Mae Cymdeithas Syriaidd Cymru wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i greu rhaglen fisas ar gyfer Syriaid sydd wedi’u heffeithio gan y daeargrynfeydd diweddar.

Erbyn hyn, mae dros 47,000 o bobol wedi marw yn Syria a Thwrci wedi’r daeargrynfeydd ar Chwefror 6.

Bu farw wyth person arall wedi i ddaeargryn arall daro ger Antakaya, Twrci ddydd Llun (Chwefror 20) hefyd.

Wrth alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am raglen fisas, dywedodd sawl cymdeithas Syriaidd fod ganddyn nhw aelodau fyddai’n barod i roi llety a chymorth ariannol i deulu agos sydd wedi’u heffeithio gan y daeargrynfeydd.

“Mae’r nifer gwirioneddol o farwolaethau yn codi’n sydyn,” meddai’r mudiadau, sy’n cynnwys Cymdeithas Syriaidd Cymru.

“Mae miloedd o deuluoedd Syriaidd yn ne Twrci a gogledd Twrci wedi cael eu gadael heb ddim llety na chefnogaeth ariannol.

“Mae’r teuluoedd hyn angen cymorth ar unwaith, yn enwedig gan y byddai cefnogaeth ddyngarol ryngwladol yn cymryd sawl mis i fynd i’r afael ag anghenion cynyddol y rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

“Yn sgil y sefyllfa ddigynsail hon, rydyn ni’n annog llywodraeth y Deyrnas Unedig i greu rhaglen dros dro, sy’n cyd-fynd â gweledigaeth ddyngarol ryngwladol a chyfreithiau’r Deyrnas Unedig, fyddai’n caniatáu i deuluoedd Syriaidd sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan y trychineb hwn ac sydd gan deulu agos yn byw yn y Deyrnas Unedig gael fisas.

“Rydyn ni hefyd yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynyddu’r nifer o Syriaid sy’n rhan o Raglen Adsefydlu’r Deyrnas Unedig a’r Rhaglen Noddi Cymunedol, mewn ffordd sy’n sicrhau ymrwymiad parhaus y Deyrnas Unedig tuag at ffoaduriaid a chyfraith ddyngarol ryngwladol.”

‘Torcalonnus’

Yn y cyfamser, mae elusennau DEC yn gweithio yn Nhwrci a Syria.

Dywed Dr Wassel Aljerk, rheolwr rhaglen ar gyfer y Syrian Expatriate Medical Association, sydd yn ninas Dana yn ardal Harem yng ngogledd-orllewin Syria fod “llawer o adeiladau wedi dymchwel yn Atareb, Salqin, Jindires”.

“Rydym yn clywed am lawer o anafiadau wrth i bobol neidio allan o fflatiau ar loriau uchel gan eu bod yn poeni na fydden nhw’n gallu dianc o’r adeilad mewn pryd,” meddai.

Mae’r adroddiadau gan gydweithwyr yn nhalaith Hatay, ardal gafodd ei heffeithio gan y daeargryn diweddaraf, yn “dorcalonnus”, yn ôl pennaeth Achub y Plant yng Nghymru.

“Mae plant wedi cael eu hanafu, wedi colli anwyliaid ac roedd llawer eisoes yn dangos arwyddion o ofid difrifol,” meddai Melanie Simmonds.

“Nawr, gyda mwy o adeiladau unwaith eto wedi’u difrodi neu eu dinistrio, mae cannoedd o filoedd o bobol yn cael eu gorfodi unwaith eto i geisio lloches yn y strydoedd er gwaethaf yr oerfel.

“Mae hi wedi bod yn un ergyd ar ôl y llall i’r teuluoedd yno.

“I blant a ddaliwyd yn y daeargryn newydd yma, byddai wedi bod fel ail-fyw hunllef – un sydd byth yn dod i ben.

“Rhaid i’r gymuned ryngwladol gamu i’r adwy ar frys i helpu cymunedau, awdurdodau lleol ac asiantaethau cymorth i ymateb heb unrhyw oedi, i unrhyw atal rhag colli bywyd, anafiadau a thrawma ymhellach.”