Mae Dafydd Rhys wedi cael ei benodi’n Brif Weithredwr newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
Ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ond bydd yn dechrau yn ei swydd newydd yn yr hydref.
Bydd yn olynu Nick Capaldi, a roddodd y gorau i’w swydd yr haf diwethaf ar ôl 13 mlynedd, a’r Prif Weithredwr dros dro, Michael Elliott, sydd wedi bod yn y swydd ers dechrau mis Mawrth.
Y llynedd, cafodd penodiad Siân Tomos i’r swydd ei gyhoeddi, ond bu’n rhaid iddi ymddeol am resymau iechyd cyn iddi allu cychwyn yn y swydd.
Cyrraedd cymunedau amrywiol Cymru
“Dw i mor falch mai Dafydd Rhys fydd ein Prif Weithredwr newydd,” meddai Phil George.
“Er gwaetha’ nifer helaeth o ymgeiswyr cryf, gwnaeth Dafydd argraff ar y panel penodi o ganlyniad i eglurder ei weledigaeth ar gyfer gwneud y celfyddydau’n ganolog yn y gymdeithas yng Nghymru.
“Felly hefyd ei ymrwymiad i rymuso ein staff talentog i wireddu’r weledigaeth honno law yn llaw â’n sector celfyddydau bywiog.
“Yn siaradwr Cymraeg o fyd diwydiannol Sir Gaerfyrddin, mae Dafydd yn angerddol ynghylch cyrraedd cymunedau amrywiol Cymru lle mae anfantais economaidd yn aml wedi cyfyngu ar allu pobl i gael mynediad at rym trawsnewidiol y celfyddydau.
“Mae’n benderfynol o ehangu cyfranogiad ac ymgysylltu â’r celfyddydau ar sail parch at greadigrwydd lleol.”
‘Gwerth y celfyddydau’
“Rwy’n credu’n angerddol yng ngwerth y celfyddydau a’u gallu i wneud gwahaniaeth i fywyd a lles ein cenedl,” meddai Dafydd Rhys.
“Er ein bod yn wynebu llawer o broblemau sylweddol yn y celfyddydau yng Nghymru – nid lleiaf effaith pandemig COVID-19, yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng costau byw – rwy’n argyhoeddedig o’r effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael ar bob agwedd o’n bywyd cenedlaethol.
“O fod wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol ar hyd fy ngyrfa a chael profiad ymarferol fel Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ers 2018, rwyf wedi gweld ar lawr gwlad yr effaith gall y celfyddydau ei chael ar fywydau pobol hen ac ifanc ac o bob cefndir cymdeithasol.
“Rwy’n hynod ddiolchgar i Michael Elliott am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud fel Prif Weithredwr dros dro ers mis Mawrth, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at arwain Cyngor Celfyddydau Cymru, ac adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd gan fy rhagflaenwyr, wrth i ni barhau â’n cenhadaeth i sicrhau bod y celfyddydau yng Nghymru er lles pawb.”