddim rili yn dod lawr i’r dre’ o gwbl yn ystod y dydd, ac yn sicr ddim eisiau prynu cynnyrch ffres.
“Yn hytrach o’n nhw jyst eisiau prynu bwyd cyfleus, lle o’n nhw yn gallu cydio ynddo fe yn syth a ddim gorfod eu coginio, sy’n ddigon teg os wyt ti ar wyliau.”
“Rwy’n meddwl y dylai’r dref fod wedi cael y tryloywder, y byddai pawb wedi bod ar y Maes ac y byddai popeth yn cael ei ddarparu ar y Maes, ac felly gallem fod wedi paratoi yn unol â hynny, gyda llai o staff, llai o stoc a dim mwy,” meddai’r llefarydd ar ran y Riverbank.
“Nawr bod yr Eisteddfod yn darparu ar gyfer y mewnlifiad o bobol sy’n dod, a bod ganddyn nhw’r holl fusnesau, siopau a’r bariau ar y Maes, dylai’r Eisteddfod fod yn hynny yn unig, yn hytrach na’i hyrwyddo fel ‘O, mae’n mynd i fod yn dda iawn i’r ardal a’r busnesau’ lle mewn gwirionedd, y bu’n golled.” meddai llefarydd ar ran y New Medical Hall.
Cyfyngiadau parcio yn broblem arall
Gosododd Cyngor Sir Ceredigion gyfyngiadau parcio ar y strydoedd yn Nhregaron yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ond nid pawb oedd yn ymwybodol o’r trefniadau hyn nes eu bod yn eu lle.
“Ces i ddim unrhyw wybodaeth ynghylch y newidiadau parcio, nac ychwaith unrhyw wybodaeth am y cyfarfod a gynhaliwyd am y newidiadau hyn. Ond y siom mwyaf oedd gweld y wardeniaid traffig yn gweddi ar bawb wrth iddynt ddod i’r dref,” meddai’r llefarydd ar ran y New Medical Hall.
“Un peth oedd yn real drueni oedd, daeth neb o’r Cyngor i ddweud wrthon ni ambwyti’r heolydd yn cael eu cau. Stopion nhw’r parcio sy’n ddigon teg, ond fe stopion nhw ni fel busnes rhag dadlwytho hefyd, i’r pwynt lle gelon ni ticket,” meddai llefarydd ar ran Cigydd Evans.
“Petaen nhw ond wedi dod i siarad gyda ni ac esbonio, edrych hwn yw be’ ni’n mynd i wneud, os bod gyda chi deliveries sy’n despret arnoch chi, beth yw’r timeframe sydd gyda chi a gallwn ni drial eich helpu chi’.
“Ond doedd dim parodrwydd gyda nhw i weithio gyda ni fel busnes… yn hytrach ‘na, na, na’ oedd yr ateb.”
‘Dylai’r hawliau parcio anabl wedi parhau’
“Yn naturiol, roedd llai o bobol leol yn pigo mewn i’r siop ar gyfleustra,” meddai’r llefarydd ar ran D I Davies.
“Ond trwy ddiddymu’r safle parcio anabl, doedd pobol hŷn ac anabl yn methu dod i siopa yn y dre,” meddai gweithiwr yn siop Rhiannon.
Doedd cleifion anabl chwaith yn medru cael eu presgripsiwn o’u fferyllfa, gyda rhai yn gorfod “mynd hebddo”, meddai’r fferyllydd lleol.
“Petai’r cyngor ond wedi danfon llythyr atom fis o flaen llaw yn esbonio’r newidiadau hyn, byddwn ni wedi gallu cynllunio a sicrhau bod pawb yn cael eu presgripsiwn cyn wythnos yr Eisteddfod” meddai.
“Bu ymweliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru â Thregaron yn llwyddiant ysgubol ac roedd y mwyafrif helaeth o ymwelwyr, trigolion a busnesau’r dre yn hapus iawn gyda’r trefniadau traffig dros gyfnod y brifwyl,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion.
“Yn achos anghenion rhesymol gan fusnesau yn ystod yr wythnos, roedd swyddogion yn fwy na pharod i weithio gyda nhw, ac yn wir mi wnaeth y swyddogion hynny.
“Ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn ymateb i faterion busnesau unigol gan ei fod eisioes wedi ymateb i unrhyw ymholiadau penodol oddi wrthynt.
“Roedd croesawu’r brifwyl i Geredigion yn brofiad arbennig a bu’r Awdurdod Lleol yn cydweithio’n agos â’r Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod trefniadau ar waith i gynnal diogelwch pawb yn ystod y cyfnod.”
‘Gobeithio bod pobl nawr yn gwybod lle ma Tregaron’
“Dyw’r Eisteddfod ddim wedi addo dim yn swyddogol i’r dref, ond fi’n credu gan fod y sir wedi buddsoddi cymaint i gynnal yr Eisteddfod, y disgwyliad oedd, gyda chymaint yn dod i Dregaron y byddai’r dref a’r busnesau i gyd yn brysur,” meddai Rhydian Willson, Cynghorydd Tref Tregaron.
“Er y prysurodd y dre’ ganol wythnos, dwi ddim yn gwybod pam yn union na ddaeth mwy o bobol lawr i’r dre’ yn gynt, efallai ei fod yn gyfuniad o’r tywydd a dechrau Maes B, ond mae’n sicr yn wers i ardaloedd yn y dyfodol i reoli eu disgwyliadau.
“Gallwn i ddim dweud naill ffordd neu’r llall os yw’r Eisteddfod wedi gadael gwaddol economaidd yn y dref, mae’n rhaid i ni aros am ddata concrit ac ailasesu o fewn blwyddyn. Ond y teimlad ar hyn o bryd yw nad oedd y dref mor brysur ag oedd pawb efallai wedi gobeithio.
“Gwaddol economaidd neu beidio, roedd hi’n ŵyl fawr ac felly gallwn ni ond obeithio bod pobol nawr yn gwybod lle mae Tregaron, a gobeithio y down nhw yn ôl i ymweld â’r dref eto yn y dyfodol.
“O ran y system parcio, fuodd gyrru trwy Dregaron ddim mor hwylus erioed, gyda digonedd o le i barcio i bawb yn y maes parcio yn y dref, ond dw i’n cytuno y dylai trefniadau parcio anabl fod wedi parhau.”