Dau actor ifanc o’r gogledd yw’r Deian a Loli newydd, sef pâr o efeilliaid direidus gyda phwerau dirgel yn sioe boblogaidd S4C.
Curodd Moi Williams, o Gaernarfon, a Lowri Llewelyn o Fangor, sy’n ddeg oed, dros 600 o ddarpar actorion ifanc eraill i gipio rhannau Deian a Loli yn y gyfres hynod boblogaidd o’r un enw.
Maen nhw’n olynu Ifan Henri, sy’n 11 oed ac yn byw yn Abersoch, a Lleucu Owain, sy’n 12 oed ac yn byw yng Ngherrigydrudion ger Corwen, sy’n gadael y rhaglen ar ôl tyfu’n rhy fawr i’r cymeriadau.
Bydd y ddeuawd newydd yn ymddangos am y tro cyntaf pan fydd y newid yn digwydd yn ystod pennod Nadolig arbennig a fydd yn cael ei darlledu dros gyfnod yr ŵyl.
Actorion newydd eraill
Yn debyg i Doctor Who, mae’r cast cyfan yn cael ei adfywio gydag actorion newydd oherwydd bydd rhieni’r efeilliaid yn wynebau ffres hefyd.
Mae Siôn Eifion, sy’n hanu o Lanfaelog ger Rhosneigr, a Fflur Medi Owen, o Dregarth ger Bangor, yn cymryd lle Rhys ap Trefor a Sara Lloyd.
Mae’r cwmni teledu Cwmni Da o Gaernarfon eisoes wedi dechrau ar y gwaith ffilmio ar gyfer pedwaredd gyfres y sioe maen nhw’n ei chynhyrchu ar gyfer llwyfan rhaglenni plant S4C, Cyw.
Mae gan Deian a Loli bwerau arbennig yn y sioe a thrwy ddweud y gair hud, “Ribidirew!”, maen nhw’n gallu rhewi eu rhieni a mynd ar anturiaethau anhygoel.
Trwy ddefnyddio sgriniau gwyrdd anferth ar wal a llawr y stiwdio, mae’r tîm cynhyrchu yn gallu taflunio bron unrhyw lun fel cefndir, gyda chymorth effeithiau gweledol arbennig a grëwyd yn fewnol gan Cwmni Da.
Mae ffilmio hefyd wedi bod yn digwydd ar leoliad ac mae’r cast a’r criw wedi bod yn rhedeg o amgylch y coed ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon tra bod golygfeydd tu fewn i gartref Deian a Loli wedi cael eu ffilmio mewn pentref ger Penygroes.
Yn ogystal â bod â llu o gefnogwyr ifanc brwd ym mhob rhan o Gymru, mae’r sioe hefyd wedi bod yn boblogaidd iawn gyda beirniaid teledu.
Mae wedi ennill gwobrau lu gan gynnwys tair Gwobr BAFTA Cymru ac wedi cael ei gwerthu’n rhyngwladol, gyda nifer o lyfrau Deian a Loli hefyd yn cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa.
Dim profiad blaenorol
Dywed Moi Williams a Lowri Llewelyn eu bod nhw’n ddilynwyr mawr o’r gyfres flaenorol, a’u bod nhw wrth eu boddau o gael y cyfle i actio eu harwyr.
Dywed Moi, pêl-droediwr dawnus sydd wedi chwarae i Academi Dinas Bangor ac sy’n cefnogi Lerpwl, nad oedd wedi gwneud unrhyw actio o’r blaen ac ar wahân i fod ar raglen her Cyw gyda’i ffrindiau, doedd e erioed wedi bod mewn stiwdio deledu.
Mae Moi yn ddisgybl yn Ysgol y Gelli yng Nghaernarfon.
“Rwyf wedi bod i Ysgol Glanaethwy ym Mangor ac wedi actio a chanu yno ond dim byd arall,” meddai.
“Mae’r sgrin werdd yn llawer mwy nag oeddwn i’n meddwl y byddai ond mae actio yn her rwy’n ei mwynhau’n fawr.
“Dw i’n dod i arfer efo’r ffilmio rŵan a dw i’n hoff iawn o’r cyffro i gyd.”
Yn wahanol i’w gyd-seren, mae gan Lowri, sy’n mynychu Ysgol y Garnedd ym Mangor, ychydig bach o brofiad actio.
“Mae gen i dri brawd ac rydan ni wedi cynnal pantomeimiau a sioeau eraill adeg y Pasg i’n rhieni a nain a taid,” meddai.
“Ond dydw i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen.
“Rwy’n mwynhau’n fawr a dw i’n meddwl ei fod o’n wych.”
Trosglwyddo’r awennau
Yn ôl y cyfarwyddwr a’r cyd-gynhyrchydd Martin Thomas, bydd deg pennod yn cael eu ffilmio dros yr haf a deg arall y flwyddyn nesaf.
Dywed fod Lowri a Moi yn setlo yn eu rolau newydd yn dda iawn.
“Rydym yn yr ail wythnos o ffilmio ac maen nhw wedi dod ag egni ffres i’r sioe,” meddai.
“Mae’n drist gweld yr hen gast yn gadael. Rydyn ni wedi gweithio efo nhw am ddwy flynedd ac wedi dod yn agos iawn ond fel ffenics mae cast arall yn tyfu o’r lludw ac yn cynnig rhywbeth newydd.”
Roedd gan Lleucu Owain ac Ifan Henri, y ddau actor, a fu’n chwarae rhannau Deian a Loli yn y gyfres ddiwethaf eiriau doeth o gyngor i Lowri a Moi wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfa fel yr efeilliaid hoffus.
“Roedd y profiad yn un arbennig iawn i mi – roedd pob diwrnod ar y set yn llawn hwyl a chwerthin oherwydd roedd y criw i gyd mor gyfeillgar,” meddai Lleucu.
“Roedd y straeon i gyd yn arbennig a chafodd Loli sawl antur! Roedd yn llawer o hwyl cael gwisgo gwahanol ddillad a chael actio o flaen y sgrin werdd. Roeddwn i’n lwcus iawn i allu gweithio mewn gwahanol lefydd ac roedd yn gyffrous gallu ffilmio yn hwyr yn y nos ar adegau!
“Y cyngor fyddwn i’n ei gynnig i’r criw newydd yw mwynhau pob eiliad!”
“Roedd yr amser ges i’n ffilmio Deian a Loli yn un o’r profiadau gorau i mi ei gael erioed,” meddai Ifan.
“Roedd yn brofiad ychydig yn wahanol i Lleucu a fi gan fod y ffilmio wedi digwydd yn ystod cyfnod Covid! Cefais lawer o hwyl ac roedd y criw a’r actorion eraill i gyd mor gyfeillgar efo ni ac wedi helpu ni i wneud y gwaith.
“Mi wnes i fwynhau dysgu actio o flaen camera a hefyd gweld sut mae pawb yn gweithio y tu ôl i’r camera.”