Mae Cymru wedi derbyn gradd ‘F’ am weithgarwch corfforol plant a phobol ifanc, sy’n codi pryderon am yr effeithiau tymor hir ar eu hiechyd a’u lles.
Mae adroddiad Cerdyn Adroddiad Cymru ar gyfer Plant Gweithgar ac Iach yn mesur gweithgarwch corfforol plant yn ôl 11 o fesuryddion ar sail data cyn Covid.
Fe ddaeth i’r casgliad mai hanner plant a phobol ifanc Cymru rhwng 3 a 17 oed sy’n bodloni’r argymhelliad y dylid gwneud 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd, a dim ond 13-17% o blant 11 i 16 oed sy’n cyrraedd y lefel sy’n cael ei argymell, a bod hynny’n gadael Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y byd.
Yn 2018, dim ond naw gwlad sgoriodd yn is na Chymru.
Dyma’r pedwerydd tro i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, ar ôl adroddiadau tebyg yn 2014, 2016 a 2018 gan rwydwaith o ymchwilwyr ac arbenigwyr iechyd o 60 o wledydd sy’n ceisio gwella gweithgarwch corfforol plant a phobol ifanc ar draws y byd.
Cafodd yr ymchwil ei chwblhau gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Edge Hill, Chwarae Cymru, Sustrans, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chwaraeon Cymru.
‘Achos pryder’
“Mae’r Cerdyn Adroddiad hwn yn achos pryder ar gyfer iechyd a lles pobol yng Nghymru yn y dyfodol, yn enwedig gan fod yna dystiolaeth gadarn erbyn hyn fod gweithgarwch corfforol wedi gostwng ymhellach yn ystod y pandemig Covid-19,” meddai Amie Richards, awdur yr adroddiad o Brifysgol Abertawe.
“Rydym yn gobeithio y bydd canlyniadau’r Cerdyn Adroddiad hwn yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau gwneuthurwyr polisïau, ymarferwyr ac addysgwyr i wella lefelau gweithgarwch corfforol a chyfleoedd plant a phobol ifanc ac i leihau anghydraddoldebau o ran gweithgarwch corfforol plant a phobol ifanc.
“Mae nifer o gamau y gall teuluoedd eu cymryd i wella gweithgarwch corfforol eu plant, i adeiladu’n well ac yn gryfach ar ôl y pandemig Covid-19, ac i archwilio’r amgylchfyd naturiol rhyfeddol sydd gan Gymru i’w gynnig i’w holl gymunedau.”
Gall gweithgarwch corfforol gael effaith bositif yn y tymor hir ar iechyd plant a phobol ifanc, gan gynnwys gwella’u lles ac helpu i adeiladu gwytnwch, yn ôl Marianne Mannello, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Cefnogaeth ac Eiriolaeth Chwarae Cymru.
“Yr un mor bwysig yw’r mwynhad ar unwaith sy’n dod i blant a’u teuluoedd wrth chwarae,” meddai.
“Mae data’r Dangosydd Chwarae Actif yn dangos bod plant yn parhau i ofyn am lefydd gwell i chwarae tu allan ac yn adrodd am rwystrau tebyg bob blwyddyn.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n gwrando ar farn plant ac yn dileu’r rhwystrau i chwarae.
“Bydd hyn yn eu helpu nhw i gefnogi eu lles eu hunain, ac i gael plentyndod hapus ac iach.”
‘Dim digon o uchelgais’
“Y Llywodraeth Lafur yn esgeuluso sefydliadau chwaraeon llawr gwlad sydd ar fai am y ffordd o fyw fwy eisteddog rydyn ni’n ei gweld ymhlith pobol ifanc Cymru,” meddai Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dydy cwricwlwm newydd Llafur ddim yn agos at fod yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer darpariaeth Addysg Gorfforol neu chwaraeon ychwaith.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ffafrio dull wedi’i dargedu mwy i wella hygyrchedd chwaraeon cymunedol yng Nghymru.
“Fydd menter ddiweddaraf Llafur i ddarparu hyd at £500,000 i ychydig iawn o grwpiau dethol, gyda dim ond 11 diwrnod i wneud cais, ddim ond yn ffafrio sefydliadau mawr sydd wedi’u hen sefydlu.”