Gallai podiau glampio gael eu hychwanegu at fythynnod gwyliau sy’n cael eu rhentu gan Ant a Dec ar gyfer y rhaglen I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here!
Mae James McAllister wedi gwneud cais i bwyllgor cynllunio Cyngor Conwy i newid defnydd y tir yn Graiglwyd Springs ym Mhenmaenmawr.
Ar hyn o bryd, caiff y safle ei ddefnyddio fel pysgodfa frithyll a bythynnod gwyliau hunanarlwyo.
Ond mae’r sawl sy’n gwneud y cais eisiau ychwanegu chwe phod gwyliau at y safle ar Ffordd Graiglwyd, fydd yn cynnwys tybiau twym, mynediad WiFi a mannau eistedd cyfforddus.
Mae’r bythynnod gwyliau’n weithredol ers dros 20 mlynedd, ond fe wnaeth perchnogion newydd ddechrau rhedeg y busnes yn 2018.
Bydd pob pod yn cynnwys ystafell gawod, tŷ bach a chegin.
Mae’r datblygwyr yn dweud y byddan nhw’n prynu dau bod yn y flwyddyn gyntaf yn lle cyntaf, a’u bod nhw’n bwriadu ychwanegu dau arall y flwyddyn ganlynol a dau arall yn y drydedd flwyddyn.
Bydd pob pod yn costio rhwng £120 a £150 i’w rentu am un noson yn ystod y tymor brig.
Bydd y datblygiad yn costio oddeutu £53,000.
Amlinelliad o’r cynlluniau
Mae James McAllister wedi amlinellu ei gynlluniau mewn llythyr at y Cyngor.
“Gyda saith bwthyn gwyliau pum seren ar Google a Trip Advisor, a physgodfa frithyll sydd ymhlith y 15 orau yn y Deyrnas Unedig, rydym yn lleoliad twristaidd llwyddiannus uwchben pentref Penmaenmawr,” meddai.
“Fe wnaethon ni groesawu Ant a Dec o I’m A Celebrity am bum wythnos sydd, rwy’n gobeithio, yn arwydd da o ansawdd a safon ein bythynnod.
“Rydyn ni’n gwneud cais i ychwanegu podiau glampio hunangynhaliol o safon uchel, wedi’u gwasanaethu’n llawn, fel y cam nesaf ar gyfer symud ein busnes yn ei flaen ac yn credu, o ran ein profiad presennol ac yn y gorffennol, fod gennym ni’r sgiliau a’r gallu i ddatblygu ac i gynnig profiad gwyliau byr gwych o safon uchel.
“Mae’r ardal sy’n cael ei chynnig yn cynnig golygfeydd gwych, wedi’i chuddio’n dda, ac fe fydd apêl fawr iddi yn ogystal â distawrwydd y lleoliad – ond yn ogystal yn rhoi’r cyfle i ni gynnig mwy o wyliau pysgota a gwyliau byr, yn enwedig ar adegau brig ac isel yn y tymor mewn lleoliad sydd wedi’i hen sefydlu.
“Ers y cyfnod clo COVID, mae mwy o bobol wedi dechrau neu wedi troi yn ôl at bysgota, ac wedi profi’r mewnlifiad yma, pan oedd hawl gennym i agor, rydym yn awyddus i gynnig mwy o wyliau byrion ar bris fforddiadwy gyda llawer llai o wariant i’n busnes wrth ddarparu podiau.
“Wedi ymweld ac wedi aros mewn podiau dros y blynyddoedd diwethaf, rydym yn gweld y galw’n cynyddu fel ffordd hwylus a fforddiadwy o dreulio ambell noson i ffwrdd.
“Er bod yna nifer o bodiau sylfaenol iawn, rydym wedi credu erioed bod ansawdd yn gwerthu…
“Rydyn ni eisiau cynnig twba twym, ardal patio, a seddi cyfforddus ond hefyd WiFi a setiau teledu clyfar pan nad yw’r tywydd mor garedig.
“Mae yna alw cryf ymhlith y demograffeg iau i dreulio dwy neu dair noson i ffwrdd, ac mae podiau wedi gweld twf enfawr dros y pedair blynedd diwethaf yn y Deyrnas Unedig.”
Bydd y cais yn cael ei drafod gan bwyllgor cynllunio Gyngor Sir Conwy.