Mae pobol yng Nghymru’n gwario £59, ar gyfartaledd, mewn siopau cyfagos wrth ymweld â Swyddfa’r Post, yn ôl ymchwil newydd.

Bob blwyddyn, mae Swyddfa’r Post yn creu £155m i’r economi yng Nghymru, sy’n gyfystyr â £49 y pen, yn ôl ymchwil gan London Economics.

Mae Swyddfa’r Post yn cyflogi 2,830 o swyddi llawn amser yng Nghymru hefyd, ac yn 2021 fe wnaeth y cwmni gyfrannu £4.7bn i economi’r Deyrnas Unedig – sy’n fwy na chyfraniad maes awyr Heathrow.

Yn ôl y data ar gyfer 2021, fe wnaeth tripiau i swyddfeydd post yng Nghymru arwain at wariant ychwanegol o £188m mewn siopau eraill ar y stryd fawr.

Fe wnaeth yr adroddiad, Part and Parcel: the economic and social value of Post Office, adlewyrchu rôl Swyddfa’r Post fel rhan o isadeiledd economaidd y Deyrnas Unedig, ynghyd â’i rôl yn cefnogi busnesau bach a chanolig.

‘Asgwrn cefn yr economi’

Dros y Deyrnas Unedig, mae bron i dri ymhob deg o fusnesau bach a chanolig yn defnyddio swyddfeydd y post i dalu arian i mewn i’w cyfrifon a phostio bob wythnos.

“Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu y gwerth anferthol mae Swyddfa’r Post yn ei gynhyrchu ymhob congl o’r Deyrnas Unedig, gyda chyrhaeddiad sydd ddim yn cael ei weld yn aml gan fusnesau eraill,” meddai James Canning, un o awduron yr adroddiad ac ymgynghorydd economaidd gyda London Economics.

“Swyddfa’r Post yw asgwrn cefn economi’r Deyrnas Unedig, yn cefnogi gwerth economaidd drwy gefnogi busnesau.

“Maen nhw hefyd â rôl hanfodol wrth gadw gweithgarwch prynu a gwerthu’r Deyrnas Unedig yn fyw o ddydd i ddydd drwy fod yn angor ar y stryd fawr a chreu bywoliaeth i bostfeistri.”

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod 15% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn dibynnu ar eu Swyddfa Bost leol ar gyfer gwasanaethau bancio.

“Mae ein hymchwil yn dangos sut mae Swyddfa’r Post yn cefnogi’r mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas drwy ddarparu gwasanaethau hanfodol yn agos i’w cartrefi, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw presennol,” meddai.

“Mae’n drawiadol bod unigolion agored i niwed yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau Swyddfa’r Post, fel rhai ariannol a bancio, ac yn gweld gwerth mwy i Swyddfa’r Post nag eraill, er eu bod nhw ar incwm is ar y cyfan.”

‘Cysylltu pobol’

Ychwanega Nick Read, Prif Weithredwr Swyddfa’r Post, fod eu swyddfeydd, a’r postfeistri, yn cynnal y cysylltiad rhwng pobol.

“Boed hynny’n eu cysylltu i’r system ariannol a’u harian, i’w ffrindiau a’u hanwyliaid, i’w cwsmeriaid adref a thros y môr, neu’n gysylltiedig i bobol eraill – gall hynny fod yr unig gyswllt dynol yn niwrnod rhai pobol,” meddai.

“Mae’n dweud lot bod hanner ein cwsmeriaid yn credu bod Swyddfa’r Post yn mabwysiadu ymdeimlad o berthyn mewn cymuned.”