Mae’r awdurdodau yn rhanbarth Papua yn Indonesia wedi cadw chwe swyddog y fyddin yn y ddalfa wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad i’w rhan yn llofruddiaethau pedwar o bobol yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r fyddin yn dweud y gall y swyddogion ddisgwyl “sancsiynau llym”.
Daw hyn ar ôl i rannau o gyrff gael eu canfod mewn afon ger dinas Timika ar ôl iddyn nhw geisio prynu arfau gan y swyddogion ar Awst 22 cyn ffrae fawr.
Mae gan Indonesia gryn bresenoldeb yn Papua, lle bu grwpiau bach o filwyr tros annibyniaeth yn brwydro ers degawdau, ac mae’r fyddin wedi’u cyhuddo ers tro o dorri hawliau dynol – rhywbeth maen nhw’n ei wadu.
Mae Byddin Ryddid Genedlaethol Gorllewin Papua yn galw ar y llywodraeth i ddwyn achos yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am y trais, gan rybuddio y gall fod rhagor o drais pe na baen nhw’n cymryd camau i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Mae’r frwydr wedi cynyddu’n sylweddol ers 2018, gydag ymladd mwy ffyrnig a mwy o farwolaethau ar y ddwy ochr, yn ôl yr awdurdodau, sy’n dweud bod hyn o ganlyniad i fwy o arfau’n cyrraedd y wlad.