Ar ôl bod yn archifo a phostio lluniau o Eisteddfod Aberteifi yn 1976 ar ei thudalen Facebook, yma mae Janice Llwyd, gwraig y Prifardd Alan Llwyd, yn cofio un o’r digwyddiadau enwocaf yn hanes yr Eisteddfod. Cafodd ei gŵr ei gadeirio dan amgylchiadau dadleuol, ddyddiau’n unig ar ôl cael ei goroni. Daeth hi i’r amlwg fod yr enillydd gwreiddiol, Dic Jones, yn aelod o’r Pwyllgor Llên ac nad oedd ganddo fe hawl i gystadlu, yn ôl rheolau’r Eisteddfod. Cafodd Dic o’r Hendre ei ddiarddel, a chafodd y Gadair ei chynnig i Alan Llwyd, a thrwy hyn fe gyflawnodd y gamp o ennill y ’dwbwl dwbwl’ – y Gadair a’r Goron yn yr un Eisteddfod am y tro cyntaf ar ôl ennill y dwbwl dair blynedd ynghynt… 


Cadeirio Alan Llwyd (Llun trwy garedigrwydd Janice Llwyd)

Ymatebodd llawer o bobol i’r llun o Eisteddfod Aberteifi, gan ddweud eu bod yn cofio’r Eisteddfod yn iawn. Es i ac Alan i’r Eisteddfod gyda’n gilydd am y tro cynta’. Roedd Alan yn ennill y Goron ar y dydd Mawrth.

Ar y dydd Llun, wrth gerdded o gwmpas y maes, fe gawson ni neges fod Llys yr Eisteddfod am weld Alan, am ei fod wedi ennill y Gadair ar y dydd Iau hefyd. Gofynnodd Alan i’w hen weinidog, Gareth Maelor Jones (tad y Prifardd Esyllt Maelor) ddod gyda ni.

Alan a Janice Llwyd a'u meibion
Alan a Janice Llwyd a’u meibion (Llun trwy garedigrwydd Janice Llwyd)

Aethon ni i ystafell yn y pafiliwn gyda rhyw ddeg o bobol yno. Y rhai wy’n cofio yw Gwyndaf, a fe oedd y prif siaradwr, a’r Archdderwydd R Bryn Williams. Roedd Emyr Feddyg yno hefyd, a llawer o brif swyddogion eraill. Esboniwyd beth oedd wedi digwydd, a dechreuodd pawb geisio perswadio Alan i dderbyn y Gadair. Doedd e ddim am dderbyn y Gadair o gwbwl.

Aethon nhw â fi i ddangos y Gadair imi, er mwyn i fi weld pa mor hardd oedd hi. Mae’n un o’r cadeiriau hardda’ sydd wedi bod. Wy i a Ioan [fy mab] ar y Gadair yn y llun. Dywedodd y swyddogion y byddai peidio â derbyn y Gadair yn difetha’r Eisteddfod, yn enwedig gan fod Prifwyl Aberteifi yn dathlu wythganmlwyddiant yr Eisteddfod. Heb ddim cadeirio, byddai’r Eisteddfod yn fethiant llwyr, medde Gwyndaf. Erbyn y diwedd roeddwn i’n llefen. Roedd Gwyndaf a phawb arall yn hynod o ofidus ac eto, roedden nhw’n rhyfeddol o garedig, a ches i sws gan bob un ohonyn nhw cyn gadael!

Cymerodd ddau ddiwrnod i Alan benderfynu a fyddai yn derbyn y Gadair ai peidio, a gwnaeth hynny er mwyn yr Eisteddfod, ac er mwyn yr holl bobol a oedd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod yr Eisteddfod honno yn llwyddiant, nid er ei fwyn ei hun. Odw, wy’n cofio’r Eisteddfod honno hefyd!