Mae bron i 1,800 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb yn galw ar Radio Cymru i ailystyried y penderfyniad i ddirwyn rhaglen Geraint Lloyd i ben.

Daeth y newyddion yn gynharach y mis yma y bydd ei raglen yn dod i ben ddechrau mis Hydref, ar ôl 25 mlynedd o ddarlledu ar yr orsaf.

Geraint Lloyd sydd wedi bod ar y Shifft Hwyr ers 2012, a chyn hynny bu’n cyflwyno yn y prynhawniau a chyda’r nos.

Wrth siarad gyda golwg360 yn dilyn y newyddion, dywedodd y cyflwynydd ei bod yn “bach o sypreis” dod ar draws y ddeiseb ar Facebook.

“Ro’n i wedi bod yn recordio rhaglen Ar Eich Cais bore ’ma ac wedi digwydd sylwi ar Facebook,” meddai bryd hynny.

“Do’n i ddim yn gwybod dim byd.

“Mae o’n neis iawn bod pobol yn meddwl cymaint o’r rhaglen.

“Roedd e’n bach o sypreis!

“Ro’n i’n siomedig bod y rhaglen yn gorffen ond mae’n amlwg bod pobol yn gwerthfawrogi beth fi’n gwneud.”

Colled i ni ac i Radio Cymru

Mae unigolion wedi bod yn gadael negeseuon yn dathlu’r rhaglen wrth lofnodi’r ddeiseb.

“Rhaglen grêt, llawn hiwmor a chysondeb cynnwys da. Cadw Geraint yw’r dewis iawn!” meddai un llofnodwr.

“Mae rhaglen Geraint Lloyd yn un lwyddiannus a phoblogaidd. Byddai ei cholli yn golled fawr i nifer sylweddol ohonon ni. Byddai ei cholli yn golled i Radio Cymru,” meddai un arall.

“Fel gwrandawyr selog o Radio Cymru mae Geraint Lloyd yn un o goreuon ac yn gyflwynydd profiadol. Rhaid cadw Geraint,” meddai cefnogwr arall.

‘Dal yn siomedig’

Tydi Geraint Lloyd heb fod mewn unrhyw drafodaeth bellach efo Radio Cymru ers yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

“Fi dal yn siomedig, ar ôl bod gyda Radio Cymru am gymaint o amser.

“Dim fy newis i yw e.

“Mae lan i nhw, yn anffodus.”

Ymateb BBC Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru ar y pryd fod gorsafoedd radio yn gwneud newidiadau o bryd i’w gilydd.

“O bryd i’w gilydd mae gorsafoedd radio yn gwneud newidiadau i’r amserlen ac o fis Hydref ymlaen bydd elfennau o amserlen hwyrol Radio Cymru yn newid,” meddai.

“Bydd mwy o fanylion am yr amserlen ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

“Mae’n diolch ni’n fawr i Geraint Lloyd am ei gwmnïaeth gyson gyda’r nos dros y blynyddoedd.”

 

Deiseb i achub rhaglen Geraint Lloyd yn “syrpreis” i’r cyflwynydd

Elin Wyn Owen

Mae dros 200 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb dros y 14 awr ddiwethaf

Geraint Lloyd yn “siomedig” gyda phenderfyniad Radio Cymru i ddod â’i raglen i ben

Cadi Dafydd

“Mae’n anodd credu ar ôl yr holl flynydde,” meddai’r cyflwynydd sydd wedi bod ar Radio Cymru ers 25 mlynedd