Mae’r “diffyg abswrd o ran arweinyddiaeth San Steffan” ar filiau ynni “yn wirioneddol anfaddeuol”, yn ôl Liz Saville Roberts.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn galw ar Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i ddychwelyd y cap ar brisiau ynni i’w lefel cyn mis Ebrill, wrth i’r blaid alw hefyd am ymestyn y cap i fusnesau bach ac elusennau, sydd ar hyn o bryd wedi’u cau allan, ac am ddyblu’r gefnogaeth ariannol i aelwydydd bregus.

Yn ôl Plaid Cymru, byddai modd talu am y polisi trwy ôl-ddyddio’r dreth ffawdelw ar olew a nwy.

Maen nhw’n dweud y dylai’r argyfwng presennol fod yn “alwad i ddeffro” i’r sawl sy’n llunio polisïau yn San Steffan, gan ddadlau mai’r unig ateb hirdymor yw “dod â’r pum cwmni ynni mawr i ddwylo’r cyhoedd a chynyddu buddsoddiad mewn modd radical mewn ynni gwyrdd ac insiwleiddio cartrefi”.

Mae Liz Saville Roberts yn cyhuddo Liz Truss a Rishi Sunak, y ddau sydd yn y ras i fod yn arweinydd nesa’r Ceidwadwyr ac yn Brif Weinidog nesa’r Deyrnas Unedig, o “gerdded yn eu cwsg tuag at argyfwng ynni catastroffig”.

Heb weithredu brys i leihau biliau, meddai, “bydd pobol yn dioddef mewn ffordd ddylai fod yn annychmygadwy mewn economi ddatblygiedig yn yr unfed ganrif ar hugain”.

‘Pobol Cymru ddim yn poeni pwy gaiff eu coroni’n Brif Weinidog’

“Rydyn ni’n cerdded yn ein cwsg tuag at argyfwng ynni catastroffig gyda miliynau o bobol yn wynebu cyni y gaeaf hwn,” meddai Liz Saville Roberts.

“Ond mae ein harweinwyr bondigrybwyll yn San Steffan yn rhy brysur yn bogailsyllu i sylwi.

“Mae’r diffyg abswrd o ran arweinyddiaeth yn ystod yr argyfwng hwn yn wirioneddol anfaddeuol.

“Dydy pobol Cymru ddim yn poeni pwy gaiff eu coroni’n Brif Weinidog ymhen pythefnos.

“Yr hyn maen nhw’n poeni amdano ydi beth fydd Liz Truss neu Rishi Sunak yn ei wneud i leihau eu costau uchel iawn. Dydy ymrwymiad annelwig i ‘ddigwyddiad ariannol’ ddim yn ddigon.

“Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddychwelyd y cap ar brisiau i’w lefelau cyn mis Ebrill ar gyfer tariffau safonol-amrywiol a mesuryddion taliad ymlaen llaw.

“Dyna’r unig ffordd o warchod teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd.

“Mae busnesau bach megis y siop gornel, ffermydd a chyflenwyr bwyd yn wynebu cynnydd mewn biliau a fyddan nhw ddim yn cael eu gwarchod gan y cap ar brisiau.

“Felly mae Plaid Cymru’n cefnogi galwad Ffederasiwn y Busnesau Bach ar i’r cap ar brisiau gael ei ymestyn i fusnesau bach ac elusennau.

“Rhaid dyblu’r taliad costau byw o £650, ac adolygu ei feini prawf cymhwysedd i gynnwys y sawl sydd ar fudd-daliadau anabledd, sydd wedi’u cau allan ar hyn o bryd.

“Er mwyn talu am hyn, rhaid ymestyn ac ôl-ddyddio’r dreth ffawdelw ar gwmnïau olew a nwy.

“Mae elw tanwydd ffosil wedi cyrraedd lefelau gwrthun, gyda phenaethiaid ynni’n gwneud biliynau ar gefn y rhai tlotaf.

“Mae nifer o’n cymunedau eisoes ar drothwy cyni, ac ond yn goroesi diolch i haelioni banciau bwyd a sefydliadau cymunedol lleol.

“Heb weithredu brys gan Lywodraeth San Steffan i leihau biliau, bydd pobol yn dioddef mewn ffordd ddylai fod yn annychmygadwy mewn economi ddatblygiedig yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Dylai’r argyfwng hwn hefyd fod yn alwad i ddeffro i San Steffan ynghylch ansefydlogrwydd a pha mor agored i niwed mae ein systemau ynni.

“Mae Plaid Cymru’n glir mai ateb hirdymor i osgoi argyfyngau ynni yn y dyfodol yw dod â’r pum cwmni ynni mawr i ddwylo’r cyhoedd a chynyddu’r buddsoddiad mewn ffordd radical mewn ynni gwyrdd ac insiwleiddio’r cartref.

“Gadewch i ni beidio anghofio fod Cymru, ar hyn o bryd, yn cynhyrchu dwywaith yr ynni rydyn ni’n ei ddefnyddio, ond eto rydym yn talu costau sefydlog am drydan.

“Rhaid i’r amser ddod lle mae Cymru’n elwa’n llawn ar werth yr hyn rydyn ni’n ei gynhyrchu a’i allforio.”