Mae perchnogion Castell Gwrych yn dweud eu bod yn pryderu bod rhan o wal restredig Gradd II 200 oed sydd ar y safle wedi dymchwel.

Cafodd y rhan o’r wal ger Ffordd Eldon yn Abergele ei symud dros y penwythnos, gan arwain preswylwyr i gwyno wrth y Cyngor.

Mae’r wal yn gwahanu’r ffordd oddi wrth dir sy’n perthyn i Andrew Wood, cynghorydd Abergele, sy’n dweud bod rhaid dymchwel rhan o’r wal gan ei bod yn beryglus.

Ar un adeg, roedd y tir yn rhan o ystad wreiddiol Castell Gwrych ond mae bellach yn eiddo Andrew Wood, sy’n aelod o bwyllgor cynllunio Conwy.

‘Pryderon’

“Rydym yn rhannu pryderon gyda thrigolion fod rhan o’r wal ffin restredig wedi cael ei difrodi,” meddai llefarydd ar ran Castell Gwrych.

“Nid ydym yn ymwybodol o’r amgylchiadau llawn o ran sut y cafodd y wal ei difrodi, ar hyn o bryd.

“Mae’r wal yn rhestredig Gradd II ac mae’n rhan o’r tirlun rhestredig Gradd II.

“Yn ddiweddar, cafodd cais cynllunio i droi’r tir yn rhandiroedd a safle carafanau bach ei dynnu’n ôl.

“Roedd Cadw a sefydliadau eraill wedi gwrthwynebu’r cynlluniau gan y byddai’n difetha’r tirlun rhestredig.”

‘Sioc’

Mae’r teulu Latham hefyd yn berchen ar dir gerllaw’r wal sydd wedi’i difrodi.

“Mae ein teulu ni wedi bod yn berchen ar Abergele Gate Lodge ers 1946, sydd wedi’i leoli dros y ffordd i dir y Cynghorydd Wood, ac rydyn wedi cael sioc o weld bod rhan o’r wal wedi’i ddifrodi,” meddai llefarydd ar ran y teulu.

Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd ar ran cyngor Conwy fod “y Gwasanaethau Cynllunio yn edrych ar unrhyw bryderon o’r fath sy’n cael eu cyflwyno iddyn nhw, ac fe fydd cwynion dilys bob amser yn cael eu hymchwilio.”