Mae Elwyn Vaughan, arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Powys, yn galw am “greu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn y Gelli Gandryll”.

Daw hyn ar drothwy cyfarfod â rhieni’r ardal sy’n ymgyrchu dros addysg Gymraeg.

Mae’r cynghorydd yn galw ar Gyngor Powys i sicrhau darpariaeth yn y dref er mwyn cynyddu nifer y disgyblion dwyieithog yn yr ardal leol.

“Mae’r Gelli’n adnabyddus fel cartref llenyddiaeth, cyfathrebu, iaith a geiriau,” meddai.

“Pa well le, felly, i sefydlu darpariaeth iaith Gymraeg newydd yn yr ardal, a sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fod yn gyfangwbl ddwyieithog a gwerthfawrogi treftadaeth gyfoethog yr ardal a Chymru?”

Mae’n galw am gydweithio rhwng Cyngor Powys, Mudiad Meithrin a’r ysgol gynradd leol i sicrhau’r ddarpariaeth newydd drwy gynyddu nifer y disgyblion, a fydd yn “ei gwneud hi’n haws maes o law i gynllunio darpariaeth addysg uwchradd yn ne Powys”.

“Rwy’n llwyr gefnogi dyheadau rhieni, eu gweledigaeth a’r Gelli Gandryll gyda’i hanes diwylliannol cyfoethog a’i chyfraniad i Gymru,” meddai.

“Mae ei diddordeb mewn ieithoedd yn ei gwneud hi’r lle delfrydol i Gyngor Powys roi’r egwyddor o amlieithrwydd ar waith.

“Byddai ei chael ar y ffin â Sir Henffordd yn anfon neges glir fod Powys eisiau bod yn rhan o’r Gymru newydd, Cymru ddwyieithog lle gall pob cornel o Bowys fod yn rhan gyfartal ohoni.”