Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno i Gyngor Sir Powys ar gyfer cabanau gwyliau yng Nghoedway ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae Mr D Fletcher wedi gwneud cais i osod pum caban gwyliau pren mewn cae gyferbyn â’r Old Hand and Diamond Inn ar ochr ddwyreiniol y pentref.
Fel rhan o’r cynllun, byddai angen mynedfa newydd i’r B4393, maes parcio gyda lle i ddeg o gerbydau, dau bwll dreinio a safle trin carthffosiaeth.
Ar y safle, byddai dau fath o gaban – tri chaban i bedwar o bobol a dau gaban llai ar gyfer dau o bobol.
Mae dogfennau sydd wedi’u cyflwyno gyda’r cais yn dweud y byddai hyn “yn ddeniadol i ystod eang o gwsmeriaid o wahanol oedrannau, cyplau neu deuluoedd”.
Mae’r asiant Rowan Chislett o MTC planning and design limited wedi bod yn egluro’r cynnig mewn datganiad cynllunio.
“Mae Coedway ar y ffin rhwng Powys a Sir Amwythig, yn nes at Amwythig na’r un dref Gymreig arall ac nid yw mewn lleoliad twristaidd traddodiadol,” meddai.
“Fodd bynnag, mae ei leoliad yn golygu ei fod e o fewn pellter teithio agos i nifer o atyniadau twristaidd lleol ym Mhowys a Sir Amwythig, gan gynnwys y Trallwng a’r Castell Coch, Llanymynech, cerdded ar hyd afon Hafren, bryniau sir Amwythig ac Amwythig.
“Mae’r safle’n hygyrch o Amwythig ar drafnidiaeth gyhoeddus gyffredin, ac mae nifer o lwybrau cerdded a march yn yr ardal leol.”
‘Hygyrch o Loegr’
Nododd Rowan Chislett nad yw’r safle ond 50 milltir o ardaloedd trefol mawr fel Birmingham, Wolverhampton a Stoke, a’i fod yn hygyrch iawn o ardaloedd eraill yn Lloegr.
“Mae’n cymryd 10 munud i yrru i’r safle o ffordd ddeuol yr A5, sy’n gwneud ei safle’n ddeniadol iawn i deuluoedd neu gyplau sy’n teithio am benwythnosau neu wyliau aros gartref tymor hir,” meddai.
“Yn wahanol i nifer o ddatblygiadau twristaidd, mae safle’r cais gyferbyn â thafarn uchel ei pharch ac arhosfan bws gyda gwasanaethau rheolaidd i ganol tref Amwythig.
“Mae hyn yn gwneud safle’r cais yn ddatblygiad prin y mae modd cael mynediad iddo ar drafnidiaeth gyhoeddus.”
Eglura fod y pandemig Covid-19 wedi “cynyddu dyhead” pobol “yn fawr iawn” i gael gwyliau yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n credu bod y gost o deithio dramor a’r pryderon parhaus am Covid-19 yn dangos bod yr “ysfa yma am wyliau ym Mhrydain” wedi parhau.
“Mae’r farchnad hon yn parhau’n fywiog o ganlyniad i’r atyniad o gael gwyliau mewn grwpiau caëedig a pha mor gymharol hawdd yw gwneud hyn o’i gymharu â theithio dramor,” meddai.
“Mae’r dyluniad yn darparu ar gyfer hyn mewn lleoliad sy’n creu cryn incwm posib i’r economi fwyaf lleol, tra ei fod hefyd yn agos i ystod o atyniadau twristaidd.”
Gallai’r cynllun hefyd gynnwys “system gwres yr haul” a fyddai’n gweithredu fel ffynhonnell o ynni ar gyfer dŵr twym ar y safle.
Mae gan gynllunwyr Powys tan Hydref 11 i wneud penderfyniad ynghylch y cais.